Cyhoeddedig: 22nd EBRILL 2025

Cannoedd o blant yn ymuno â’r Bws Beiciau FRideDays mwyaf erioed

Croesawodd Caerdydd y Bws Beicio FRideDays mwyaf erioed yn ddiweddar, efo dros 300 o ddisgyblion, rhieni ac athrawon o Ysgol Gynradd Radnor, Ysgol Treganna ac Ysgol Pwll Coch yn ymuno gyda’i gilydd ar gyfer y daith i’r ysgol. Cawson nhw westai arbennig yn ymuno â nhw hefyd, ‘Coach’ Sam Balto, sylfaenydd Bike Bus World o’r Unol Daleithiau.

Arweiniodd Hamish Belding o Sustrans a Coach Balto y Bws Beiciau FRideDays mwyaf erioed ynghyd â'i gilydd. Llun gan: Tom Hughes\Sustrans.

Cymerodd dros 300 o blant, rhieni ac athrawon i strydoedd Caerdydd am daith a gwahaniaeth i'r ysgol yn ddiweddar.

Wedi' drefnu gan Sustrans, ymunodd plant o Ysgol Gynradd Radnor, Ysgol Treganna ac Ysgol Pwll Coch gyda'i gilydd i greu'r Bws Beiciau FRideDays mwyaf erioed.

Cawson nhw ei ymuno gan 'Coach' Sam Balto, yr athro addysg gorfforol Americanaidd a daeth yn enwog ar ôl iddo gynnal bws beiciau yn Portland efo'r seren Justin Timberlake.

"Roedd yn llonnol i fod yn rhan o'r bws beiciau enfawr yma ac i weld yn uniongyrchol tyfiant rhyngwladol symudiad Bws Beiciau," medd Coach Balto.

"Teimlodd y plant llawenydd a rhyddid gan feicio gyda'i gilydd - mae cyrraedd yr ysgol yn newid i fod yn hyfrydwch yn lle tasg fel rhan o fws beiciau."

 

Bws beiciau yn trawsnewid y daith i'r ysgol

Mae bysiau beiciau yn deithiau grŵp ble mai plant, teuluoedd a ffrindiau yn beicio efo'i gilydd ar hyd ffordd benodol, gan wneud y daith i'r ysgol yn fwy llesol, hwylus a chynaliadwy.

Mae'r prosiect Bws Beiciau FRideDays yn grymuso mwy o deuluoedd i elwa ar feicio gan gynnig adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth gyfredol am ddim ar gyfer cymunedau ysgolion ar led y DU.

Mae bysiau beiciau'n rhoi'r cyfle i blant teithio ochr yn ochr â'u ffrindiau, addurno eu beiciau a theithio gan wrando ar gerddoriaeth, gan gyrraedd yr ysgol wedi'u hegnioli ac yn hapus.

"Mae prosiectau fel y Bws Beiciau FRideDays yn hanfodol," esboniodd Hamish Belding, Cydlynydd Bws Beiciau FRideDays ar gyfer Sustrans.

"Gyda'n gilydd, gallan arwain y ffordd at gymdogaethau iachach, hapusach sy'n blaenoriaethu'r amgylchedd yn ogystal â lles cymunedol."

"Mae digwyddiadau llawenus fel y Bws Beiciau efo Coach Balto'n ceisio amlygu sut gall teithio gyda'i gilydd annog plant i fynd ar eu beiciau ar gyfer y daith i'r ysgol."

"Awyr iach, ffrindiau, a'r teimlad o ryddid - dyna 'di holl bwrpas Bws Beiciau FRideDays."

Grymuso lleisiau cenedlaethau’r dyfodol trwy deithio llesol

Mae bysiau beiciau hefyd yn ffordd effeithiol o amlygu problemau allweddol sy'n ymwneud a'r pwysigrwydd a'r gallu i deithio'n llesol o oedran ifanc, yn ogystal â goresgyn rhai o'r rhwystrau sy'n atal plant rhag beicio.

Dangosodd Mynegai Cerdded a Beicio Plant diweddar Sustrans o'r 1.36 biliwn o deithiau sy'n cael ei gerdded, olwyno neu sgwtera gan blant pob flwyddyn yn y DU, mae'r mwyafrif yn cael ei wneud ar y daith i ac oddi wrth yr ysgol (38%).

Gall bysiau beiciau arwain at newidiadau cadarnhaol sy'n elwa cymunedau yn ystod amser a all fel arall bod yn ddirboenus.

Maent yn helpu plant i gael ymarfer corff ar ddechrau'r diwrnod, yn rhoi hwb i'w hiechyd corfforol a meddylio, ac yn arwain nhw i ganolbwyntio'n well yn y dosbarth.

Maent hefyd yn ffordd dda o leihau tagfeydd a thraffig - efo llai o geir ar yr hewlydd o ganlyniad i bobl yn cymryd rhan mewn bws beiciau - yn ogystal â dod â chymunedau at ei gilydd.

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru