Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 30th APRIL 2020

Sustrans Cymru yn galw am isadeiledd dros dro ar gyfer cerdded a beicio

Mae Sustrans Cymru ynghyd â mudiadau eraill wedi ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi a hwyluso ymdrechion awdurdodau lleol i osod isadeiledd dros dro yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud oherwydd y coronafeirws.

People on bikes cycling in a London street
Blockquote quotation marks
Mae angen inni wneud mwy a gweithredu’n gyflymach ledled Cymru i sicrhau y gall ein gweithwyr allweddol gyrraedd eu gwaith yn ddiogel, ac i alluogi pobl i gerdded a beicio fel rhan o’u hymarfer corff dyddiol. Mae’r cyngor ar gadw pellter cymdeithasol, fodd bynnag, yn amlygu’r diffyg lle diogel mewn rhai ardaloedd a fyddai’n galluogi pobl i wneud teithiau hanfodol a chael ymarfer corff mor ddiogel â phosibl. Mae nifer o fesurau y gall awdurdodau lleol eu rhoi ar waith yn sydyn a heb gostau mawr. Ond mae angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru arnynt i wneud i hyn ddigwydd Blockquote quotation marks
RYLAND JONES, DIRPRWY GYFARWYDDWR DROS DRO, SUSTRANS CYMRU

Llythyr agored i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC.

 

Annwyl Lee,

Isadeiledd dros dro ar gyfer beicio a cherdded

Fel y gwyddoch, mae trefi a dinasoedd ledled y byd yn galluogi newidiadau dros dro i strydoedd a ffyrdd, gyda'r nod o gefnogi gweithwyr allweddol sy'n dewis cerdded a beicio i symud o le i le’n ddiogel yn ystod yr argyfwng presennol.

Mae'r newidiadau hyn yn rhoi lle sy’n caniatáu cadw pellter cymdeithasol, atal lledaeniad coronafeirws a chefnogi'r frwydr barhaus yn erbyn y pandemig hwn.

Rydym yn falch iawn o weld Cyngor Caerdydd yn dechrau cyflwyno mesurau fel parthau 20 mya dros dro ac ailddyrannu lle ar y ffyrdd i ganiatáu i gerddwyr a beicwyr gadw pellter cymdeithasol.

Does dim amheuaeth bod cael Next Bikes ar gael i staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a’r cymhorthdal ar waith trin a thrwsio gan Pedal Power, yn gefnogaeth werthfawr i’r rhai yr ydym oll yn dibynnu arnynt.

Mae'r cynnydd yn y nifer o bobl sy'n beicio ac yn cerdded i wneud ymarfer corff yn unol ag argymhellion iechyd cyhoeddus y llywodraeth hefyd yn galonogol.

Mae poblogaeth ffit ac iach yn boblogaeth fwy gwydn, ond er mwyn galluogi ymarfer corff diogel, mae angen gwneud newidiadau i'n trefi a'n dinasoedd.

Mae angen mwy o le i alluogi pawb i symud yn ddiogel wrth gynnal pellter cymdeithasol digonol.

Mae gennym lawer iawn o ofod ffordd nad yw'n cael digon o ddefnydd ar hyn o bryd ac y gellir newid ei bwrpas dros dro am gost isel, ond mae angen inni weithredu'n gyflym.

Gwyddom y gall dulliau gwahanu ysgafn gynnig lleoedd i gerddwyr a beicwyr deimlo’n ddiogel, ac y gellir eu gosod yn gyflym ac am gost isel.

Mewn trafodaeth â chydweithwyr yn y GIG, gwyddom y byddai'r mesurau hyn yn cael effaith gadarnhaol wrth annog mwy o weithwyr iechyd i feicio i'r gwaith, gyda'r budd ychwanegol o’u gwahanu eu hamddiffyn rhag traffig modur.

Ar ôl i’r cyfyngiadau symud presennol ddod i ben, bydd cyfran fawr o boblogaeth Cymru eto'n symud o amgylch trefi a dinasoedd, ond byddant yn betrusgar am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle mae mwy o risg o drosglwyddo’r haint.

Er mwyn lliniaru ail don o achosion coronafeirws, teimlwn y byddai’n ddoeth cynllunio ymlaen llaw a gweithredu'r mesurau dros dro hyn nawr ar gyfer gweithwyr allweddol, ond hefyd i ganiatáu i'r boblogaeth ehangach deithio ar feic neu ar droed, gyda phellter cymdeithasol diogel, pan fydd y cyfyngiadau symud yn cael eu codi.

At hynny, mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg sy’n awgrymu bod y risg o farwolaeth o Covid-19 yn cynyddu mewn ardaloedd o ansawdd aer gwael.

O annog a galluogi pobl i fabwysiadu dulliau iach a chynaliadwy o deithio fel rhan o'u harferion dyddiol, gellid ymestyn y gwelliannau ansawdd aer rydym yn eu gweld yn ystod y cyfnod presennol o gyfyngiadau symud.

Bydd hyn yn cael effaith fuddiol ar y nifer fawr o afiechydon y gwyddom eisoes sydd yn gysylltiedig â llygredd aer a gallai fod o gymorth yn benodol yn y frwydr yn erbyn coronafeirws hefyd.

 

Yr eiddoch yn ffyddlon, 

 

Gwenda Owen, Cycling UK

Dr Tom Porter, Ymgynghorydd Meddyginiaeth Iechyd Cyhoeddus, Teithio Llesol Cymru (teithiollesol.cymru)

Neil Canham, Sustrans Cymru

Anne Adams-King, Beicio Cymru

Joseph Carter, Awyr Iach Cymru

Rebecca Brough, Cerddwyr Cymru (Ramblers Cymru)

Sian Donovan, Pedal Power Caerdydd

Stephen Edwards, Living Streets

Will Butler-Adams OBE, Prif Weithredwr Brompton Bicycles

Andy Middleton, NOW Partners

Share this page