Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 27th AUGUST 2020

Ysgol Gogledd Cymru yn gosod targedau uchelgeisiol gyda Rhaglen Teithiau Iach Sustrans

Rydym yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i'w gwneud hi'n haws i blant gerdded, sgwterio neu feicio. Mae Ysgol Llywelyn yn y Rhyl wedi bod yn uchelgeisiol yn eu nodau i gynyddu nifer y teuluoedd sy'n dewis teithio llesol i gyrraedd yr ysgol. Ac mae ein Rhaglen Teithiau Iach yn helpu'r ysgol i gyrraedd ei nod.

People cycling, walking and scooting to school

Nid yw teithio llesol yn bwysig yn unig ar gyfer y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a lleihau llygredd aer. Mae hefyd yn wych i'n hiechyd a'n lles corfforol.

Mae ein Rhaglen Teithiau Iach yng Nghymru yn helpu plant ledled y wlad i deithio i'r ysgol ar droed, beic a sgwter yn ddiogel, yn hawdd ac yn hyderus.

Gweithiodd Swyddog Teithiau Iach Sustrans Cymru, Gwen Thomas, gydag Ysgol Llywelyn i wella nifer y plant sy'n cyrraedd yr ysgol ar droed neu ar feic.

Cynllun uchelgeisiol

Roedd gan Ysgol Llywelyn gynllun uchelgeisiol. Roeddent am weld holl ddisgyblion Blwyddyn 2 yn gallu reidio beic cyn iddynt orffen eu hamser yn y  cyfnod Sylfaen.

Ymunodd yr ysgol â Rhaglen Teithiau Iach Sustrans ac roeddent yn awyddus i adeiladu ar y gwaith yr oeddent eisoes wedi'i wneud fel rhan o'r rhaglen Ysgolion Iach.

Fe wnaethant gyflawni Gwobrau Ysgol Teithio Iach Efydd ac Arian yn gyflym.

Dyfernir y statwsau hyn i ysgolion sydd wedi gweithio i sicrhau newidiadau sefydliadol, diwylliannol ac ymddygiadol sy'n helpu cymuned yr ysgol i does teithio mewn ffyrdd mwy egnïol a chynaliadwy.

Hyrwyddo teithio egnïol i'r ysgol

Fe wnaethant hyrwyddo teithio egnïol i'r ysgol trwy ddigwyddiadau, gwaith ystafell ddosbarth, a gosod storfa beiciau a sgwteri, gyda chymorth Cyngor Sir Dinbych.

Roedd Ysgol Llywelyn eisoes yn cefnogi plant sydd â diddordeb mewn beicio trwy sesiynau Go Ride.

Penderfynodd yr ysgol fynd gam ymhellach ac ymgorffori ethos Teithiau Iachl yn eu Cynllun Datblygu Ysgol.

Er mwyn rhoi’r cynllun ar waith, penderfynodd yr ysgol fuddsoddi mewn fflyd o feiciau i helpu i gyflawni ei nod uchelgeisiol.

Trwy bartneriaethau Sustrans, roeddent yn gallu prynu ystod o feiciau ar gyfer gwahanol alluoedd.

Roedd y rhain yn cynnwys Beiciau Balans Tadpole, Beiciau “Frog” ac ychydig o feiciau mwy fel y gallai disgyblion gael pedlo ar ôl iddynt feistroli'r grefft o gydbwyso.

Gwella iechyd a lles

Dywedodd Gwen Thomas, ein Swyddog Teithiau Iach:

“Mae Ysgol Llywelyn yn enghraifft wych o ysgol sy'n deall pwysigrwydd teithio llesol.

“Mae gweithio gyda’r ysgol uchelgeisiol hon wedi bod yn bleser ac mae wedi bod yn wych gweld cymaint o ddisgyblion yn dysgu sgiliau newydd.

"Mae bod yn egnïol ar y daith i'r ysgol yn helpu i wella iechyd a lles cyffredinol cymuned yr ysgol.

"Mae yna lawer o fuddion eraill hefyd fel gwell canolbwyntio, perfformiad, ymddygiad a chyrhaeddiad."

 

Darganfyddwch fwy am ein Rhaglen Teithiau Iach yng Nghymru.

Share this page