Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 8th JULY 2021

Llwyddiant ysgol Caerdydd gyda gwobr arian teithio llesol

Mae ysgol gynradd Whitchurch yng Nghaerdydd yn rhagori o ran cyflawniadau teithio llesol. Mae'r ysgol yn dathlu digwyddiad trawiadol yr wythnos hon, ar ôl cyflawni Gwobr Ysgol Teithio Llesol Arian Sustrans Cymru yn llwyddiannus.

Fusion Extreme stunt demo as prize for pupils achieving silver Active Travel School Award

Disgyblion Ysgol Gynradd Whitchurch yn mwynhau arddangosfa styntiau Fusion Extreme fel gwobr am eu llwyddiant yng Ngwobr Ysgol Teithio Llesol Arian.

Y Wobr Ysgol Teithio Llesol 

Mae ysgol Whitchurch yn dathlu cyflawniad trawiadol yr wythnos hon, ar ôl cyflawni Gwobr Ysgol Teithio Llesol Arian Sustrans Cymru yn llwyddiannus.

Mae'r wobr yn tynnu sylw at ymrwymiad yr ysgol i hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy i sicrhau newidiadau sefydliadol, diwylliannol ac ymddygiadol sy'n helpu cymuned yr ysgol i ddewis teithio llesol ar gyfer y daith i’r ysgol.

Ymhlith y cyflawniadau mae:

  • heriau teithio llesol
  • cynnydd o 20% yn y disgyblion sy'n teithio i'r ysgol yn llesol neu'n gynaliadwy
  • darparu storfa ddiogel ar gyfer beiciau a sgwteri, a gyflenwir gan Gyngor Caerdydd

Ddydd Llun, cynhaliwyd digwyddiad gwobrwyo gyda gwesteion gan gynnwys Julie Morgan AS, cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston a chynrychiolydd Teithio Llesol Cyngor Caerdydd, Naomi Marshallsea.
  

Yr effaith gall teithio llesol ei wneud 

Mae cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston yn adlewyrchu ar lwyddiant yr ysgol:

"Mae casglu Gwobr Arian Ysgol Teithio Llesol yn gyflawniad gwych ac yn dyst i waith caled a phenderfyniad pawb yn yr ysgol sydd wedi cymryd rhan.

"Mae cefnogi ac annog plant i deithio'n llesol i'r ysgol nid yn unig yn wych iddyn nhw ond mae'n cael effaith ar gymuned ehangach yr ysgol hefyd ac yn ysbrydoli eraill i ddilyn eu harweiniad.

"Ni ddylid tanamcangyfrif y gwahaniaeth y gall teithio llesol ei wneud oherwydd gall helpu i ffurfio arferion teithio cadarnhaol ar gyfer bywyd yn y dyfodol.

"Er bod yr ysgol a'r disgyblion wedi mwynhau dathliad o'u llwyddiant, gwn nad yw'n stopio yma ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn symud ymlaen i'w gwobr Aur."

Blockquote quotation marks
Mae cefnogi ac annog plant i deithio'n llesol i'r ysgol nid yn unig yn wych iddyn nhw ond mae'n cael effaith ar gymuned ehangach yr ysgol hefyd ac yn ysbrydoli eraill i ddilyn eu harweiniad. Blockquote quotation marks
Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston

Fel gwobr am eu gwaith caled a'u hymroddiad, mwynhaodd dros 600 o ddisgyblion yn eu swigod ddosbarth arddangosiad stynt beic awyr agored gan y grwp talentog Fusion Extreme.

Mae arddangosfa Fusion Extreme wedi’i gynllunio i fachu sylw’r plant.

Mae nhw hefyd yn ymgorffori’r styntiau anhygoel gyda negeseuon cadarnhaol yn annog plant i gadw’n iach ac yn egnïol.
  

Cymuned ysgol ymroddedig

Mae rhieni a phlant ymroddedig yn cerdded, olwynio, sgwtera neu feicio i’r ysgol yn rheolaidd, gan helpu i leihau llygredd ar strydoedd ysgolion ac yn y gymuned ehangach.

Ymhlith y buddion pellach mae gwell iechyd corfforol a lles ymhlith y disgyblion, ar gyfer plant hapusach ac iachach.

Mae Ysgol Gynradd Whitchurch wedi bod yn rhan o'r Rhaglen Teithiau Iach ers mis Medi 2020, ac wedi dangos ymrwymiad enfawr i deithio llesol.

Mae cefnogaeth gan eu Swyddog Teithiau Iach dynodedig yn golygu bod yr ysgol wedi cwblhau cynllun uchelgeisiol o weithgareddau ar thema teithio llesol i fodloni'r meini prawf wobr arian.

Cyflawniad allweddol arall yw’r prosiect ‘On Your Bike’ fel rhan o gynllun Erasmus.

Ymunodd Ysgol Gynradd Whitchurch ag Ysgol Gynradd Radnor fel ysgolion beicio enghreifftiol yng Nghymru, gydag ymweliadau cyfnewid â gwahanol wledydd ledled Ewrop gan gynnwys Portiwgal a'r Ffindir.
  

Cefnogaeth Cyngor Caerdydd 

Mae teithio llesol yr ysgol hefyd wedi cael ei gefnogi trwy ddarparu storfa feiciau ddiogel a fflydoedd beiciau i ddisgyblion, a ddarperir gan Gyngor Caerdydd.

Blockquote quotation marks
Mae ymdrechion Ysgol Gynradd Whitchurch wedi bod yn rhagorol a gobeithiaf bydd mwy o ysgolion yn dilyn yr un peth. Trwy nodi’r materion neu’r rhwystrau allweddol y mae plant yn eu teithio’n llesol, gallwn symud yn agosach at wireddu uchelgeisiau Caerdydd i ddod yn ddinas lanach a gwyrddach Blockquote quotation marks
Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth

Trawsnewid Caerdydd yn ddinas lanach, wyrddach

Dywedodd cynghorydd Caro Wild, aelod cabinet dros gynllunio strategol a thrafnidiaeth:

"Mae gweledigaeth drafnidiaeth 10 mlynedd Caerdydd ar gyfer y ddinas yn nodi cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd gyda'r nod o leihau tagfeydd, gwella ansawdd aer a brwydro yn erbyn y broblemau parhaus newid hinsawdd.

"Mae effaith traffig o’r daith i ysgolion bob dydd, yn rhoi pwysau trwm ar rwydwaith ffyrdd y ddinas.

"Mae ein tîm ymroddedig Ysgolion Teithio Llesol yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion i annog teuluoedd i newid eu hymddygiad teithio i’r ysgol.

"Mae ymdrechion Ysgol Gynradd Whitchurch wedi bod yn rhagorol a gobeithiaf bydd mwy o ysgolion yn dilyn yr un peth.

"Trwy nodi’r materion neu’r rhwystrau allweddol y mae plant yn eu teithio’n llesol, gallwn symud yn agosach at wireddu uchelgeisiau Caerdydd i ddod yn ddinas lanach a gwyrddach."
  

Cymryd rhan 

Os hoffai'ch ysgol weithio tuag at ennill gwobr Ysgol Teithio Llesol efydd, arian ac aur, cofrestrwch yma: Gwobr Ysgol Teithio Llesol Sustrans

Mae ceisiadau bellach ar agor i fod yn rhan o Raglen Teithiau Iach Sustrans Cymru gan ddechrau ym mis Medi.

  

Gwnewch gais nawr i gael cefnogaeth ar gyfer creu diwylliant sy'n ei gwneud hi'n haws i blant gerdded, olwynio, sgwtera neu feicio. 

Share this page

Cymerwch gip ar y newyddion diweddaraf gan Sustrans yng Nghymru