Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 5th MAY 2020

Cynghorion diogelwch cerdded i blant

Nid oes isafswm oed cyfreithiol i ganiatáu i blant gerdded i’r ysgol neu leoedd eraill ar eu pennau eu hunain. Pan fyddan nhw’n gwneud, gall fod yn amser cyffrous gan ei fod yn gyfle iddyn nhw ddangos annibyniaeth. Ond, gall fod yn gyfnod llawn pryder i rieni, yn arbennig o ran diogelwch ar y ffyrdd. Dyma’n cynghorion diogelwch cerdded ar gyfer plant.

Mum walking to school, holding hands with her twin daughters smiling at the camera

Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o baratoi plant yw dechrau’n ifanc ac ymarfer trwy brofiad yn y byd go iawn, fel cerdded i’r ysgol, i’r parc neu i’r cae chwarae.

Mae plant sy’n datblygu ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd yn yr ysgol gynradd mewn sefyllfa llawer gwell pan ddaw’n amser iddyn nhw drosglwyddo i’r ysgol uwchradd.

Nid oes isafswm oed cyfreithiol i ganiatáu i blant gerdded ar eu pennau eu hunain. I chi a’ch plentyn mae’r dewis a bydd yn dibynnu ar eu hyder a’r llwybrau maen nhw’n eu troedio.

Mynd ati i ddysgu ymwybyddiaeth ar y ffyrdd i’ch plentyn

Pan fyddwch yn cyflwyno ymwybyddiaeth ar y ffyrdd i blant ifanc, mae’n bwysig cofio fod eu canfyddiad o draffig yn wahanol i ganfyddiad oedolion.

Ni all plant fesur cyflymdra neu bellter cerbydau neu o ble mae’r sŵn yn dod bob amser, gan mai dim ond dau draean o faes gwelediad oedolyn sydd ganddynt.

Hefyd, mae sylw plant yn crwydro’n hawdd.

Yr hyn y gallwch chi ei wneud:

  • gosodwch esiampl dda: stopio, edrych a gwrando, peidio â chymryd risgiau ac osgoi defnyddio’ch ffôn symudol pan rydych yn croesi’r ffordd.
  • plygwch i lawr i weld o’r un lefel â nhw i gael syniad o’r hyn maen nhw’n gallu ei weld a’r hyn na allan nhw ei weld.
  • dewch o hyd i le diogel i groesi lle gallwch weld yn hawdd, yn ddelfrydol ar groesfan neu oddi wrth geir wedi parcio, a cherddwch yn syth dros y ffordd pan fydd hi’n glir.
  • siaradwch am y traffig a welwch ar eich ffordd a’r mannau gorau i groesi, a gofynnwch gwestiynau am gyflymdra a maint amrywiol gerbydau.
  • mewn mannau distaw, cynyddwch yn raddol ar y cyfleoedd i’ch plant wneud penderfyniadau am ble a pha bryd i groesi’r ffordd.

Am fwy o wybodaeth a chyngor am ddiogelwch ar y ffyrdd, ewch i wefan addysg Think! yr Adran Drafnidiaeth.

Annog annibyniaeth

Wrth i blant gyrraedd adran uwch yr ysgol gynradd, bydd eisiau mwy o annibyniaeth arnyn nhw.

Defnyddiwch hyn i atgyfnerthu eu hymwybyddiaeth ar y ffyrdd a’u hannog yn raddol i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain:

  • ewch ati i ymarfer cerdded i’r ysgol ac i fannau eraill gyda’ch gilydd. Dechreuwch adael iddyn nhw arwain y ffordd a gwneud penderfyniadau am ble a pha bryd i groesi
  • unwaith rydych chi’ch dau wedi magu digon o hyder, gallech adael i’ch plentyn gerdded ychydig pellach ymlaen na chi
  • pan fyddan nhw’n barod i fynd ar eu pennau eu hunain, gweithiwch allan pa lwybr i’w gymryd gan ddewis ffyrdd distawach ac osgoi cyffyrdd prysur. Cerddwch y llwybr hwn gyda nhw a nodi mannau croesi da a phethau i gadw golwg amdanynt
  • anogwch nhw i gerdded gyda ffrindiau lleol (gallech ddewis gosod rheolau sylfaenol gyda rhieni eraill yn gyntaf)
  • atgoffwch nhw i osgoi pethau sy’n tynnu eu sylw, fel sgwrsio gyda ffrindiau, defnyddio ffonau symudol neu wisgo clustffonau wrth groesi’r ffordd

Hoffech chi gael mwy o wybodaeth?

Dysgwch fwy am fanteision gwneud y daith ysgol ar ddwy droed neu ar ddwy olwyn

Ar ddwy droed neu dwy olwyn ar y daith i’r ysgol

10 darn o gyngor ar gyfer teuluoedd sy’n sgwtera i’r ysgol

Share this page