Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 4th MARCH 2020

Mae trigolion Caerdydd eisiau mesurau i leihau'r defnydd o geir a chynyddu beicio

Mae Bywyd Beicio Caerdydd, adroddiad ar 1,462 o arferion beicio trigolion Caerdydd yn dangos cefnogaeth gyhoeddus gref i fesurau i leihau defnydd ceir a'i gwneud hi'n haws i bobl i feicio.

Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn cynnwys:

  • Mae bron i ddwy ran o dair o drigolion Caerdydd (62%) eisiau mwy o fuddsoddiad mewn beicio, yn hytrach na’r 32% ar gyfer gyrru. Mae 73% eisiau mwy o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Mae adroddiad Bike Life yn dangos cefnogaeth gyhoeddus gref i fesurau i leihau defnydd ceir a'i gwneud hi'n haws i bobl feicio.
  • Mae 62% o'r preswylwyr yn cefnogi codi tâl ar gerbydau llygrol i fynd i ganol y ddinas.
  • Mae 73% o drigolion yn cefnogi adeiladu lonydd beicio mwy gwahanedig, hyd yn oed pan fyddai hyn yn golygu llai o le i draffig.
  • Mae 78% o drigolion eisiau gweld gostyngiad yn lefelau'r traffig ar y ffordd er mwyn cynyddu diogelwch beicio.

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn gwynebu argyfwng hinsawdd ac amcangyfrifir bod llygredd aer yn cyfrannu at 2,000 o farwolaethau'r flwyddyn. Mae tagfeydd a llygredd ar y strydoedd ac mae pobl yn anadlu aer gwenwynig bob dydd.

Mae gan gynyddu nifer y bobl sy'n beicio a lleihau dibyniaeth pobl ar y car y potensial i lanhau'r aer rydyn ni'n ei anadlu a gwella'r amgylchedd i bawb.

Mae adroddiad Bywyd Beicio yn dangos bod cefnogaeth gref gan drigolion Caerdydd i leihau maint y traffig modur ar ffyrdd a chynyddu niferoedd beicio ledled y ddinas.

Mae beicio eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar arferion teithio yn y ddinas;

  • Mae beicio yn mynd â 14,000 o geir oddi ar y ffordd bob dydd yng Nghaerdydd.
  • Mae'r lefelau beicio cyfredol yng Nghaerdydd yn arbed 6,500 tunnell o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn flynyddol, yr un ôl troed carbon â 16,000 o bobl sy'n hedfan o Gaerdydd i Tenerife.
  • Gwneir 14,000 o deithiau beicio yn ddyddiol yng Nghaerdydd (o aelwydydd â char), pe bai'r holl bobl hyn yn defnyddio eu car, byddai'n creu tagfa draffig o Gaerdydd i Abertawe.

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymgymryd â nifer o fentrau dros y flwyddyn ddiwethaf ac maent yn cynllunio rhaglenni newydd uchelgeisiol i'w gwneud hi'n haws i bobl feicio yn y ddinas. Mae'r mentrau hyn yn cynnwys rhwydweithiau llwybr beicio a ddiogelir rhag traffig, cyflwyno terfynau 20mya mewn ardaloedd preswyl a buddsoddi yn llwyddiant parhaus Nextbike, cynllun llogi beiciau stryd ar Caerdydd.

Blockquote quotation marks
Rydym yn gwybod bod Caerdydd yn gwynebu heriau sylweddol o ran ansawdd aer gwael ac effeithiau tagfeydd traffig. Lleihau nifer y ceir ar ein ffyrdd yw'r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o lanhau'r aer rydyn ni'n ei anadlu a lleihau ein heffaith ar yr argyfwng hinsawdd. Mae darparu rhwydwaith beicio diogel a deniadol yn gam pwysig wrth sicrhau ein bod yn symud i ffwrdd o ddibyniaeth ar geir yn y ddinas Blockquote quotation marks
RYLAND JONES, CYFARWYDDWR DIRPRWY INTERIM, SUSTRANS CYMRU

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd:

“Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi nodi ein gweledigaeth drafnidiaeth ar gyfer y ddinas am y 10 mlynedd nesaf, sy'n cynnwys cynlluniau uchelgeisiol i weithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus i gynyddu'r buddsoddiad yn y seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a theithio egnïol yn sylweddol.

“Mae nifer y bobl sy’n beicio i’r gwaith yng Nghaerdydd wedi dyblu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf ac rydym yn anelu at ddyblu hyn eto erbyn 2030. Rydym yn buddsoddi mewn pum llwybr beicio ar wahân newydd, i gysylltu cymunedau â chyrchfannau allweddol ledled y ddinas. Bydd hyn yn gwneud teithio ar feic yn opsiwn mwy deniadol, mwy diogel a mwy hyfyw i deithio.

“Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wneud opsiynau teithio cynaliadwy yng Nghaerdydd yn fwy deniadol na theithio mewn car preifat. Bydd hyn yn gwella ein hamgylchedd trefol yn sylweddol, yr aer yr ydym i gyd yn ei anadlu yn ogystal â gwella iechyd ein dinasyddion. ”

Darllenwch fwy am Bywyd Beicio Caerdydd a dadlwythwch yr adroddiad

Share this page