Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 23rd OCTOBER 2021

Cyflogi pobl sy'n arddel safbwyntiau newydd i wella ein gwaith

Rydym yn ehangu ein timau ledled Cymru gyda'r nod o gael mwy o bobl yn cerdded a beicio. Mae ein gwaith gweddnewidiol mewn cymunedau'n creu bywydau hapusach ac amgylcheddau mwy iach i bawb. Yn ein hachos ni, mae'r gweddnewidiad hwn yn digwydd y tu mewn i Sustrans. Dysgwch fwy wrth wrando ar leisiau ein recriwtiaid newydd.

Sustrans new employees team photo

Dywed ein gweithwyr newydd pa safbwyntiau a sgiliau newydd fyddan nhw'n ei gynnig i'r tîm yn Sustrans.

Rydym yn cefnogi cymunedau i ddatblygu llecynnau cyhoeddus anhygoel lle gall pobl gysylltu â'r hyn y mae ei angen arnynt a chreu cysylltiadau rhwng pobl a’i gilydd.

Ond er mwyn gallu cyflawni'r gwaith hwn mae angen y ddealltwriaeth a'r safbwyntiau amrywiol rydym yn eu harddel yma yn Sustrans.

Dewch i gyfarfod â rhai o aelodau newydd ein tîm i ddysgu mwy am yr hyn y maen nhw'n ei ddod gyda nhw i Sustrans.

Alice Bailey, Swyddog Cefnogi

Mae Alice Bailey wedi gweithio yn y sector gwirfoddol yn cefnogi sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru.

Fel gwirfoddolwr, mae hi wedi gweithio'n helaeth gyda phlant a phobl ifanc anabl, a phobl nad ydyn nhw’n anabl, ac wedi trefnu a chynnal digwyddiadau mawr.

Mae hi'n edrych ymlaen at gymhwyso ei phrofiadau yn ei gwaith i Sustrans. Mae hi o'r farn fod Sustrans wedi ymrwymo i fod yn rhan o'r gymuned ehangach ac amrywiol.

New employee Alice Bailey
Blockquote quotation marks
Fel rhywun a chanddi anawsterau symud, mae Sustrans wedi hwyluso i mi allu cerdded a beicio. Rwy'n ffodus o allu cefnogi'r gwaith a fydd yn galluogi eraill i gael y profiad hwnnw. Rwy'n teimlo fy mod wedi elwa llawer o fyw yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac rwy'n gyffrous iawn ynghylch gallu chwarae mwy o ran yn y gymuned leol. Blockquote quotation marks
Alice Bailey, Swyddog Cefnogi


Daniel Ebrahim, Swyddog Cymorth Technegol

Mae gan Daniel Ebrahim radd mewn Pensaernïaeth ac roedd e'n gweithio gydag Oasis yn y Sblot pan gyfarfu â rhywun a awgrymodd y byddai gennym swyddi a fyddai'n addas i'w sgiliau.

Ymgeisiodd Dani am swydd gyda Sustrans Cymru a bellach mae e'n gweithio gyda'r tîm Cymunedau Cysylltiedig, yn cefnogi archwiliadau strydoedd a gweithgareddau mapio rhwydweithiau.

New employee Daniel Ebrahim
Blockquote quotation marks
Os hoffech ddysgu mwy am beth yw ystyr elusen, Sustrans yw'r enghraifft orau. Mae pobl o bob cwr o'r byd yn cael croeso yn Sustrans; gallwch ganfod llawer o ffrindiau da yma, byddwch yn mwynhau eich amser yn gweithio gyda'ch cydweithwyr a gallwch ddysgu llawer. Mae gennym bobl gefnogol sy’n cynnig cyfleoedd gwaith ac yn darparu hyfforddiant perthnasol er mwyn sicrhau eich bod yn fodlon a hapus yn eich swydd, ac am eich dyfodol gyda Sustrans; mae'n anhygoel cael gwneud swydd sy’n ymwneud â gwneud eich dinas yn haws byw ynddi a rhoi cefnogaeth i bobl! Blockquote quotation marks
DANIEL EBRAHIM, SWYDDOG CEFNOGI TECHNEGOL


Tara Aisha, Swyddog Prosiect Technegol

Mae Tara wedi gweithio ym maes trafnidiaeth gyhoeddus a chynllunio trefol, mapio rhwydweithiau teithiol llesol ac i sefydliadau addysg uwch yn Indonesia, Awstralia, yr Alban, Cymru a Lloegr.

Mae hi wedi gweithio gyda chymunedau lleol i ymchwilio i brosesau cynllunio cydweithredol a chyfranogol.

Ei nod yw cynnwys ei gallu proffesiynol ac academaidd i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn yr amgylchedd adeiledig, yn arbennig ymhlith grwpiau lleiafrifol ac agored i niwed.

Mae hi o'r farn fod Sustrans Cymru wedi ei helpu hi a phawb arall i wireddu eu syniadau drwy sawl maes arbenigedd.

New employee Tara Aisha
Blockquote quotation marks
Fel menyw a chanddi groen brown ac sy'n amlwg yn Fwslim, dwi erioed wedi teimlo mor angerddol dros fod yn ymarferydd gweithredol mewn diwydiant sy'n amlwg yn cael ei ddominyddu gan ddynion croenwyn. Mae Sustrans, ynghyd â'n partneriaid, yn creu’r awyrgylch cadarnhaol y mae pawb ei angen yn y gweithle a lle bynnag y cynhelir ein digwyddiadau a'n prosiectau. Blockquote quotation marks
TARA AISHA, SWYDDOG PROSIECT TECHNEGOL


Ruth Stafford, Swyddog Dinasoedd a Threfi Byw

Mae Ruth Stafford wedi gweithio ym maes trafnidiaeth gynaliadwy i sefydliadau cymunedol ac i dri awdurdod lleol.

Mae hi hefyd wedi gweithio i elusennau, busnesau a mentrau cymdeithasol ym maes cynhyrchu bwyd lleol, rheolaeth ac ymwybyddiaeth gwastraff.

Mae Ruth wedi byw mewn sawl lle a bellach mae hi wedi ymgartrefu ar gyrion y Drenewydd, ger y pentref lle cafodd ei magu.

Mae hi'n teimlo’n angerddol ynghylch meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd a chydraddoldeb. Mae hi o'r farn bod Sustrans yn gofalu am y pethau hyn ac mae'n gweithio tuag at eu gwella.

New employee Ruth Stafford
Blockquote quotation marks
Rwy'n falch iawn mai fi yw Swyddog Dinasoedd a Threfi Byw, y Drenewydd, i Sustrans. Rwy’n benthyg beiciau trydan i bobl amrywiol sy’n byw yn y Drenewydd a'r cyffiniau. Mae’n gynllun lle gall pobl logi beiciau trydan am fis am ddim. Dwi’n gallu gweld sut mae'r cynllun y gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Blockquote quotation marks
Ruth Stafford, Swyddog Dinasoedd a Threfi Byw


Beth am ddod yn rhan o dîm arloesol a deinamig?

Dywedodd Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru:

"Rydym am hybu mannau bywiog sydd wedi eu creu ar gyfer pawb, lle gall pawb eu mwynhau.

"Mae'n wych gallu datblygu'r tîm yng Nghymru.

"Mae yna her fawr o'n blaenau i ymateb i fygythiad newid hinsawdd ac ysbrydoli pobl i deithio mewn ffyrdd eraill.

"Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu meithrin amrywiaeth o sgiliau newydd, gwireddu safbwyntiau, cynyddu ein presenoldeb mewn cymunedau ac ymestyn y cymorth y gallwn ei gynnig i'r bobl sydd ei angen fwyaf, trwy weithio i Sustrans.

“Bydd cyfleoedd i ymuno â’n tîm yn parhau a byddwn yn annog unrhyw un a chanddo ddiddordeb yn ein gwaith ac a hoffai fod yn rhan o dîm arloesol, deinamig i gysylltu â ni. Cysylltwch a dysgwch fwy."

Ymestyn ein rhwydwaith partneriaid

Yn ogystal ag ehangu ein timau yng Nghymru, rydym hefyd yn ehangu'r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw.

Bydd hyn yn ein helpu i osod her i'n hunain i wella'r ffordd rydym yn gweithio, a chreu lleoedd mwy cynhwysol a chyfartal.

Rydym yn gwneud mwy o waith er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn gwella a'n bod yn rhoi blaenoriaeth i bobl o gymunedau difreintiedig, pobl ar y ffiniau neu a orthrymwyd.

 

Dysgwch fwy am ein cyfleoedd yng Nghymru ac ymunwch â'r tîm.

A oes gennych ddiddordeb yn gweithio i Sustrans? Edrychwch ar y swyddi rydym yn eu hysbysebu.

 

Share this page

Darllenwch am ein gwaith yng Nghymru