Teithiau Iach

Mae ein rhaglen Teithiau Iach yn gweithio gydag ysgolion ar led Cymru i greu diwylliant sy’n ei wneud yn haws i blant cerdded, olwyno, sgwtera a beicio i’r ysgol.

Beth yw’r rhaglen Teithiau Iach?

Teithiau Iach yw ein rhaglen ysgolion a ariannir gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu plant ar led y gwlad i deithio mewn modd llesol yn ddiogel, yn hawdd ac yn hyderus i’r ysgol – gan gerdded, olwyno, sgwtera neu feicio.

Rydym yn gweithio gyda pob math o ysgol a’u staff, yn cydweithio ag awdurdodau lleol, i wella ffyrdd a chreu diwylliant sy’n cefnogi disgyblion wrth iddynt deithio’n llesol ac mewn modd cynaliadwy.

Mae ein Swyddogion Teithiau Iach yn ddarparu gweithgareddau deniadol i adeiladu’r hyder, brwdfrydedd a sgiliau dysgwyr, athrawon, rhieni a gwarchodwyr yn ein cymunedau.

Mae’r gweithgareddau, gwersi ac adnoddau addysg rydym yn ddarparu’n cefnogi ysgolion yn eu hymdrechion i gyflawni gwobrau Eco-Sgolion ac Ysgolion Iach, yn ogystal â gweithio tuag at Wobr Ysgol Teithio Llesol Sustrans.

Er enghraifft, gan ddefnyddio ein traciwr teithiau Tali Teithio, gall ysgolion cyfri'u teithiau llesol a gweld faint o garbon maent wedi arbed gan ddewis i gerdded, olwyno neu feicio i'r ysgol yn lle defnyddio'r car.

 

Pam cymryd rhan yn y rhaglen Teithiau Iach?

Mae ysgolion Teithiau Iach yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc a theuluoedd sy’n teithio’n llesol i’r ysgol – mae cynnydd o 25% ar gyfartaledd ar ôl flwyddyn o gefnogaeth gan y rhaglen Teithiau Iach.

Mae teithio’n llesol i’r ysgol ac oddi nol yn helpu gwella iechyd corfforol a lles cymuned yr ysgol, yn ogystal â gwella canolbwyntio, perfformiad ac ymddygiad.

Yn syml, mae teithio llesol yn arwain at unigolion sy’n iachach ac yn fwy hyderus.

Mae ein dull cydweithredol, cynhwysol yn cynnwys staff, dysgwyr, rhieni a gwarchodwyr yn y gwaith cynllunio a darparu, sy’n grymuso ysgolion i fod yn annibynnol a chreu newidiadau cadarnhaol ar gyfer y cymuned ehangach trwy ymddygiadau teithio cynaliadwy.

Cofrestrwch eich ysgol i'r rhaglen Teithiau Iach

Darganfyddwch sut gallan helpu eich ysgol i wneud newid cadarnhaol, arwyddocaol

Cofrestrwch nawr

Ceisiwch ar gyfer y rhaglen Teithiau Iach

Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen Teithiau Iach nawr ar agor.

Two children and their mother pushing their bikes into school grounds, with other children arriving by foot behind them.

Gwobr Ysgol Teithio Llesol

Mae'r Gwobr Ysgol Teithio Llesol yn tywys ysgolion trwy'r camau allweddol er mwyn cynyddu a chynnal nifer y disgyblion sy'n teithio'n llesol.

Tali Teithio

Tali Teithio yw ein traciwr teithiau hawdd ei ddefnyddio ni ein hynain. Gallwch weld effaith eich teithiau, faint o garbon sydd wedi' arbed drwy deithio'n llesol a sut mae'ch dosbarth wedi gwneud pethau gwych ar gyfer yr amgylchedd lleol a byd-eang drwy gerdded, olwyno neu feicio i'r ysgol.

Os hoffech chi ddefnyddio Tali Teithio i gofnodi eich teithiau, cysylltwch â ni a byddan yn helpu chi ddechrau.

Schoolchildren standing in front of a Sustrans staff member delivering a Dr Bike session on school grounds.

Adnoddau addysg

Gallwch gael mynediad at adnoddau addysg sy'n gyfun â’r cwricwlwm Cymreig diweddaraf sy’n helpu canoli teithio llesol.

A girl riding her scooter toward the camera, with her mum standing in the background.

Digwyddiadau yn ystod y tymor

Mae Stroliwch a Roliwch Sustrans yn digwydd pob Gwanwyn, yn hybu teithiau llesol i’r ysgol, ac yna mae Wythnos Beicio i’r Ysgol yn digwydd yn yr Hydref.