Mynd yn ôl i’r ysgol: cyngor i ysgolion

Mae rhaglen Teithiau Iach Sustrans yn deall y bydd rheoli dychweliad diogel i’r ysgol yn cyflwyno nifer o heriau i ysgolion a phenaethiaid.

Rydym wedi paratoi cyngor i ysgolion ar sut i hyrwyddo teithau iach i gynnal pellter cymdeithasol.

 

Ar gyfer codi a gollwng, bydd angen i ysgolion reoli amseriadau yn effeithiol (amseroedd cyrraedd a gadael gwahanol efallai) a lle (yn yr ysgol ac ar y ffyrdd o amgylch yr ysgol.

Mae llawer o deuluoedd wedi bod yn mwynhau cerdded, rhedeg, sgwerta a beicio fel rhan o’u hymarfer dyddiol.

Mae’n gyfle gwych i gadw hyn i fynd pan fydd ysgolion yn mynd yn ôl.

Mae llawer ohonom wedi profi sut y gallwn gynnal pellter wrth deithio’n iachus, gan gynnwys defnyddio’r ffyrdd tawelach hyd yn oed os yw hynny i gamu iddynt am ychydig i symud o gwmpas pobl.

Mae ceir wedi’u parcio a thraffig o amgylch yr ysgol yn ei gwneud hi’n anodd cadw pellter yn ddiogel.

Yn hytrach gellir defnyddio’r lle i greu coridorau teithau iach. Mae Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu canllawiau statudol brys i awdurdodau lleol.

Mae ein harolygon yn dangos y byddai’n well gan ddisgyblion deithio’n llesol pe byddent yn cael y dewis. Mae’r plant yn cyrraedd yr ysgol yn ffres ac yn barod i ddysgu.

Mae’r strydoedd o amgylch yr ysgol yn fwy diogel gyda llai o dagfeydd. Mae’n iach i ni i gyd ac mae hefyd yn dda i’r blaned (ac nid yw’n creu llygredd aer o amgylch yr ysgol).

Credwn y bydd teithau iach yn offeryn pwysig wrth fynd i’r afael â Covid-19.

Gyda’n gilydd byddwn yn iachach ac yn gryfach. Mae astudiaethau wedi cysylltu difrifoldeb symptomau Covid-19 ag ansawdd aer gwael, sy’n cael ei waethygu os oes llawer o draffig o amgylch yr ysgol.

Beth fedr yr ysgol ei wneud

Cysylltwch â Sustrans a’ch awdurdod lleol am Strydoedd Ysgol

Mae Strydoedd Ysgol yn mynd i’r afael â thagfeydd traffig, ansawdd aer gwael a’r pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd y mae nifer o ysgolion yn eu profi, gan gyfyngu ar draffig modur wrth giatiau’r ysgol am gyfnod byr o amser, yn gyffredinol ar amseroedd gollwng a chodi plant.

Mae Strydoedd Ysgol yn medru sicrhau lle ar gyfer pellhau corfforol o amgylch yr ysgol.

Cysylltwch gyda Sustrans a’ch awdurdod lleol

Cysylltwch gyda Sustrans a’ch awdurdod lleol am y posiblrwydd o atal defnydd o fannau parcio, lleihau y nifer o lonydd traffig modur, gwneud yr ardal yn fan i’w osgoi gan draffig trwodd neu gau strydoedd dros dro er mwyn caniatau lledaenu palmentydd, lonydd beicio dros-dro a datblygiad o rwydwaith teithio llesol diogel i’r ysgol.

Annog rhieni i ddewis moddau teithio llesol

Annog rhieni i ddewis moddau teithio llesol pan fydd eu plant yn dychwelyd, gan yrru llythyr yn egluro y problemau diogelwch sydd yn cael ei creu gan draffig modur o amgylch yr ysgol.

Adnabod man parcio a cherdded

Adnabod man parcio a cherdded tua 5-10 munud oddi wrth yr ysgol. Gall hwn fod yn faes parcio archfarchnad neu’r cyngor.

Os oes cost, trafodwch gyda’r perchennog a oes modd ei ddiddymu yn ystod amseroedd gollwng a chodi plant o dan yr amgylchiadau. Rhowch wybod i rieni amdano.

Defnyddiwch gonau

Defnyddiwch gonau i farcio tu fewn a thu allan i’r ysgol er mwyn annog pellhau corfforol.

Gwella'r ddarpariaeth parcio beiciau

Caniatawch i feiciau a sgwteri gael eu parcio ar waliau/ffensiau gan osgoi rhoi gormod yn agos at ei gilydd mewn podiau/llochesi.

Arafwch

Atgoffwch blant am bwysigrwydd arafu, dod i stop a rhoi lle, yn enwedig rheini sydd yn sgwtera a beicio.

Eglurwch pam y dylen nhw wneud hyn a byddent fwy tebygol o wrando.

Ganiatau i blant hŷn gymryd cyfrifoldeb

Anogwch rieni i ganiatau i blant hŷn (Bl.4 ac uwch) gymryd cyfrifoldeb eu hunain am fynd a dod o’r ysgol.

Mae hyn yn helpu eu hyder ffyrdd ac yn lleihau y nifer o bobl o amgylch yr ysgol.

Sut gall Sustrans helpu

Gallwn ni eich cynorthwyo i greu cynllun ar gyfer rheoli’r lle o amgylch yr ysgol er mwyn i deuluoedd fedru mynd a dod i’r ysgol yn ddiogel.

Gallwn drafod gyda’ch awdurdod lleol er mwyn gweld sut gallent hwy gefnogi eich uchelgais.

Gallwn ni ddarparu adnoddau addysgol i’ch cynorthwyo i wneud y mwyaf o’r gofod tu fewn a thu allan er mwyn addysgu.

Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau sydd yn atgyfnerthu canllawiau pellahu cymdeithasol cyfredol, yn magu hyder, ac yn diwallu amcanion y cwricwlwm.

Ar gyfer ysgolion prosiect Teithiau Iach, gallai hyn hefyd olygu amser swyddog ar y safle.

Cadwch mewn cysylltiad â ni. Rhannwch eich syniadau a'ch pryderon. Gallwn weithio gyda swyddogion awdurdodau lleol a staff ysgolion. I ddarganfod mwy, cysylltwch â'n tîm ysgolion Cymru.