Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 5th MAY 2020

10 darn o gyngor ar gyfer teuluoedd sy’n sgwtera i’r ysgol

Gall y daith i’r ysgol fod yn rhan heriol o'ch diwrnod, gyda digon o rwystrau i'w goresgyn; mae yna blant gael trefn arnynt, bagiau ysgol i ddod o hyd iddynt, tagfeydd traffig i’w dioddef.

Two girls scooting to school

 Gallai sgwtera heibio'r traffig llonydd yng nghwmni eich teulu fod yn ffordd wych o ddechrau eich diwrnod.

Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Micro Scooters, dywedodd nifer fawr o rieni – 77% –eu bod yn teimlo bod y daith i’r ysgol yn fwy o straen na siopa bwyd neu fynd i’r gwaith.

Ond nid oes raid iddi fod felly. Gallai gwneud newid i'ch trefn ddyddiol wneud byd o wahaniaeth i sut rydych chi'n dechrau eich diwrnod.

Ledled y DU, clywn adroddiadau am lefelau cynyddol o segurdod a gordewdra mewn plentyndod.

Ar yr un pryd, mae lefelau isel o weithgaredd corfforol a dirywiad yn y nifer o deuluoedd sy'n beicio ac yn cerdded i'r ysgol yn cyfrannu at y broblem.

Yr her sy'n wynebu rhieni yw sut i gynnwys mwy o weithgaredd yn arferion dyddiol eu plant.

Mae teithiau iach i’r ysgol yn helpu i gynnwys mwy o ymarfer corff yn niwrnod y plentyn ac mae hefyd yn annog sgiliau eraill sy’n eu helpu i ddod yn fwy annibynnol.

Mae sgwtera’n fwy na dim ond ffordd iach o deithio, mae’n hwyl a sbri i'r teulu oll.

I’ch helpu chi i ddechrau sgwtera i'r ysgol, rydym wedi ymuno â Micro Scooters i roi'r cyngor sgwtera gorau i chi. Mae'n ffordd hwyliog ac egnïol o deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol, ac mae plant wrth eu boddau.

1. Gall bod yn egnïol fod yn ysgogiad

Gall ysgogi eich plentyn i gychwyn tua’r ysgol fod yn anodd – hynny yw, nes byddwch yn dweud wrthyn nhw y byddan nhw’n cael sgwtera yno, a mwyaf sydyn, bydd yn troi’n hwyl a sbri. Mae esgidiau ysgol yn cael eu gwisgo mewn eiliadau, bagiau ysgol yn dod i’r golwg, dannedd yn cael eu brwsio a phawb ar binnau i gael cychwyn.

Mae sgwtera’r daith i’r ysgol yn llesol i chi hefyd, mae’n ffordd braf o ffurfio’r cyhyrau – bydd eich coesau’n diolch ichi.

2. Cynlluniwch ymlaen llaw 

Os nad ydych wedi sgwtera’r daith o'r blaen, mae'n syniad da mynd ar hyd y llwybr cyn rhoi cynnig arno i deithio i’r ysgol. Bydd hyn yn helpu'ch plentyn i ymgyfarwyddo â ffordd newydd o deithio. Gallwch hefyd nodi unrhyw fannau problemus fel bryniau serth neu ffyrdd prysur a chwilio am ddewisiadau eraill.

3. Gwiriadau diogelwch

Mae’n hanfodol bwysig bod eich sgwter yn ddiogel i’w ddefnyddio. Cyn defnyddio sgwter, gwnewch yn siŵr ei fod yn ddiogel trwy gynnal gwiriad ‘L’: dechreuwch ar ben y siâp ‘L’ a gweithio tuag i lawr, wedyn symud ar hyd y gwaelod.

Dylech roi sylw’n arbennig i’r cyrn, gan sicrhau eu bod wedi’u gosod ar yr uchder cywir a bod y clamp sy’n eu dal yn dynn. Hefyd, dylech wirio fod y mecanwaith plygu wedi’i gloi’n sownd yn barod i’w reidio, fod y brêcs wedi’u bolltio’n ddiogel a bod yr olwynion yn troi’n rhydd ac yn gwbl sownd i’r sgwter.

Dylech fod yn ymwybodol o unrhyw ddarnau sydd ar goll, a sicrhewch nad oes unrhyw ddarnau amlwg ar goll neu wedi’u difrodi’n ddifrifol.

4. Bod yn barod

Fel gyda phob math o deithio llesol, mae’n syniad da bod yn barod cyn cychwyn allan. Cofiwch gario côt law gyda chi, a bod tywydd gwlyb yn gwneud arwyneb y ffordd a’r palmant yn fwy llithrig, felly bydd yn cymryd hirach i frecio. Gallai fod yn ddefnyddiol cario potel o ddŵr gyda chi ar eich taith, gan fod hydradu’r corff wrth wneud ymarfer corff yn bwysig iawn, a gall helpu i osgoi blinder.

5. Gweld a chael eich gweld

Os byddwch chi’n sgwtera liw nos, sicrhewch fod gennych olau i’ch galluogi i weld lle’r ydych chi’n mynd ac fel bod pobl eraill yn gallu eich gweld chi.

6. Cadwch eich dwylo’n rhydd

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cario eich pethau mewn sgrepan neu fag cefn wrth sgwtera – byddwch angen eich dwylo i lywio a chadw’ch balans.

Bydd cario bag cefn hefyd yn lleihau’r demtasiwn i fachu unrhyw fagiau ar gyrn y sgwter, ni ddylech wneud hyn o gwbl. Mae llwytho eich cyrn yn effeithio ar lywio’r sgwter a gallai beri ichi golli eich balans.

7. Dysgu moesau da

Efallai eich bod yn bryderus am nad ydych chi’n siŵr lle cewch chi sgwtera a lle na chewch chi – dyma gwestiwn a ofynnir yn aml ynghylch sgwteri. Yn anffodus, nid yw’r Ddeddf Priffyrdd yn eglur iawn ar y mater hwn gan nad yw’r adran ar balmentydd wedi cael ei ddiweddaru ers 1835.

Yn y pen draw, y ffordd orau o gadw’n ddiogel yw gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich gweld a’ch clywed a defnyddio synnwyr cyffredin. Yn gyntaf, peidiwch â sgwtera ar y ffordd – ni fydd gyrwyr yn disgwyl eich gweld yno a byddwch yn rhoi’ch hunan mewn perygl.

Yn ail, mae’n iawn ichi ddefnyddio’r palmant cyn belled â’ch bod yn ystyriol ac yn sgwtera mewn ffordd na fydd yn dychryn nac yn peri anghyfleustra i ddefnyddwyr eraill y palmant. Mae’n syniad hefyd sicrhau bod defnyddwyr eraill y llwybr yn ymwybodol ohonoch, er enghraifft trwy gael cloch a’i defnyddio bob hyn a hyn

Gan fod y Ddeddf Briffyrdd yn aneglur, y peth hawsaf yw bod yn ystyriol o eraill sy’n rhannu’r llwybr gyda chi.

8. Hyfforddiant sgiliau

Mae’n bwysig bod plant yn dysgu defnyddio eu sgwteri’n iawn er mwyn gallu reidio’n ddiogel. Mae’n bosibl bod hyfforddiant yn cael ei gynnig gan eich awdurdod lleol. Cysylltwch â’u tîm diogelwch ar y ffyrdd i ddarganfod beth sydd ar gael neu siaradwch gyda’ch cyswllt yn Sustrans os oes gennych chi un.

9. Cario clo

Oes angen clo arnoch ar gyfer eich sgwter? Mae bob amser yn syniad da cadw eich sgwter yn ddiogel dan glo pan nad ydych yn ei ddefnyddio.

10. Mwynhau

Gallai sgwtera heibio’r tagfeydd traffig yng nghwmni eich teulu fod yn ffordd wych o ddechrau eich diwrnod, ac mae’n sicr yn llawn hwyl. Mae dechrau’r diwrnod mewn ffordd lesol fel hyn yn ffordd ardderchog o fwynhau’r awyr agored a bywiogi’ch corff. Fyddai’n well gennych chi eistedd mewn bocs metel bob bore, neu fod allan ar eich sgwter gyda’r gwynt yn eich hwyliau?

Hoffech chi gael mwy o wybodaeth?

Lawrlwythwch ein canllaw am ddim i deuluoedd, sy’n llawn cynghorion, syniadau gwych a gweithgareddau llawn hwyl ar gyfer taith iach i’r ysgol.

Share this page