Mae Wythnos Seiclo i’r Ysgol, a gynhelir gan y Bikeability Trust gyda chefnogaeth Sustrans, yn ôl.
Digwyddiad a gynhelir dros gyfnod o wythnos yw Wythnos Seiclo i’r Ysgol, sy’n annog teuluoedd i roi cynnig ar feicio a sgwtera i’r ysgol.
Mae’n ffordd wych o ddathlu’r buddion enfawr y mae taith egnïol i'r ysgol yn eu cynnig, yn cynnwys yr effaith gadarnhaol mae’n ei gael ar iechyd a llesiant plant, yn ogystal â’r amgylchedd.
Cynhelir Wythnos Seiclo i’r Ysgol 25 – 29 Medi 2023
Methu cymryd rhan ar y dyddiadau hyn? Na phoener, gallwch gynnal eich Wythnos Seiclo i’r Ysgol eich hunain ar adeg sy’n gyfleus i chi.
Os yw’ch ysgol chi am gymryd rhan yn Wythnos Seiclo i’r Ysgol rhwng 25 – 29 Medi 2023, bydd gweithgareddau ychwanegol ar gael gan y Bikeability Trust drwy gydol yr wythnos.
Gallwch annog disgyblion, rhieni ac athrawon i wneud adduned.
Caiff pawb sy’n cymryd rhan eu cynnwys mewn raffl wobrau.
Ewch i www.bikeability.org.uk/cycletoschoolweek i ddarganfod mwy.
Defnyddiwch yr adnoddau am ddim hyn i gynnal Wythnos Seiclo i’r Ysgol, ysbrydoli disgyblion i feddwl am eu siwrneiau i’r ysgol a deall buddion teithio llesol.
Mae’r cyflwyniadau PowerPoint hyn yn ategu’r gwersi Cyfnod Allweddol 3. Defnyddiwch nhw law yn llaw â’r cynlluniau gwersi ar gyfer Cyfnod Allweddol 3, os gwelwch yn dda.