Roedd ein tîm gwirfoddoli yng Nghaerdydd wrth eu boddau wrth i Good Gym Cardiff ymuno â nhw mewn sesiwn cynnal a chadw llwybrau.
Criw Good Gym a Sustrans yn ystod y sessiwn
Grŵp o redwyr yn Good Gym sy'n cwrdd bob wythnos i helpu'r gymuned trwy wirfoddoli eu hamser a'u hymdrech i wneud ystod eang o dasgau. Cynhaliwyd y sesiwn gynnal a chadw ar lwybr sy’n arwain at Barc Grangemoore yng Nghaerdydd lle roedd y gwrychoedd wedi gordyfu ac roedd yr isdyfiant yn tresmasu ar y llwybr.
Rhedodd 32 o redwyr Good Gym am 30 munud o ganol y ddinas i Barc Grangemoore a dechrau gweithio'n galed ar unwaith i glirio'r llwybr. Roedd y gwaith yn cynnwys defnyddio dopwyr i dorri'r llwyni a'r coed a oedd yn tresmasu ar y llwybr yn ôl, codi a symud toriadau, cribinio gordyfiant a chasglu sbwriel yn yr ardal leol.
Dywedodd Claire Prosser, cydlynydd gwirfoddolwyr Sustrans Cymru:
“Gweithiodd pob rhedwr mor galed yn clirio’r llwybr; mae'n anhygoel beth all 30 o bobl ei wneud mewn cyn lleied o amser. Gwnaeth y brwdfrydedd a ddangoswyd gan y rhedwyr gwneud y gwaith yn hwyl. Hoffwn ddiolch i bob rhedwr ar ran pawb sy'n defnyddio'r llwybr am ei wneud yn lanach, yn fwy diogel ac yn fwy croesawgar. Ry’n ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Good Gym eto! ”
Mae llawer o bobl yn rhoi o'u hamser i helpu i edrych ar ôl llwybrau'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn eu hardal. O wiriadau llwybr rheolaidd, i lanhau ac ailosod arwyddion, i dorri llystyfiant yn ôl a chasglu sbwriel - mae'r gweithgareddau maen nhw'n eu cynnal yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y Rhwydwaith yn ddiogel i bawb ei fwynhau.