Paratoi – Doctoriaid Beics Ifanc
Gwybodaeth Allweddol |
|
---|---|
Amcan | Bydd disgyblion a dysgu sut i wneud beicio fwy diogel gyda gwiriadau ac arferion syml. |
Tŵls | Grŵp/ gyda rhiant |
Adnoddau | Rhestr Wirio Doctor Beics Ifanc |
Cynllun sesiwn | Gadewch inni ddechrau yn y dechrau. Mae’n hanfodol eich bod yn gwirio fod eich beic mewn cyflwr da. Defnyddiwch y rhestr wirio isod i archwilio amrywiol rannau eich beic. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau, efallai y gallwch eu trwsio eich hunain, e.e. rhoi gwynt yn y teiars, iro’r gadwyn ac ati. Dylid mynd â’r beic at fecanig beiciau lleol ar gyfer gwaith trwsio mwy arbenigol. |
Gwybodaeth Allweddol:
Amcan: Dychmygwch eich beic o’r newydd. Dysgu am wahanol fathau o isadeiledd beicio.
Adnoddau: Papur poster, pensiliau lliwio neu binnau ffelt.
Amlinelliad o’r gweithgaredd:Mewn grwpiau neu ar eich pennau eu hunain, bydd y disgyblion yn mynd ati i ymchwilio’r mathau o feiciau, e-feiciau, beiciau cargo a threlars sydd ar gael, ynghyd â’r isadeiledd sy’n galluogi pobl i ddefnyddio beiciau mewn trefi a dinasoedd.
Crëwch boster i hyrwyddo beiciau fel dull teithio i bawb.
Dadlwythwch: Beicio i Bawb Nodiadau athrawon
Cwis yr ystafell ddosbarth heddiw: i ymuno â’r hwyl ar Kahoot Cwis Wythnos Beicio i’r Ysgol i Bawb.
Estyniad: + 20 munud
Gofynnwch i’ch dosbarth gyflwyno eu posteri a siarad am eu syniadau ar gyfer gwneud beicio’n fwy cynhwysol i bawb.
Dysgu am wahanol fathau o feiciau a gwahanol ddefnyddwyr beiciau.
Ysbrydolwyd gan:
Bike It At Home – adnodd a ddatblygwyd gan ein Swyddogion Ysgolion yn Llundain yn ystod y cyfnod dan gyfyngiadau symud.
Gwybodaeth ychwanegol gan Wheels for Wellbeing
Gwybodaeth Allweddol:
Amcan: Lleoli gwledydd y byd, gan ddod o hyd i nodweddion tebyg a gwahanol, a datblygu cynllun ar gyfer taith feicio.
Adnoddau:
Amlinelliad o’r sesiwn:
Cwis ystafell ddosbarth heddiw: ac ymunwch â’r hwyl ar Kahoot Cwis Beicio Rownd y Byd Wythnos Beicio i’r Ysgol
Estyniad: + 20 to 30 minutes
I fod yn fwy egnïol wrth gynnal y gweithgaredd hwn, arddangoswch y taflenni Y Gwyliau Beicio Gorau Erioed o gwmpas yr ystafell ddosbarth, crëwch basbort bach yr un i’r disgyblion gael teithio o gwmpas gan ymweld â’r taflenni, yn nodi ffeithiau wrth fynd ar eu hynt. Sawl lle gwahanol, a faint o ffeithiau allant ddod ar eu traws ar eu taith rownd y byd?
Ysbrydolwyd gan
Ysbrydoliaeth ein partner Wythnos Beicio i’r Ysgol, y Bikeability Trust, yw’r adnodd dysgu hwn, o’u hadnodd “Tools for Schools”. Gallwch ddysgu mwy, a chael mynediad at eu pecyn adnoddau am ddim ar gyfer ysgolion i hyrwyddo a dathlu beicio yma: www.bikeability.org.uk/tools-for-schools
Gwybodaeth Allweddol:
Amcan: I ddisgyblion feddwl am eutaith i’r ysgol a thrafod eu profiadau.
Adnoddau: Byrddau stori wedi’u hargraffu, pensil, papur
Amlinelliad o’r gweithgaredd: Gofynnwch i’r disgyblion greu bwrdd stori byr o’u taith i’r ysgol. Byddant yn dechrau gyda’u tŷ yn y sgwâr cyntaf ac yn gorffen gyda’r ysgol yn yr un olaf. Pan fydd pawb wedi gorffen, gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu sut gwnaethon nhw deithio i’r ysgol.
Gofynnwch i’r disgyblion gymharu’r darluniau yn eu grwpiau. Pa ran o’r daith maen nhw’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi? Gofynnwch iddyn nhw roi golau traffig yng nghornel pob un o’r sgwariau i gynrychioli eu teimladau.
Gofynnwch iddyn nhw gyfrif sawl ‘Gwyrdd’ a sawl ‘Coch’ sydd ganddynt. Beth yw’r sgôr? Beth yw sgôr y dosbarth? Gofynnwch i’r disgyblion gwblhau’r datganiadau canlynol a thrafod fel dosbarth neu mewn grwpiau.
Dadlwythwch:
Cwis yr ystafell ddosbarth heddiw: i ymuno â’r hwyl ar Kahoot Cwis Diogelwch ar y Ffyrdd Wythnos Beicio i’r Ysgol.
Estyniad: + 20 minutes
Eich taith ddelfrydol – Gofynnwch i’r disgyblion roi darn o bapur dargopïo dros eu bwrdd stori.
Gofynnwch iddyn nhw wneud tri newid i’w taith a fyddai’n helpu i’w newid i’w taith ddelfrydol i’r ysgol.
Gofynnwch a oes unrhyw ffordd arall y gallent deithio? A oes llwybr gwell? Allai’r strydoedd fod wedi’u dylunio’n wahanol?
Ffynhonnell: Big Street Survey.
Adnodd cwricwlaidd sy’n galluogi disgyblion
i archwilio’r ardal o gwmpas eu hysgol a chreu maniffesto ar sut i wneud eu strydoedd yn fwy diogel ac yn wyrddach. Mae’r Big Street Survey yn diwallu nifer o amcanion y cwricwlwm, gydag amrywiol gyfleoedd a chynlluniau gwers trawsgwricwlaidd.
I ddysgu mwy, anfonwch ebost education@sustrans.org.uk
Gwybodaeth Allweddol:
Amcan: : Defnyddio ysgrifennu perswadiol i gynyddu’r nifer o bobl sy’n beicio, er lles eu hiechyd a’r amgylchedd.
Adnoddau: Rhestr Wirio Ysgrifennu Perswadiol (1 fesul disgybl)
Amlinelliad o’r sesiwn: Disgyblion i ddewis pwnc i sgwennu amdano. Er enghraifft:
Cwis ystafell ddosbarth heddiw: ac ymunwch â’r hwyl ar Kahoot! Cwis Beicio a’r Amgylchedd Wythnos Beicio i’r Ysgol
Estyniad: 20-30 munud.
I fod yn fwy egnïol wrth gynnal y gweithgaredd hwn, cyflwynwch weithgaredd Cerdded a Sgwrsio – gan gerdded fesul 2, un disgybl i ddarllen eu darn nhw allan, cael adborth, (efallai gan ddefnyddio ‘dwy seren a dymuniad’ neu’r dull cyfatebol a ddefnyddiwch yn eich ysgol chi), cyn ffeirio lleoedd. Bydd hyn yn rhoi adborth gan gyfoedion i’r disgyblion, i’w helpu i fireinio a chwblhau eu darnau ysgrifennu perswadiol.
Ysbrydolwyd gan: Daw’r adnodd dysgu hwn gan ein partner Wythnos Beicio i’r Ysgol, y Bikeability Trust, o’u hadnodd “Tools for Schools”. Gallwch ddysgu mwy, a chael mynediad at eu pecyn adnoddau am ddim ar gyfer ysgolion i hyrwyddo a dathlu beicio yma www.bikeability.org.uk/tools-for-schools
Gwybodaeth Allweddol:
Amcan: Cyfle i ddisgyblion ymarfer eu sgiliau beicio a sgwtera ar yr iard chwarae (h.y. cychwyn, stopio, cydbwyso).
Adnoddau:
Amlinelliad o’r sesiwn: Gosod cwrs gan ddefnyddio conau, sialc, polion neu offer arall o’r gampfa.
Gallai’r cwrs gynnwys y nodweddion canlynol:
Cyn reidio, dylech gael y disgyblion i wirio bod eu beiciau’n ddiogel i’w defnyddio a bod eu helmedi’n ffitio, gan ddilyn y canllawiau gwiriad-M a ffitio helmed.
Rhannwch y disgyblion yn grwpiau o 5 i daclo’r cwrs sgiliau fesul grŵp. Dylai pob grŵp gael 3 neu 4 tro ar y cwrs o fewn 15 munud i gael mireinio’u sgiliau.
Yn dibynnu ar faint yr iard chwarae yn eich ysgol chi, gallech ddod â’r sesiwn i ben gyda reid i’r dosbarth cyfan o gwmpas perimedr yr iard.
Cwis ystafell ddosbarth heddiw: ac ymunwch â’r hwyl ar Kahoot! Cwis gwiriad-M, Wythnos Beicio i'r Ysgol
Ysbrydolwyd gan: Sesiynau iard chwarae Wheely Good Skills, a gynhaliwyd fel rhan o her y Big Pedal yn 2019 gan rai o’n Swyddogion Ysgolion.
Gair o Gyngor:
Dyma’r pecyn adnoddau 5 diwrnod ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd mewn un ddogfen gyfleus.