Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 5th MAY 2020

Diogelwch beicio i blant

Mae’r nifer o blant sy’n beicio i’r ysgol ar eu pennau eu hunain wedi lleihau’n arw yn y degawdau diwethaf, i raddau helaeth oherwydd bod rhieni’n poeni am beryglon traffig. Ond o gael dysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd, does dim rheswm i blant beidio cael mwynhau’r rhyddid mae beicio’n ei gynnig.

Close up of a child smiling wearing a helmet on a traffic-free National Cycle Network route

Pryder pennaf oedolion wrth ystyried gadael i blant gerdded a beicio i’r ysgol yw peryglon traffig.

Mae’r ofn hwn wedi gwthio plant i’r sedd gefn i gael eu cludo o le i le, ac mae 42% o blant ysgol gynradd nawr yn cael eu gyrru i’r ysgol.

Unwaith mae’ch plant yn hyderus ar eu beiciau, mae cyfleoedd i ddod yn gyfarwydd â beicio ar y ffordd yn galluogi datblygiad mewn sawl ffordd.

Byddant yn elwa o fwy na theimlad o ryddid ac annibyniaeth, bydd yn gyfle i fagu hyder a ffitrwydd hefyd.

Mynd ati i ddysgu’ch plant am ddiogelwch ar y ffyrdd

Dilynwch y camau sylfaenol hyn i’ch helpu chi a’ch plentyn gadw’n ddiogel wrth feicio:

  • sicrhewch fod beic eich plentyn yn ffitio a bod pob un o’ch beiciau’n ddiogel i’w defnyddio ar y ffordd;
  • os ydych chi ar y ffordd gyda phlant, dylech feicio y tu ôl iddyn nhw. Os oes dau oedolyn yn eich grŵp, mae’n syniad da i un feicio y tu ôl i’r plant, ac un o’u blaenau;
  • argymhellir fod plant ifanc yn enwedig yn gwisgo helmed. Yn y pen draw, mater o ddewis i’r unigolyn yw gwisgo helmed, ac mae angen i rieni wneud y dewis hwnnw dros eu plant;
  • dylech osod esiampl dda, dilynwch Reolau’r Ffordda dysgwch ymwybyddiaeth a diogelwch ar y ffyrdd i’ch plant.

Rheolau diogelwch ar y ffyrdd i blant

  • peidiwch â mynd drwy oleuadau coch neu feicio ar y palmant oni bai ei fod yn llwybr beicio dynodedig;
  • rhowch signal clir bob amser;
  • beiciwch mewn safle sy’n golygu eich bod yn gallu gweld a chael eich gweld;
  • gwnewch gyswllt llygad gyda defnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig ar gyffyrdd, yna byddwch yn gwybod eu bod wedi’ch gweld;
  • wrth feicio liw nos, defnyddiwch olau blaen gwyn a golau ôl coch sy’n gweithio, ac adlewyrchydd coch ar y cefn – dyna mae’r gyfraith yn ei ddweud;

Os ydych chi’n beicio ar lwybrau a rennir gyda cherddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwynion a phobl sy’n marchogaeth:

  • peidiwch â mynd yn rhy gyflym – gall ddychryn eraill;
  • defnyddiwch eich cloch i adael i eraill wybod eich bod ar eich ffordd, ond peidiwch â chymryd yn ganiataol eu bod yn gallu’ch gweld neu’ch clywed;
  • ildiwch i eraill a byddwch yn barod bob amser i arafu a dod i stop os bydd angen;
  • cadwch i’r chwith neu ar eich ochr chi o unrhyw linell wahanu;
  • byddwch yn ofalus ar gyffyrdd, troadau neu fynedfeydd.

 Hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd

Mae hyfforddiant beicio ar gael i blant ac oedolion i’ch helpu i ddatblygu sgiliau a magu hyder.

I ddod o hyd i gyrsiau i helpu’ch plentyn i fagu’r hyder i feicio i’r ysgol, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

Neu beth am ddarganfod a yw’ch ysgol yn cynnig Bikeability neu Bike It? Os nad yw’r un o’r ddau ar gael yn eich ysgol, gofynnwch iddyn nhw ddechrau un!

Cwrs hyfedredd beic ar gyfer yr 21ain ganrif yw Bikeability. Mae tri lefel i ddysgu rheolaeth, synnwyr ffordd a hyder i’ch plentyn – ac i roi tawelwch meddwl i chi.

Hoffech chi gael mwy o wybodaeth i’ch helpu i fynd amdani?

Share this page