Cyhoeddedig: 24th MEHEFIN 2025

Prosiect benthyca e-feiciau cymunedol yn lansio yng nghwm Rhondda Fawr

Mae Sustrans yn falch i bartneru â Chroeso i’n Coedwig i ddod â’i brosiect benthyca e-feiciau cymunedol llwyddiannus, E-Symud, i gwm Rhondda Fawr yn Ne Cymru. Mae’r prosiect, wedi’ ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, am redeg am flwyddyn efo pobl sy’n byw yn ardal Treherbert a Threorci nawr yn gallu benthyg e-feic neu e-feic cargo am ddim.

Sustrans and Welcome to Our Woods staff stand outside of the Old Library with a selection of e-bikes.

Mae E-Symud yn dod i Dreherbert a Threorci diolch i’r prosiect newydd yma mewn partneriaeth â Chroeso i’n Coedwig. Llun gan: Sustrans.

Diolch i bartneriaeth newydd gyda Chroeso i'n Coedwig a nawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae'r prosiect benthyca e-feiciau E-Symud yn dod i gwm Rhondda Fawr.

Mae'r prosiect E-Symud, sydd eisoes wedi cael ei ddarparu'n llwyddiannus mewn ardaloedd gwahanol o Gymru dros y blynyddoedd diwethaf, yn galluogi pobl, busnesau a mudiadau i roi cynnig ar ddefnyddio e-feic am ddim.

Gall unigolion benthyg e-feic am gyfnod o bedair wythnos, am ddim, a gall busnesau a mudiadau benthyg e-feic cargo am dri mis.

E-Symud yn gwneud e-feiciau yn hygyrch i fwy o bobl dros Gymru

Bydd y fersiwn yma o'r prosiect E-Symud yn cael ei ddarparu o Dreherbert am flwyddyn, diolch i bartneriaeth efo Croeso i'n Coedwig.

Un o amcanion y prosiect, yn gyfochrog â cheisio gwneud e-feiciau'n fwy hygyrch i bawb, yw helpu annog mwy o deithiau aml-ddull yn y cymoedd Cymreig.

Mae gan e-feiciau llawer o fanteision i gynnig, megis gwneud bryniau'n hawddach i ddringo ar gefn beic.

Mae rhai o fanteision eraill o ddarpariaeth y prosiect E-Symud ar led Cymru wedi cynnwys teimlo gwellhad i iechyd a lles, gwell hyder a newidiadau i sut mae pobl yn dewis teithio.

Mae busnesau wedi adrodd amseroedd teithio cyflymach, arian wedi' harbed ar gostau tanwydd a theimlad gwell o ysbryd ymhlith gweithwyr.

Modd hwylus a chynaliadwy o drafnidiaeth

"Rydym yn caru'r prosiect E-Symud oherwydd yr hyn mae'n cynnig pobl, cyfle i brofi modd o drafnidiaeth sy'n hwylus ond weithiau'n waharddol o gostus," dwedodd Charlie Gordon, Rheolwr Prosiect yn Sustrans.

"Mae'r prosiect yn cynnig y cyfle i bobl benthyg am ddim, felly gall unrhyw un sy'n fyw yn lleol cofrestru a benthyg beic efallai ni fyddant wedi' ddefnyddio fel arall."

"Mae gennym e-feiciau sy'n addas ar gyfer anghenion gwahanol - beiciau sy'n plygu lan sy'n ddelfrydol ar gyfer teithio i'r gwaith ar y trên, beiciau gallwch gamu drwodd sy'n haws o ran hygyrchedd, hyd at e-feiciau cargo sy'n gallu cael ei ddefnyddio i gludo llwyth o bethau."

Bydd y prosiect E-Symud yn cael ei darparu o'r Hen Lyfrgell ar Stryd Bute yn Nhreherbert hyd at fis Mai 2026, efo staff Sustrans yn bresennol ar ddyddiau Mawrth ac Iau.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect neu fynegi diddordeb mewn benthyg e-feic, cysylltwch â staff Sustrans.

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru