Fel rhan o’r gwaith i wneud y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn fwy hygyrch i bawb, elwodd Ffordd Cwm Ogwr yn ddiweddar o ganlyniad i gydweithio efo’r gymuned.
Aelodau'r grŵp cymunedol Ogmore Valley Priide yn mwynhau canlyniadau eu gwaith caled. Llun gan: Matthew Davies/Sustrans.
Cennad Sustrans yw i’w wneud yn haws i bawb gerdded, olwyno, a seiclo, rhywbeth sy’n cael ei gyflawni gan wneud llwybrau seiclo a cherdded yn fwy hygyrch i bawb.
Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, rhoddodd Sustrans Cymru hyn ar waith yng Nghwm Ogwr, De Cymru.
Cafodd citiau pren eu prynu i wneud meinciau, efo’r bwriad o’u gosod ar hyd y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru.
Amcan y gwaith yma oedd cyfoethogi a gwella’r Rhwydwaith, gan greu rhywle i unrhyw un sydd angen cymryd saib pryd bynnag bod angen.
Cadw gwaith cydweithredol yng nghraidd yr hyn rydym yn ei wneud
Roedd yn hollbwysig i weithio efo mudiadau lleol er mwyn llwyddo efo’r prosiect yma.
Gweithiodd tîm Cynnal a Chadw Tir Sustrans Cymru efo prentisiaid gwaith coed ACT i helpu rhoi’r meinciau at ei gilydd.
Yna cafodd gwirfoddolwyr lleol eu gofyn am awgrymiadau ar le gall y meinciau cael eu gosod.
Arweiniodd eu hadborth nhw at ddau grŵp cymuned leol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Blackmill Bravos a Ogmore Valley Priide, yn cael eu hymgynghori ar gael y meinciau yn yr ardal o bosib.
Ymglymiad lleol yng nghalon gwneud penderfyniadau
Y teimlad a daeth o’r gwaith ymgysylltu efo’r grwpiau cymunedol oedd taw llwybr seiclo Cwm Ogwr bydd yr opsiwn gorau.
Gan fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n rheoli’r ffordd, cawson nhw ei gysylltu am y prosiect a rhoddon nhw’n garedig ei ganiatâd i’r meinciau cael eu gosod.
Pan ddaeth ati i osod y meinciau ar hyd y ffordd yng Nghwm Ogwr, roedd gwirfoddolwyr Sustrans yna i helpu.
Mae gwirfoddoli efo Sustrans yn cynnig amrediad o gyfleoedd sy’n helpu cymunedau ar draws Cymru i ddod yn llefydd iachach a hapusach i fyw.
Dim ond o ganlyniad i waith cydweithredol rhwng gwirfoddolwyr, y cyngor lleol, a phobl y gymuned llwyddodd y gwaith yma. Llun gan: Matthew Davies/Sustrans.
Creu effaith positif yn ein cymunedau lleol trwy deithio cynaliadwy
Mae cydweithio â phobl leol yn rhan allweddol o sut mae Sustrans yn darparu ei brosiectau, a diolch i fewnbwn pobl leol roedd y gwaith yma’n bosib.
O ganlyniad i weithio’n agos efo aelodau’r cyhoedd a’r grwpiau cymunedol lleol Blackmill Bravos a Ogmore Valley Priide, roedd ymddiriedaeth gan y gymuned cyn i unrhyw waith digwydd.
“Mae’r meinciau’n grêt, ac mae’n hawdd dweud eu bod nhw’n gaffaeliad mawr i’r llwybr seiclo a’r defnyddwyr niferus yn ogystal â’r gymuned leol,” dwedodd Carole Roberts, aelod o Blackmill Bravos.
“Roeddwn i wastad ‘di meddwl roedd prinder o lefydd i eistedd ym Melin Ifan Ddu a’r hyn ‘dw i’n hoffi am y meinciau newydd yw eu bod nhw’n gyfarwydd iawn.”
Mae’r ffordd Cwm Ogwr wedi elwa diolch i waith myfyrwyr ACT, gweithrediad grwpiau cymunedol lleol, a gwirfoddolwr.
Efo’r meinciau nawr wedi’ osod, mae’r llwybr yn awr yn fwy cynhwysol a hygyrch i fwy o ddefnyddwyr.
Pa un ei fod yn cynnig seibiant rheolaidd i bwy bynnag sydd angen, neu dim ond i annog pobl i gymryd moment a mwynhau'r hyn sydd o'u cwmpas, mae'r meinciau yma'n ychwanegiad positif er lles pawb.