Mae Maes Derw, uned cyfeirio disgyblion yn Abertawe, wedi arwain y ffordd tuag at adeiladu diwylliant o deithio’n llesol i’r ysgol. Nawr, mae disgyblion, staff a chymuned ehangach yr ysgol yn elwa o’r gwaith wedi’ wneud trwy’r rhaglen Teithiau Iach a ariannir gan Lywodraeth Cymru.

Maes Derw yw’r uned cyfeirio disgyblion cyntaf yng Nghymru i gwblhau’r Gwobrau Ysgol Teithio Llesol Efydd ac Arian.
Mae Maes Derw yn uned cyfeirio disgyblion (UCD) cofrestredig, hynny yw math o ysgol wedi’ sefydlu a’i chynnal gan awdurdod lleol ar gyfer disgyblion sydd am resymau gwahanol methu mynychu ysgolion prif lif.
Wedi’ leoli ar gyrion Abertawe, mae’r ysgol yn cefnogi anghenion unigol disgyblion er mwyn helpu iddyn nhw atgyfannu mewn i ysgolion prif lif neu newid i addysg bellach neu gyflogaeth.
Mae llawer o’r disgyblion yn wynebu gorbryder a heriau iechyd meddwl, yn aml heb yr hyder i reidio beiciau, a dyma ble roedd y rhaglen Teithiau Iach a ariannir gan Lywodraeth Cymru yn gallu helpu.
Mae’r mwyafrif o ddisgyblion yn cael eu cludo i’r ysgol gan dacsis neu rieni, ond roedd yr ysgol eisiau datblygu annibyniaeth, gwydnwch a hyrwyddo iechyd a lles ymhlith ei disgyblion a gwelodd yr ysgol teithio llesol fel modd o gyflawni’r nod yna.
Ers ymuno â’r rhaglen, mae Maes Derw wedi cyflawni ei Gwobr Ysgol Teithio Llesol Efydd ac Arian, yr uned cyfeirio disgyblion cyntaf i’w wneud.
Deall anghenion yr ysgol a chydweithio i greu cynllun
Gan ystyried natur a dalgylch yr ysgol, roedd yr opsiynau o ran newid dulliau teithio yn gyfyng.
O ganlyniad, roedd angen i gynllun ysgol teithio llesol canolbwyntio ar weithgareddau tu fewn i gatiau’r ysgol oedd yn annog teithio llesol ymhlith y disgyblion, ac ar yr un adeg amlygu ffurf iachus, gynaliadwy o deithio i staff.
Roedd yr elfennau allweddol o’r cynllun yn cynnwys gwella storfa beiciau a sgwteri, darparu gweithdai i godi ymwybyddiaeth o deithio llesol, ac archwilio opsiynau trafnidiaeth gwahanol.
Roedd rhai o’r gweithrediadau’n cynnwys cynnig bws cerdded i’r ysgol i’r disgyblion, rhywbeth sydd nawr yn digwydd yn wythnosol, gan helpu disgyblion i fod yn fwy egnïol ond hefyd yn codi’u hymwybyddiaeth o’r hewlydd a’u hannibyniaeth.
Roedd y cynllun hefyd yn cynnwys yr angen i sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio beic, yn ogystal â darparu mwy o gyfleoedd i feicio, efo fflyd o feiciau’r ysgol ar gael i ymarfer yn ystod amseroedd egwyl.
“Mae beicio ymhlith staff wedi cael ei hybu, efo’r nifer ohonom sy’n beicio o leiaf unwaith yr wythnos yn codi o un i bump,” meddai Martin Thomas, Cydlynydd Addysg Allanol Maes Derw, am effaith y rhaglen Teithiau Iach.
“Mae nifer o’r disgyblion wedi newid o fethu gallu defnyddio beic i feicio’n annibynnol.”
Gwaith y rhaglen yn elwa cymuned ehangach yr ysgol
Roedd elfen hanfodol o’r cynllun yn cynnwys gwella sgiliau disgyblion yn ogystal ag athrawon yng nghynnal a chadw fflyd o feiciau’r ysgol.
Bydd hyn yn darparu sgiliau gwerthfawr newydd iddyn nhw gallan gymryd adref, ond hefyd annog teimlad o falchder a pherchnogaeth gan gadw’r beiciau mewn cyflwr da.
O ganlyniad uniongyrchol i gwblhau’r cynllun ysgol teithio llesol, efo cefnogaeth y Swyddog Teithiau Iach lleol, mae cymuned ehangach yr ysgol wedi elwa o’r cysylltiadau sydd wedi’u ffurfio trwy’r gwaith sydd wedi’ gwblhau.
Yn nodedig, mae’r coleg lleol, ar ol clywed am frwdfrydedd y disgyblion, yn nawr yn cynllunio creu llwybr hyfforddi uniongyrchol.
Bydd y llwybr yma’n galluogi disgyblion hyn i ddysgu cynnal a chadw ar gyfer beiciau trwy safonau cenedlaethol, gan gynnig iddyn nhw gyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y dyfodol.
Gan edrych ymlaen, mae disgyblion a staff Maes Derw yn awyddus i gymryd rhan yn y gwaith cynnal a chadw ar gyfer y llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol lleol, efo’r syniad o gyfuno hyn a gwaith arwyddo â gweithgareddau’r Wobr Dug Caeredin.
Mae yna hefyd mwy o gynlluniau i barhau i ddarparu hyfforddiant i staff yr ysgol, yn canolbwyntio ar sgiliau cynnal a chadw beiciau ac arwain teithiau.