Bydd Sustrans yn ymgymryd â gwaith arwynebu yn fuan mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol i wella ansawdd a hygyrchedd un o lwybrau mwyaf poblogaidd y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn Ogledd Cymru. Bydd Ffordd 5, sy'n ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru, yn Neganwy yng Nghonwy yn elwa o'r gwaith arwynebu sydd wedi' ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r rhan yma o Lwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn boblogaidd iawn ac yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Llun gan: Sustrans.
Mae Ffordd 5 yn un o'r prif lwybrau cyd-ddefnyddio yn Ogledd Cymru sy'n ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru, efo Llwybr 5 yn ei gyfanrwydd yn mesur pellter anferthol o 367 milltir o Reading i Gaergybi.
Bydd y gwaith arwynebu yn cael ei gynnal ar ran o'r llwybr yn Neganwy yng Nghonwy, ble mae'r ffordd yn ffurfio rhan o lwybr moryd Conwy.
Bydd y gwaith, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, am ddigwydd mewn dau ran - yn gyntaf, bydd y safle'n cael ei glirio tuag at ddiwedd yr haf efo'r amgylchedd lleol yn cael ei ystyried, ac yn ail, y gwaith arwynebu.
Yn ystod y ddwy adeg, bydd y rhan yma o'r llwybr ar gau, efo dargyfeiriad wedi' ddarparu, wrth i'r gwaith mynd ymlaen, ond bydd y llwybr yn ail agor rhwng adegau'r gwaith hefyd.
Dyma ran boblogaidd tu hwnt o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy'n cael llawer o ddefnydd, fel dangosodd astudiaeth argraff economaidd gan Sustrans yn 2019 efo amcangyfrif o ddefnydd blynyddol o 429,871 o deithiau cerdded a beicio pob flwyddyn.
Manteision economaidd ac iechyd yn deillio o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
Gwyddom fod manteision i gymunedau cyfagos sy'n deillio o'r RBC, felly mae'n angenrheidiol bod ansawdd y rhan yma o Ffordd 5 yn cael ei chynnal er mwyn sicrhau bod y manteision cymdeithasol, iechyd a thwristiaeth sy'n elwa'r ardal yn parhau.
Dros yr 20 mlynedd o ddefnydd diwethaf, mae'r arwyneb presennol wedi dioddef ac yn awr yn dechrau ymyrryd ar ddefnydd.
Canfu Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb gan Sustrans ar gyfer y prosiect arwynebu taw pobl ag anabledd, beichiogrwydd, neu famolaeth cafodd eu heffeithio'r mwyaf ac o ganlyniad oedd y lleiaf tebygol i ddefnyddio'r ffordd.

Mae’r arwyneb presennol yn dechrau gwaethygu ac mae angen atgyweiriad. Llun gan: Sustrans.

Map sy'n dangos y dargyfeiriad awgrymedig ar gyfer Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ger Deganwy. Llun gan: Sustrans.
Gweithredu i sicrhau dyfodol ased cymunedol
Un o'r prif ystyriaethau efo'r rhan yma o'r llwybr, yn ogystal â sicrhau ei fod yn iawn i bobl i barhau i'w ddefnyddio'n gyson, yw ei bwysigrwydd o safbwynt ecolegol.
Mae'r rhan yma o RBC 5 yn ffinio'r Afon Conwy, efo'r afon wedi' ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA), felly mae 'na angen ar gyfer gofal go iawn o safbwynt lleihau'r effaith ar y bywyd gwyllt a llystyfiant lleol.
Mae Sustrans wedi cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod pob gofal yn cael ei gymryd er mwyn osgoi unrhyw ddifrod i'r SDGA, efo datganiad dull asesu risg wedi' deilwra'n arbennig ac ecolegydd wedi' gyflogi er mwyn cwblhau gwiriadau arolwg cyn nythu.
"Mae'n hynod o glir i ni pa mor bwysig yw'r ffordd yma i'r bobl sy'n byw yn gyfagos yn yr ardal yma o Gonwy, yn ogystal â'i rôl o safbwynt twristiaeth yma," medd Anthony Jones, Rheolwr Datblygiad y Rhwydwaith ar gyfer Sustrans.
"Dyma ffordd boblogaidd iawn ger safle ecolegol pwysig yma yn Ogledd Cymru, felly mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn i sicrhau ansawdd a hygyrchedd y ffordd ar gyfer pawb."
Dylai'r gwaith arwynebu cael ei orffen erbyn diwedd 2025, efo'r nod o ddathlu arwyneb newydd y ffordd efo teithiau cerdded a beicio tywys yn wanwyn y flwyddyn olynol.