Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 5th MAY 2020

Dysgwch blentyn i reidio beic heb sadwyr mewn naw cam

Gall dysgu sut i reidio beic am y tro cyntaf bod yn foment gyffrous a llonnol heb ots eich oedran. Mae’n dangos dechreuad o ffordd hollol newydd i wneud teithiau beunyddiol ac anturio trwy’r byd. Mae dysgu plentyn sut i reidio beic yn anrheg maent yn gallu trysori hyd ei oes. Ond sut ydych chi'n gallu cefnogi’ch plentyn wrth iddynt drawsnewid o sadwyr i ddwy olwyn? Dyma ein canllaw naw cam.

Mum hugging daughter on pink bike

Beth sydd ei angen arnoch:

  • Beic heb sadwyr
  • Sbaner er mwyn tynnu’r pedalau a’u rhoi yn ôl ar y beic. Os nad yw chwith a de wedi ei nodi ar y pedalau, gwnewch nodyn eich hun gan fod y pedal chwith yn cydio yn yr edau i’r gwrthwyneb i’r dde.
  • (Dewisol) camera i gofnodi’r foment fawr.

Gall beicio am y tro cyntaf heb sadwyr fod yn atgof cryf ym mywyd plentyn.

 

Mae’n gyflawniad a fydd yn helpu i feithrin hyder a theimlad naturiol o antur.

 

Ac mae dysgu plentyn i reidio beic yn foment hyfryd o wneud cof i chi hefyd.

Blockquote quotation marks
Mae dysgu reidio beic am y tro cyntaf yn atgof y mae llawer o bobl yn ei drysori. Mae beicio nid yn unig yn hwyl, mae hefyd yn ffordd wych i blant ymarfer corff, archwilio eu synnwyr o antur ac ennill annibyniaeth. Blockquote quotation marks
CHRIS BENNETT, PENNAETH NEWID YMDDYGIAD AC YMGYSYLLTU SUSTRANS

Dyma ein fideo canllaw 9-cam ar sut i ddysgu plentyn sut i reidio beic heb sadwyr.

Naw cam i reidio beic heb sadwyr

1. Gostyngwch y sedd a thynnwch y pedalau

Mae gostwng y sedd a thynnu'r pedalau'n galluogi'r plentyn i sgwtera ar y beic gan ddefnyddio'i ddwy droed (fel petaent ar feic cydbwysedd). Defnyddiwch y cyfle hwn i ddarparu cyfarwyddyd ar ddefnyddio'r brêcs.

2. Camau cawr

Unwaith mae'r plentyn yn barod, anogwch y plentyn i deithio ymlaen am dua 10 metr gan ddefnyddio camau cawr.

3. Neidiau cangarŵ

Nesaf, anogwch y plentyn i deithio ymlaen am dua 10 metr gan hercian.

4. Rhowch un pedal nôl ymlaen

Naill ai'r dde neu'r chwith, does dim gwahaniaeth. Sicrhewch bod y plentyn yn gyfforddus ar y beic ac yn teimlo'n ddiogel. Ffordd hawdd o wneud hyn yw gofyn iddynt i siglo'r beic tra'n gwasgu'r brêcs.

5. Sgwtera gydag un pedal

Gydag un troed ar y pedal, anogwch y plentyn i sgwtera 'mlaen gan ddefnyddio'r droed arall. Sicrhewch fod y plentyn yn edrych i fyny. Stopiwch ar ôl tua 10 metr.

6. Y ddau bedal ymlaen

Rhowch y pedal arall ymlaen. Siglwch (tra'n gwasu'r brêcs) i ddangos fod y beic yn sefydlog a diogel.

7. Cynnig cyntaf

Gafaelwch yn y plentyn, nid y beic. Esboniwch eich bod chi am afael ar gefn ac ysgwyddau/bôn braich y plentyn. Gofynnwch iddynt roi' traed ar y pedalau a sicrhewch fod nhw'n barod. Anogwch y plentyn i edrych i fyny, rhyddhau'r brêcs a phedlo. Stopiwch ar ôl tri i bump metr.

8. Ail gynnig

Siglwch (tra'n gwasgu'r brêcs). Cydiwch yn y plentyn fel y tro blaenorol, gofynnwch iddynt roi' draed ar y pedalau. Anogwch nhw i edrych i fyny. Os yw'r llwybr yn glir, cyfrwch i lawr o dri ac anogwch y plentyn i ryddhau'r brêcs a phedlo ymlaen. Rhyddhewch eich gafael ar ôl ychydig o gamau, ac yna camwch yn ôl i orbwysleisio'r pellter a deithiwyd. Gwaeddwch 'stop' ar ôl 5 - 10 metr. Nawr cyfrwch y camau fel iddynt weld pa mor bell maent wedi teithio.

9. Trydydd cynnig

Y tro hwn, lleihewch faint yr ydych yn cydio yn y plentyn drwy afael yn ei ddillad gydag un llaw ac yng nghyrn llywio'r beic gyda'r llall. Ailadroddwch y camau blaenorol, gan ryddhau eich gafael ar ôl ychydig o gamau a gadael iddynt teithio mor bell a ddymunwyd.

Blockquote quotation marks
Er mwyn eu helpu i gydbwyso ar eu beic, anogwch y plentyn i edrych i fyny, nid i lawr wrth yr olwyn neu ei draed. Blockquote quotation marks
SWYDDOG YSGOLION SUSTRANS

Pethau i’w cofio wrth dysgu plentyn i reidio beic heb sadwyr

  • Dewch o hyd i ardal dawel a didraffig, megis llwybr beicio neu rhywle sydd â’r glaswellt wedi’i dorri’n fyr neu sydd â tharmac.
  • Gall goledd ychydig ar i lawr fod o gymorth yn aml.
  • Cadwch lygad am y peryglon megis cerddwyr, cŵn, peli a cherbydau.
  • Gwnewch yn siŵr fod y pedalau wedi eu rhoi’n ôl yn gywir.

 

Dewch o hyd i lwybr di-draffig ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

 

Eisiau mwy o gyngor ac ysbrydoliaeth am weithgareddau i blant? Cofrestrwch am ein e-newyddion teulu pythefnosol.

Share this page