Llwybr Bae Caerdydd
Mae'r llwybr cylchol hawdd, di-draffig hwn yn rhedeg o amgylch Bae Caerdydd ac ar draws i dref glan môr Penarth trwy Bont y Werin. Mae'n berffaith i deuluoedd a beicwyr sy'n dychwelyd ac mae'n gyfle gwych i archwilio caffis, bariau a bwytai glannau dŵr bywiog Bae Caerdydd, ei safleoedd treftadaeth a'r amrywiaeth wych o weithgareddau sydd ar gael yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.