Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod cam cyntaf cynllun i gysylltu dwy dref yn Sir Benfro â llwybr teithio egnïol wedi agor yn swyddogol. Mae'r llwybr 17 cilomedr rhwng Arberth a Hwlffordd yn ymgorffori rhannau di-draffig a ffyrdd tawel ac yn dilyn priffyrdd, traciau, llwybrau ceffylau a llwybrau troed cyhoeddus presennol.
Bydd y cysylltiadau newydd hyn yn darparu cyfleoedd i bobl leol gael gafael ar swyddi, gwasanaethau a chyrchfannau twristiaeth gan ddefnyddio trafnidiaeth egnïol.
Buom yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Benfro i gyflawni'r prosiect hwn.
Yn ystod yr agoriad, dywedodd Elena Bianchi, rheolwr datblygu rhwydwaith yn Sustrans Cymru:
“Rydym yn hapus iawn i ddathlu agoriad y rhan hon o’r llwybr. Mae'n dangos sut mae cydweithredu ac ymgysylltu yn allweddol i sicrhau ein bod yn creu seilwaith di-draffig o ansawdd uchel sy'n addas ar gyfer pob defnyddiwr.
Yn ystod y broses hon, rydym wedi dysgu llawer ac yn edrych ymlaen at sicrhau bod y wybodaeth hwn ar gael ar gyfer dyfodol y prosiect ac ar gyfer prosiectau tebyg eraill ledled y DU.”
Mae'r cynllun yn rhan o brosiect mwy o'r enw Cysylltu, sy'n gwella cysylltiadau rhwng wyth cymuned wledig ledled Cymru a'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Bydd y cysylltiadau newydd hyn yn darparu cyfleoedd i bobl leol gael gafael ar swyddi, gwasanaethau a chyrchfannau twristiaeth gan ddefnyddio trafnidiaeth egnïol.
Mae cydweithredu wedi bod yn hanfodol yn ystod y prosiect Cysylltu, gan ymgorffori barn ac anghenion y gymuned leol a sicrhau ein bod yn darparu llwybrau a fydd yn cael eu defnyddio gan bawb.
Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol, partïon â diddordeb, llunwyr polisi a chyrff statudol i ddatblygu cynlluniau parod y gellir eu cyflwyno ar gyfer cyllid pellach gyda'r nod o adeiladu'r llwybrau.