Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 25th JULY 2023

Ysgol gynradd yng Nghaerffili yn dod yn y drydedd ysgol yng Nghymru i ennill gwobr urddasol

Mae cymuned Ysgol Gynradd Ty’n Y Wern wedi dod yn y drydedd ysgol erioed i dderbyn y Wobr Ysgol Teithio Llesol Aur urddasol gan Sustrans.

Disgyblion a staff Ysgol Gynradd Ty'n Y Wern yn derbyn y Wobr Ysgol Teithio Llesol Aur efo Peredur Owen Griffiths AS ac aelodau staff Sustrans Cymru. Llun gan: Gareth Llewellyn.

Mae disgyblion, staff, a’r gymuned ysgol ehangach yn Ysgol Gynradd Ty’n Y Wern wedi derbyn y Wobr Ysgol Teithio Llesol Aur, menter a ariannir gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r wobr, sydd dim ond eisoes wedi’ gyflawni gan ddwy ysgol arall yng Nghymru, yn cael ei rhoi i ysgolion sy’n dangos ymrwymiad cyfredol tuag at hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy.

Nid yw’n hawdd o gwbl i gyflawni’r wobr Aur, ac mae’n dangos bod ysgol wedi’ ymrwymo at wneud newidiadau cyfundrefnol, diwylliannol ac ymddygiadol sylweddol a pharhaol.

 

Adlewyrchiad o uchelgais ymhlith yr ysgol

Mae’r ffaith taw dim ond y drydedd ysgol yng Nghymru i ennill y wobr Aur yw Ty’n Y Wern yn adlewyrchiad o’u hymrwymiad at annog a chefnogi teithio llesol ymhlith cymuned eu hysgol.

Dyma ganlyniad o waith holl gymuned yr ysgol ar ôl iddynt ymrwymo i'r rhaglen Teithiau Iach a phrosiect Cynllun Teithio Llesol Ysgolion, prosiectau a ariannir gan Lywodraeth Cymru sy'n annog teithio llesol ymhlith ysgolion.

Daeth disgyblion, staff, rhieni a gwarchodwyr at ei gilydd i ddathlu’r cyflawniad gan gynnal digwyddiad dathlu.

Roedd cyfle i ddisgyblion cymryd rhan mewn sesiwn ‘blingiwch eich beic’, ac roedd ymweliad gan Peredur Owen Griffiths AS wrth i’r wobr cael ei gyflwyno i staff yr ysgol.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru: "Hoffwn longyfarch Ysgol Gynradd Ty'n Y Wern am yr anrhydedd aruthrol hon."

"Mae athrawon, disgbylion, a rhieni wedi gwneud llawer o waith caled i ennill y wobr Aur gan Sustrans."

"Mae'r ffaith mai dim ond dwy ysgol arall yng Nghymru sydd wedi ennill y wobr hon yn dweud cyfrolau."

 

Pwysigrwydd teithio llesol i gymuned yr ysgol

Yn trafod cyflawniadau’r ysgol, dwedodd Pennaeth Soph Goodliffe: “Rydym wrth ein boddau ac yn mor falch i gyflawni ein Gwobr Ysgol Teithio Llesol Aur.”

“Mae hyn yn adlewyrchu ymroddiad yr ysgol tuag at iechyd corfforol a meddyliol ein dysgwyr, a hefyd yn dyst i gefnogaeth holl gymuned ein hysgol.”

“Mae iechyd a lles yn galonogol i bopeth rydym yn wneud yn Nhy’n Y Wern, a chydnabyddwn y pwysigrwydd sydd gan weithgarwch llesol ar iechyd corfforol a meddyliol ein plant.”

“Credwn fod teithio llesol yn fodd arbennig o gynyddu ffitrwydd corfforol, yn ogystal â lleihau tagfeydd a llygredd o gwmpas yr ysgol, gan arwain at amgylchedd ysgol hapusach, lanach ac iachach.”

 

Blockquote quotation marks
Mae iechyd a lles yn galonogol i bopeth rydym yn wneud yn Nhy'n Y Wern, a chydnabyddwn y pwysigrwydd sydd gan weithgarwch llesol ar iechyd corfforol a meddylion ein plant. Blockquote quotation marks
Soph Goodliffe, Pennaeth Ysgol Gynradd Ty'n Y Wern

Newid positif i ddiylliant cludo plant i'r ysgol

Yn trafod pwysigrwydd ac effaith ymrwymiad yr ysgol at deithio llesol, medd Peredur Owen Griffiths AS: "Ers ymgymryd â'r her Sustrans hon, bu newid diwylliant mawr yn ystod y cyfnod ysgol ar gyfer cymaint o deuluoedd."

"Mae disgyblion a rhieni wedi gwrthod y car yn gynyddol ar gyfer math mwy gwyrdd ac iachach o drafnidiaeth, gan gyfrannu at wneud ein haer yn lanach a'n ffyrdd yn fwy diogel."

"Hoffwn rwan weld ysgolion eraill yng Nghymru yn dilyn arweiniad Ysgol Gynradd Ty'n Y Wern."

Cydnabu Ty’n Y Wern yr effaith mae teithio llesol wedi cael ar gymuned ei hysgol.

Yn ôl y staff, mae disgyblion wedi dysgu sgiliau newydd ac maent wedi adeiladu eu hunan-barch a hyder.

Mae cynyddiad cyson yn y nifer o deithiau llesol i’r ysgol wedi golygu mae llai o dagfeydd yn ystod amser hebrwng plant i’r ysgol ac oddi yno.

Mae teithio llesol hefyd wedi helpu’r ysgol i ddatblygu cysylltiadau agos efo’i chymuned ehangach, ym marn Pennaeth Soph Goodliffe.

“Mae Trethomas Bluebirds FC, tîm pêl-droed lleol, wedi ein helpu a chefnogi ni efo prosiectau codi arian.”

“O ganlyniad i’w cefnogaeth nhw llwyddom i godi £1,500 ar gyfer beic addasedig ar gyfer un o’n disgyblion ni efo amhariad corfforol.”

Blockquote quotation marks
Mae disgyblion a rhieni wedi gwrthod y car yn gynyddol ar gyfer math mwy gwyrdd ac iachach o drafnidiaeth, gan gyfrannu at wneud ein haer yn lanach a'n ffyrdd yn fwy diogel. Blockquote quotation marks
Peredur Owen Griffiths, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru

Parhau'r taith o newid diwylliant

Mae’n ymddangos fel bod derbyn y Wobr Ysgol Teithio Llesol Aur yn barhad o taith hirach ar gyfer sut mae'r ysgol wedi ymrywmo at deithio llesol, yn adeiladu ar y gwaith maent wedi gwneud trwy'r rhaglen Teithiau Iach a phrosiect Cynllun Teithio Llesol Ysgolion.

Medd Soph Goodliffe: “Yn y dyfodol, dymunwn sefydlu bws beicio i roi mwy o’n ddisgyblion ni’r cyfle i fwynhau taith ar feic i’r ysgol.”

“Hoffwn hefyd uwchsgilio ein staff fel iddynt gael y sgiliau a’r hyder i fynd â’r plant ar deithiau tywys o gwmpas y gymuned.”

Share this page

Darllenwch am y newyddion diweddaraf o Gymru