Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 22nd JANUARY 2021

Sustrans Cymru yn croesawu argymhellion y Llywodraeth ar Gomisiwn Burns

Rydym yn croesawu’n gynnes benderfyniad Llywodraeth Cymru i dderbyn mewn egwyddor holl argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru. Mae'r opsiwn cynaliadwy hwn yn lle ffordd ryddhad yr M4 yn gosod enghraifft wych o arweinyddiaeth a chyflawni yn erbyn uchelgeisiau. Rydym yn edrych ymlaen at glywed sut mae hyn yn esblygu.

A Woman Unlocking Her Bike At A Bike Parking Stations In Oxford

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i dderbyn argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru, sydd â’r dasg o ddod o hyd i ddewisiadau amgen cynaliadwy ar gyfer ffordd ryddhad yr M4, yn gosod enghraifft wych o arweinyddiaeth a chyflawni yn erbyn uchelgeisiau.

Roedd y penderfyniad i beidio ag adeiladu ffordd ryddhad yr M4 yn gam mawr i'r cyfeiriad cywir.

Ond mae'r penderfyniad i dderbyn y dewis arall hwn, dull llawer mwy cyfannol o drafnidiaeth yng Nghasnewydd a'r cyffiniau, yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu rhwydwaith sy'n dda i bobl, cymunedau a'r amgylchedd.

Roeddem yn arbennig o falch o weld y Dirprwy Weinidog, Lee Waters, yn cyflwyno mater tagfeydd ar yr M4 fel “catalydd ar gyfer newid ehangach”.

Mae hyn yn gosod y naws ar gyfer buddsoddiad llawer mwy cynaliadwy dros yr 20 mlynedd nesaf.

Mae'r penderfyniad i dderbyn argymhellion y Comisiwn yn arddangosiad perffaith ar gyfer y newid cyfeiriad hwn.

Mae'n symud i ffwrdd o adeiladu rhwydweithiau ffyrdd sy'n tyfu'n barhaus, a thuag at rwydwaith o deithio integredig cynaliadwy, gan helpu pobl i adael eu car gartref.

Rydym yn falch iawn o weld ymrwymiad gwirioneddol Llywodraeth Cymru i'r prosiect hwn ac i ddod o hyd i atebion trwy ddechrau sgyrsiau yn gynnar a gweithio mewn partneriaeth.

Rydym hefyd yn croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol a ddangosir yn y Siambr. Gobeithiwn y bydd hyn yn trosi i'r prosiect yma ac yn dwyn ffrwyth waeth beth yw cyfansoddiad y llywodraeth ar ôl Mai 2021.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed sut fydd hyn yn esblygu ac yn croesawu arddangosiad Llywodraeth feiddgar o arweinyddiaeth dwer sy'n dangos pan fydd ewyllys wleidyddol yn bresennol, ei bod yn bosibl cyflawni newid.

 

Darganfyddwch fwy am ein gwaith yng Nghymru

 

Share this page