Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 21st JULY 2020

Sut i gadw'n ddiogel ar y rhediag ysgol ysgol yn ystod y cyfnod cloi

Meddwl sut y byddwch chi'n cael eich plant yn ôl ac ymlaen i'r ysgol yn ddiogel yn ystod y cyfnod cloi a thu hwnt? Ydych chi yn ystyried newid y ffordd yr ydych yn teithio? Rydym wedi paratoi cyngor i rieni ar gadw yn ddiogel ar y daith i’r ysgol.

A young girl in school uniform, a winter coat and a helmet rides her scooter.

Mae rhaglen Teithiau Iach Sustrans yn ymwybodol bod llawer o deuluoedd wedi mwynhau cerdded, rhedeg, sgwtera a beicio fel rhan o’u ymarfer dyddiol.

Mae’n gyfle gwych i barhau gyda hyn pan fydd ysgolion yn agor i bawb.

Mae ein arolygon yn dangos y byddai well gan ddisgyblion deithio yn iach petae ganddynt ddewis.

Er enghraifft, mae’r arolwg yr ydym yn ei wneud gyda disgyblion yn dangos bod tros draean eisiau beicio i’r ysgol a bod y mwyafrif helaeth yn gadarnhaol ynghylch teithio’n iach.

Buddion teithio iach

Mae plant yn mwynhau bod yn egnïol. Maent yn cyrraedd yr ysgol yn effro ac yn barod i ddysgu. Mae’r strydoedd o amgylch yr ysgol yn fwy diogel gyda llai o draffig modur.

Mae’n iach i ni gyd ac mae hefyd yn dda i’r blaned (ac nid yw’n creu llygredd aer o amgylch yr ysgol). Mae cyfle i sgwrsio a rhannu pethau fel teulu.

Mae nifer ohonym wedi profi sut y medrwn gadw pellter oddi wrth eraill wrth deithio’n iach, yn cynnwys gwneud defnydd o ffyrdd mwy tawel hyd yn oed os yw hynny i gamu i’r ffordd ei hun er mwyn mynd heibio i bobl.

Gobeithio y gallwn barhau i deithio yn iach, ond efallai bydd y ffyrdd yn prysuro felly mae ychydig o gyngor dros y dudalen fel ein bod yn gallu gwneud hyn yn ddiogel.

Family with dad walking, daughter scooting and son cycling to school together in the sunshine

Cyngor ar Bellhau Cymdeithasol ar y Daith i’r Ysgol

Pan fydd ysgolion yn dychwelyd, efallai bydd palmentydd a ffyrdd yn prysuro eto.

Dyma ychydig syniadau i’ch cynorthwyo i deimlo’n gyfforddus yn teithio’n llesol i’r ysgol:

Rhowch ychydig mwy o amser i chi’ch hunain yn y bora

Mae pobl sydd yn cerdded, rhedeg, sgwtera a beicio yn dueddol o gyrraedd yr ysgol dros gyfnod hirach.

Mae hyn yn ei wneud yn haws rheoli’r lle cyfyngiedig ar y ffyrdd a’r llwybrau o amgylch yr ysgol.

Amrywiwch eich llwybr os gallwch

Gall hyn fod yn fwy diddorol a braf, yn enwedig os gallwch osgoi ffyrdd prysur. Rhowch gynnig ar ganfod llwybrau lle mae llai yn eu defnyddio.

Stopiwch a disgwyliwch i bobl fynd heibio ( a dwedwch helo)

Edrychwch am rannau lle mae’r llwybrau yn fwy llydan, er enghraifft ger cyffyrdd, a byddwch yn hyderus i ddefnyddio adwyai fel bod eraill yn gallu mynd heibio.

Atgoffwch blant am arafu, dod i stop a rhoi lle i bobl, yn enweidg os ydynt yn sgwtera neu feicio

Efallai y byddant yn gwneud camgymeriadau, ond rhowch gynnig ar beidio a cholli eich tymer ond atgoffwch nhw ei fod yn bwysig ar hyn o bryd.

Os oes angen i chi gamu i’r ffordd i fynd heibio i bobl, cofiwch atgoffa eich teulu i wylio a gwrando

Trwy wylio a gwrando rydym yn deall y byd o’n cwmpas, felly gan edrych a gwrando ger ffyrdd gallwn wneud penderfyniadau gwell.

Ceisiwch roi cyfle i blant hŷn (bl.4 ac uwch) gael cyfrifoldeb dros fynd a dod i’r ysgol eu hunain

Efallai byddai well ganddoch gwrdd nhw yn nes at yr ysgol (ee. Tu allan i siop/llyfrgell).

Mae hyn yn helpu eu hyder ffyrdd ac yn lleihau y nifer o bobl o gwmpas yr ysgol.

adults and children walking and scooting to school on footpath

Beth allwch chi ei wneud

Os ydych yn byw rhy bell i deithio’n iach neu eich bod yn teimlo nad yw’n bosib i chi, rhowch gynnig ar barcio a cherdded.

Yn ddelfrydol defnyddiwch fan parcio oddi ar y stryd tua 5-10 munud o’r ysgol. Fel hyn bydd eich plant yn dal i fuddio o deithio iach.

Os ydych chi yn meddwl nad yw’r llwybrau cerdded yn ddigon llydan, siaradwch gyda phennaeth yr ysgol a’ch awdurdod lleol.

Mae gan sawl awdurdod lleol adnodd ar-lein lle gallwch adrodd problemau yn uniongyrchol i’r tîm priffyrdd

Efallai ei bod yn bosib ailddyranu lle ar y ffordd neu mewn mannau parcio fel sydd wedi digwydd mewn llefydd eraill o amgylch y DU.

Efallai bod cyfleon i ledaenu llwybrau cerdded, creu llwybrau beicio dros dro a chau ffyrdd o amgylch yr ysgol i draffig modur yn ystod amseroedd gollwng a chodi.

Eich syniadau chi fydd yn gwneud i’r pethau hyn ddigwydd.

Cadwch mewn cyswllt â ni. Rhannwch eich syniadau a’ch pryderon.

Gallwn weithio gyda swyddogion awdurdodau lleol a staff ysgol. Am fwy o wybodaeth, ebostiwch.

Share this page