Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 17th SEPTEMBER 2023

Cymru yn cyflwyno terfyniadau cyflymder safonol 20mya

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno terfyniadau cyflymder safonol 20mya, yn gwneud ein cymunedau yn llefydd hapusach ac iachach i fyw. Mae Sustrans yn croesawu’r newid yma ac yn dathlu’r effaith mae am gael.

A woman smiling on a residential street where 20mph is already the default speed limit.

Menyw yn gwenu ar stryd preswyl sydd eisoes â therfyn 20mya.

Bydd terfyniadau cyflymder safonol newydd yng Nghymru’n gwneud cymunedau yn llefydd mwy diogel a mwy bywadwy i bawb. Llun gan: photoJB/Sustrans.

Heddiw, mae Cymru’n cymryd cam enfawr ymlaen fel gwlad sy’n blaenoriaethu diogelwch ac ansawdd bywyd ei phobl.

Gan gyflwyno 20mya fel y terfyn cyflymder safonol newydd ar hewlydd cyfyngedig, bydd strydoedd Cymru’n llefydd mwy diogel ac iachach.

Dyma yw’r newid mwyaf mewn diogelwch mewn cenedl.

Yr achos cryfaf ac amlygaf ar gyfer y terfyn cyflymder safonol 20mya yw, yn syml, ei fod am achub bywydau.

I anghytuno neu ddiystyru hyn yw i dderbyn marwolaeth ac anaf fel safon – rydym eisiau rhywbeth yn well ar gyfer pobl Cymru, sef pam fod Sustrans yn hollol gefnogol o derfyniadau cyflymder safonol 20mya.

Yn siarad am effaith y newid, dwedodd Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston:

“Mae Sustrans yn hollol gefnogol o benderfyniad mentrus Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyniad cyflymder safonol sy’n fwy diogel ac iachach ar hewlydd cyfyngedig.”

“Gwyddom o esiamplau eraill ble mae cynlluniau tebyg eisoes wedi’u cyflwyno bod y math o fesur yma’n arbed bywydau ac yn gwneud cymunedau yn llefydd iachach i fyw.”

“Dangosir gwaith ymchwil gall terfyniadau cyflymder safonol 20mya cael effeithiau positif ar anghyfiawnderau iechyd a lleihau llygredd aer.”

“Canfu un astudiaeth yn Llundain gostyngodd llygredd gronynnol cymaint fel bod yr effaith ar ansawdd aer oedd yr un peth â chael gwared â hyd at hanner yr holl geir petrol oddi ar yr hewl.”

“Bydd terfyniadau cyflymder safonol 20mya yn gwneud ein strydoedd yn fwy diogel ac ein cymunedau yn llefydd hapusach ac iachach i fyw.”

A parent pushing a pram across a residential 20mph street.

Rhiant yn gwthio pram ar draws stryd preswyl 20mya.

Mae terfyniadau cyflymder safonol 20mya wedi amcangyfrif i arbed £92m yn y flwyddyn gyntaf gan achub bywydau a lleihau anafiadau mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd. Llun gan: photoJB/Sustrans.

Mae cyflymderau is yn lleihau’r nifer o wrthdrawiadau o ganlyniad i’r pellter stopio byrrach ac yn lleihau difrifoldeb yr anafiadau ble mae gwrthdrawiadau’n digwydd.

Ond, yn rhoi diogelwch i’r ochr am funud, credwn yn gryf bydd terfyniadau safonol 20mya yn annog cymunedau cryfach trwy strydoedd sy’n fwy gosteg, mwy diogel, a mwy cyfeillgar.

Bydd llai o gymunedau yng Nghymru wedi’ arwahanu gan briffyrdd, llai o strydoedd ble mae rhieni’n pryderu am eu plant yn chwarae, a llai o bobl yn cael ei dorri i ffwrdd o wasanaethau angenrheidiol lleol.

Mae pobl yng Nghymru wastad wedi cael teimlad cryf o gymuned a chydlyniad.

Credwn bydd hyn dim ond yn cael ei atgyfnerthu efo llai o lygredd a llai o berygl ar yr hewlydd yn ein cymunedau ar led Cymru.

Credwn bydd 20mya yn annog popeth rydym yn gwybod i fod yn dda.

Dyna pam rydym yn ymgyrchu am deithio llesol, dyna pam rydym yn ymgyrchu am lefydd hapusach ac iachach i fyw, a dyna pam rydym yn cefnogi terfyniadau cyflymder safonol 20mya ar hewlydd cyfyngedig.

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru.