Mae Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru wedi rhyddhau adroddiad ar atebion amgen i ffordd ryddhad yr M4.
Sefydlwyd y Comisiwn gan y Prif Weinidog Mark Drakeford pan gyhoeddodd na fyddai ffordd ryddhad newydd yr M4 yn cael ei hadeiladu, penderfyniad y mae Sustrans yn ei gefnogi’n gryf.
Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd Ellen Jones, Uwch Swyddog Polisi:
“Mae'n addawol gweld bod y Comisiwn o ddifrif ynglŷn â darparu atebion amgen i'r car i bobl, bydd yr atebion tymor hir a amlygir yn yr adroddiad hwn, os cânt eu cyflwyno, yn mynd â Chymru gam yn nes at greu system drafnidiaeth sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
“Rydym yn gwybod mai dim ond plastr glynu fyddai adeiladu ffordd newydd ar gyfer y problemau tagfeydd y mae pobl Casnewydd yn eu hwynebu. Mae angen i ni ddarparu seilwaith cerdded a beicio o ansawdd da iddynt, a system drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a dibynadwy a hygyrch.
“Mae Sustrans yn edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach â’r comisiwn wrth iddyn nhw edrych i mewn i’w cynlluniau tymor hir yn fwy manwl.”