Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau eu cyllideb gyntaf ers iddynt ddatgan Argyfwng Hinsawdd.
Yn dilyn y rhyddhad, dywedodd Ellen Jones, Uwch Swyddog Polisi Sustrans Cymru:
“Rydym yn croesawu’r ffocws cynyddol yn y gyllideb i gefnogi mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, sy’n cynnwys gwneud teithio cynaliadwy yn fwy hygyrch i bawb, cefnogi mynediad i fannau gwyrdd yn ein cymunedau, a buddsoddi yn ein cymdogaethau.
"Ond, os yw llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â lleihau effeithiau argyfwng yr hinsawdd, mae angen i ni weld canran lawer mwy o'r gyllideb drafnidiaeth yn cael ei buddsoddi mewn trafnidiaeth gynaliadwy a llai yn cael ei buddsoddi mewn adeiladu ffyrdd newydd.
"Er mwyn ei gwneud yn opsiwn hawdd i bobl adael eu ceir gartref mae angen i ni weld seilwaith cerdded a beicio o ansawdd da, wedi'i gysylltu â system drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, ddibynadwy a fforddiadwy.
"Er mwyn adeiladu Cymru gwydn sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae angen cyllideb arnom sy'n adlewyrchu brys yr argyfwng hinsawdd yr ydym ynddo. ”