Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 11th JANUARY 2023

Mark Drakeford yn dewis i newid y car am e-feic efo help Sustrans

Mae iechyd pobl yng Nghymru'n cael ei effeithio'n arw gan gyfraddau uchel o ordewdra, cyfraddau isel o weithgaredd corfforol, ac, yn rhai mannau, safon aer gwael. Gwnaeth Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y newid yn ddiweddar i deithio gan e-feic am rai teithiau yn ei etholaeth a theithiau personol, yn gweithredu strategaeth trafnidiaeth ei Lywodraeth, ar ôl cysylltu â Sustrans.

An image of Wales' First Minister, Mark Drakeford, smiling and looking into the camera whilst holding a black e-bike in front of his constituency office.

Mae Prif Weinidog Cymru yn gweithredu strategaeth trafnidiaeth ei Lywodraeth gan ddewis i deithio'n llesol.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi gwneud y newid o ddefnyddio'i gar ar gyfer teithiau yn ei etholaeth a theithiau personol i'r dewis iachach o deithio gan e-feic.

Ar ôl cysylltu ag un o Swyddogion Teithio Llesol Sustrans trwy swyddfa'i etholaeth, cafodd y Prif Weinidog y cyfle i fenthyg e-feic am gyfnod brawf o dair wythnos.

"Roeddwn i wedi eisiau beic trydanol am y ddwy flwyddyn ddiwethaf ond roedd yn broblem canfod yr amser i wneud yr holl waith ymchwil a throi'r syniad yn realiti, felly ni ddigwyddodd unrhyw beth," medd y Prif Weinidog.

"Ond, cefais f’awgrymu yn ddiweddar i geisio'r cynllun benthyg gan Sustrans fel rhan o'r Siarter Teithio Llesol, a diflannodd y rhwystrau!"

 

Galluogi dewisiadau teithio iachach, ac arwain o'r gad

Efo cymorth nawdd Llywodraeth Cymru, mae Sustrans yn cefnogi mudiadau sydd wedi arwyddo'r Siarter Teithio Llesol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n annog mudiadau'r sector cyhoeddus i ymrwymo at benderfyniadau teithio iachach.

Sylwodd Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru:

"Mae'n fendigedig bod gennym Prif Weinidog yng Nghymru sy'n arwain y ffordd a gosod esiampl ynglŷn â sut rydym yn teithio.

"Mae gennym strategaeth trafnidiaeth yng Nghymru sy'n gweithio i flaenoriaethu teithio llesol, ac mae'n gyffrous bod Gweinidogion yn dangos arweiniad gwirioneddol trwy newid ei siwrneiau o ddefnyddio'r car i gerdded a seiclo.

"Mae'n angenrheidiol ein bod ni'n trawsnewid i ddulliau teithio mwy cynaliadwy ar gyfer ein teithiau beunyddiol - gall teithio llesol chwarae rhan hanfodol nid ond efo mynd i'r afael a newid hinsawdd, ond gwella ein hiechyd a lles hefyd."

 

Tanlinellu'r angen am newid

Mae cyfraddau dirywiol o weithgaredd corfforol, cyfraddau cynyddol o ordewdra a chlefyd y siwgr, llygredd aer ar led, ynysiad cymdeithasol, ac anghyfiawnderau iechyd sy'n gwaethygu i gyd yn faterion iechyd cyhoeddus o bwys.

"Mae newid dulliau teithio'n allweddol ar gyfer cyrraedd ein nod uchelgeisiol o Gymru net sero gan 2050, ac mae'r newid yna'n angen agor opsiynau teithio llesol i gymaint o bobl ac sy'n bosib ar gyfer cymaint o siwrneiau ac sy'n bosib," dwedodd y Prif Weinidog.

"Gall adnoddau a chyfleoedd fel llyfrgelloedd beiciau a phrosiectau e-feic gwaredu rhai o'r rhwystrau at seiclo, a sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru'n cael eu cynnwys yn y manteision amgylcheddol ac iechyd o deithio'n llesol."

Does 'na erioed wedi bod cyfnod mor bwysig i helpu sicrhau bod pobl ar led Cymru'n cael eu cefnogi wrth iddynt wneud penderfyniadau teithio iachus a chynaliadwy - os yw hynny'n cynnwys cerdded, olwyno, neu seiclo, neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fo'n gyfleus.

Cadarnhaodd Mynegai Cerdded a Beicio Sustrans, a chyhoeddwyd yn gynharach eleni, bod yng Nghaerdydd mae 63.7 miliwn o siwrneiau o hyd at dair filltir yn cael ei gyrru pob flwyddyn.

Dyna pam mae Sustrans yn gweithio efo mudiadau i helpu datblygu'r sgiliau, ymwybyddiaeth, a'r hyder i fagu arferion teithio sy'n fwy llesol a mwy cynaliadwy.

Share this page

Darllenwch am y newyddion diweddaraf yng Nghymru