Yn dilyn rhyddhad Cynllun Aer Glân Llywodraeth Cymru, mae Sustrans yn ymateb.
Yn dilyn rhyddhad Cynllun Aer Glân Llywodraeth Cymru, dywed Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Steve Brooks:
“Mae'r Cynllun Aer Glân yn gam addawol tuag at lanhau'r aer rydyn ni'n anadlu.
“Rydym yn falch bod lleoedd cynaliadwy wrth wraidd y cynllun ac yn croesawu buddsoddiad mewn seilwaith a gwasanaeth ledled Cymru i gefnogi gostyngiad mewn llygredd aer.
“Bydd newid moddol o geir i gludiant mwy cynaliadwy yn mynd yn bell i lanhau ein haer. Mae Sustrans yn galw am egwyddor cynllunio cymdogaeth 20 munud ar gyfer pob dinas a thref, lle mae pobl yn byw o fewn taith gerdded 20 munud i wasanaethau bob dydd, heb fod yn ddibynnol ar y car.
“Mae’n siomedig gweld na fydd ein galwadau am Ddeddf Aer Glân yn cael eu clywed tan dymor nesaf y cynulliad, a allai, mewn amser o argyfwng hinsawdd, fod yn rhy hwyr.”