Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 9th MARCH 2020

Gwobr Ysgol Aur Sustrans wedi'i ddyfarnu i Ysgol Gynradd Coychurch

Mae Ysgol Gynradd Coychurch ym Mhen-y-bont wedi ennill y Gwobr Nod Ysgol Aur Sustrans gyntaf yng Nghymru am eu hymroddiad i deithio egnïol.

Children at Coychurch Primary school celebrate receiving the Sustrans Gold School Mark award.

Dyfernir Nod Ysgol Aur Sustrans i ysgol sydd wedi dangos ymrwymiad parhaus i hyrwyddo teithio egnïol a chynaliadwy dros sawl blwyddyn, sydd wedi arwain at newidiadau sefydliadol, diwylliannol ac ymddygiadol sylweddol a pharhaol.

Dywedodd Steve Brooks, Sustrans Cymru, a gyflwynodd y wobr:

“Mae Ysgol Gynradd Coychurch wedi mynd y tu hwnt i wneud teithio egnïol yn rhan bob dydd o fywyd yr ysgol. Mae bod yr ysgol gyntaf i ennill Gwobr Aur Sustrans yn gyflawniad gwych, mae'n wirioneddol dangos ymroddiad i deithio egnïol.

“Cerdded, beicio neu sgwtera i’r ysgol ddylai fod yr opsiwn mwyaf diogel, hawsaf a mwyaf hygyrch i bob plentyn ysgol. Mae newid ein ffordd o deithio i'r ysgol yn allweddol i fynd i'r afael â llygredd aer a chynyddu lefelau gweithgaredd ymysg plant.”

Dathlodd yr ysgol gyda gwasanaeth arbennig lle darlledwyd neges gan Geraint Thomas, pencampwr Tour de France, yn llongyfarch yr ysgol ar eu cyflawniad.

Roedd rhai o weithgareddau'r ysgol i gyflawni'r Wobr Aur yn cynnwys cynnal sgiliau sgwteri ar gyfer oedolion a sesiynau cynnal a chadw beiciau teulu. Fe wnaethant hefyd cynnwys y gymuned leol wrth ymgyrchu dros dawelu traffig yn y pentref a llwybr teithio egnïol yn cysylltu eu hysgol â Pencoed.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Lee Waters:

“Rwyf am longyfarch yr ysgol a’i disgyblion am gyflawni’r wobr aur hon. Mae'n enghraifft wych o sut y gall ysgolion fod yn rhagweithiol, herio ymddygiadau teithio a'u newid er budd pawb, wrth ei wneud yn hwyl hefyd.

“Mae’r Gweinidog Addysg a minnau wedi cytuno bydd prosiectau ysgolion 21ain ganrif Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n gryfach ar sut mae disgyblion yn cyrraedd yr ysgol, gan bwysleisio teithio egnïol. Mae sicrhau'r siwrnai ysgol yn hanfodol ac mae Ysgol Gynradd Coychurch wedi gosod esiampl gwych o sut y gellir gwneud pethau.”

Dywedodd Melanie Treadwell, Hyrwyddwr Teithio Egniol yr Ysgol a Chydlynydd Eco:

“Rydyn ni wrth ein bodd bod ein hymdrechion i hyrwyddo Teithio Egniol wedi cael eu cydnabod gan Sustrans Cymru. Mae cyflawni y gwobr aur cyntaf yng Nghymru yn gyflawniad gwych i'n hysgol fach a'r gymuned leol, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn ein taith tuag at y wobr Aur.”

Mwy o wybodaeth am Nod Ysgol Sustrans  

Share this page