Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 3rd FEBRUARY 2021

Ysgol Gogledd Cymru yn arbed 500kg o allyriadau CO2 yn ystod y pandemig

Rydym ni’n gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i wneud yn haws i blant gerdded, sgwtera a seiclo. Mae dewis teithio’n llesol yn ystod y pandemig wedi arwain at ostyngiad mawr mewn allyriadau carbon ar gyfer Ysgol Tir Morfa.

Mae teithio’n llesol yn wych ar gyfer cefnogi iechyd a lles plant. Mae hefyd yn ffordd bwysig i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a lleihau llygredd aer o fewn cymunedau’r ysgol.

Ymunodd Ysgol Tir Morfa, Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol yn agos i Rhyl, â‘r Rhaglen Teithiau Iach yn 2018.

Mae ein Rhaglen Teithiau Iach yn helpu plant ar hyd y wlad i ddatblygu’r sgiliau a hyder i deithio yn ddiogel ac yn hawdd i’r ysgol trwy gerdded, sgwtera neu ar feic.

 

Arwain trwy esiampl yn ystod y pandemig.

Mae Cofid-19 wedi bod yn her i nifer fawr o ysgolion ar draws Cymru, ond mae Ysgol Tir Morfa wedi defnyddio’r cyfle i ddod a newidiadau cadarnhaol. 

Maent wedi cael gwared â’r bws mini ers dechrau’r pandemig. Yn lle, mae disgyblion ac athrawon wedi penderfynu teithio’n llesol ar deithiau a gwibdeithiau.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae ein Rhaglen Teithiau Iach wedi cefnogi Ysgol Tir Morfa i brynu amryw o sgwteri i’r disgyblion.

Fe wnaeth Athrawon addasu i’r pandemig trwy gynllunio tripiau mwy lleol yn Rhyl. Mae dewis llwybrau sy’n cefnogi teithio llesol yn rhoi cyfle i archwilio’r ardal leol ac yn rhoi hwb i hyder disgyblion i deithio’n llesol yn y dyfodol.

 

Lleihau allyriadau

Cymharodd Ysgol Tir Morfa eu harferion teithio rhwng Medi - Rhagfyr ar gyfer 2019 ac yna 2020.

  • Lleihad o allyriadau CO2  gan tua 500kg ers dechrau’r pandemig
  • 73% llai o filltiroedd teithio, trwy ailfeddwl teithiau a theithio’n llesol.
  • 96% o leihad yn gyfanswm allyriadau CO2 trwy leihau teithiau bws mini, gan gynnwys teithio i’r ysgol a nôl.
Blockquote quotation marks
“Gyda’r sgwteri newydd a chefnogaeth ein Rhaglen Teithiau Iach, rwy’n hyderus y bydd disgyblion yn parhau i arwain trwy ymrwymo at leihau cynhesu byd eang a newid yn yr hinsawdd gyda’u teithiau actif.” Blockquote quotation marks

Gwella iechyd a lles.

Mae cerdded, sgwtera, olwynio neu feicio i leoliadau hefyd wedi bod yn ffordd hwyliog o gefnogi iechyd a lles y plant.

Dywedodd Hannah Meulman, Swyddog Teithiau Iach Gogledd Cymru:

“Mae Ysgol Tir Morfa yn enghraifft wych o ysgol sydd wedi ymrwymo i deithio’n llesol.”

“Mae’r buddion yn cynnwys gwell lles, sydd mor bwysig ar gyfer cefnogi iechyd meddwl plant yn ystod y pandemig coronafirws”

 

Darganfyddwch fwy am ein Rhaglen Teithiau Iach

Tanysgrifiwch i'n e-cylchlythyr

Share this page