Mae mudiadau cyhoeddus a phreifat ar led Cymru wedi llofnodi'r Siarter Teithio Llesol, er mwyn iddynt ymrwymo at gefnogi ac annog eu staff i wneud dewisiadau teithio sy'n fwy iachus. Mae prosiect Gweithleoedd Iach Sustrans yn cefnogi’r amcan yna, diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru, ac yn y blog yma clywn o weithiwr o Gyngor Abertawe a benthycodd e-feic cargo am ddim.

Gall pobl sy'n gweithio ar gyfer mudiadau a busnesau sydd wedi arwyddo Siarter Teithio Llesol derbyn cefnogaeth i helpu gwneud y daith i'r gwaith yn fwy iachus a llesol. Llun gan: Sustrans.
Dysgais am y prosiect Gweithleoedd Iach pan oeddwn yn edrych ar wefan staff y Cyngor ac mi wnes i ddod ar draws hen erthygl am y cynllun benthyca beiciau.
Roedd y proses o gymryd rhan yn y cynllun yn hawdd iawn – cefais ymateb chwim i fy e-bost cryno cychwynnol a chawsom sgwrs am yr hyn oedd yn bosib.
Mewn dim amser o gwbl, cefais fenthyciad o e-feic cargo, efo sedd i blentyn a chlo addas, a chyflwyniad da i sut gweithiodd popeth.
O ganlyniad i hyd y benthyciad, roeddwn i’n gallu profi pa mor ddefnyddiol gall e-feic bod, a helpodd Charlie o Sustrans i wneud yr holl broses yn hawdd a llwyddiannus.
Cymryd mantais o’r cyfle i brofi defnyddio e-feic cargo
Defnyddiais i’r beic i deithio i’r gwaith, ac roeddwn i’n gallu cyfuno hyn â chymryd fy mhlentyn i’r ysgol, yn ogystal â theithiau siopa.
Roedd yn wych i fedru cwblhau’r ddau beth ar unwaith a dechrau ein diwrnod mewn ffordd dda.
Roedd yn gyflymach i fynd ar gefn beic na cherdded, ar fws neu mewn car!
Mi es i a fy merch ar anturiaethau hefyd na fyddan wedi gwneud fel arall – roedd ein siwrneiau cyfun fel arfer yn dechrau efo fy merch yn datgan “Mae hyn yn hwylus!” a gweiddi hwrê wrth fynd lawr bryniau.
Buon ni’n mwynhau’r rhyddid a daeth o’r beic a bod allan yn yr awyr agored.
Roeddem yn drist i weld y beic benthyg yn cael ei ddychwelyd oherwydd roedd wedi’n wirioneddol rhoi’r cyfle i ni nid yn unig teithio o A i B ond i fwynhau’r siwrne.
Cyfleoedd teithio cynaliadwy yn mynd i’w le ym mywyd beunyddiol
Galluogodd y beic i mi wneud fy nheithiau i’r gwaith ac yn ôl, yn ogystal â theithiau achlysurol, na fyddaf wedi defnyddio’r car i’w wneud ond oedd hefyd yn rhy hir i gerdded neu gymhleth i wneud yn ôl amserlen bws.
Ces i ddim problemau o gwbl efo’r beic yn ystod y benthyciad, cafodd popeth ei esbonio’n glir iawn ac roedd gwaith papur i gefnogi a rhif cyswllt os oedd angen i mi siarad â rhywun.
Buaswn i wir yn argymell y cynllun benthyca i gydweithwyr!
A dweud y gwir, rwyf eisoes wedi sôn amdani i gydweithwyr, teulu a ffrindiau roedd e mor dda.
Galluogodd yr e-feic i mi gwblhau teithiau byddai wedi bod yn llawer mwy heriol, os nad amhosib ar feic [arferol], oherwydd doedd blaenwyntoedd, bryniau a phwysau ychwanegol plentyn ar gefn y beic dim yn broblemau’n bellach.
Rydw i’n ystyried prynu e-feic fy hun ac yn ymchwilio’r dewisiadau gwahanol.
Roedd Sustrans yn hynod o gynorthwyol wrth iddynt esbonio beth oedd gan yr e-feic benthycais i fel i mi ychwanegu’r manylion yna at fy rhestr; rwyf angen dysgu mwy am gynllun Beicio i’r Gwaith fy nghyflogwr.
Roedd wir yn braf i roi cynnig cyn prynu oherwydd mae e-feic yn bryniant sylweddol – roedd y gallu i siarad â rhywun oedd yn wybodus am feiciau ac e-feiciau’n grêt ac mae gen i lawer i ystyried.