Wythnos 4: Tu Fas Tu Fewn Sustrans

Croeso i’ch wythnos 4.

Wnaethoch chi fethu manteisio ar Wythnos 3 gweithgareddau TuFasTuFewnSustrans? Dyma gyfle arall.

Diwrnod 1: Penillion pŵer pedalau

Ysgrifenna gerdd acrostig wedi’i hysbrydoli gan dy hoff ddull o deithio i’r ysgol. 

Beth yw cerdd acrostig?

Cerdd acrostig yw un sy’n defnyddio llythyren gyntaf bob llinell i sillafu gair, neges neu’r wyddor ar i lawr.

Caiff llinellau’r gerdd odli, ond does dim rhaid iddyn nhw wneud.

Bydd angen:

  • Pin ysgrifennu
  • Papur
Pedal powered poems

Cyfarwyddiadau

Dewisa dy hoff ddull o deithio i’r ysgol ac ysgrifenna gerdd acrostig.

Defnyddia eiriau fel cerdded, sgwtera neu beicio – galli ddewis dy hoff ddull teithio a rhoi cynnig arni.

Beth am rannu dy gerddi ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #TuFasTuFewnSustrans a thagio @Sustrans yn dy straeon?

Yn ôl i’r brig

Diwrnod 2: Dewch inni fynd i sgwtera

Mae sgwtera’n ffordd wych o wella dy gydbwysedd a chydsymudiad, ac yn bwysicach na dim, mae’n llawn hwyl. 

Galli ddarllen ein canllaw ar ddysgu sgwtera’n ddiogel a diweddaru dy wybodaeth yma.

Bydd angen

  • Sgwter
  • Helmed
  • Pin ysgrifennu
  • Papur
  • Powlen
  • Rhywle i sgwtera, e.e. palmant, iard neu hyd yn oed ychydig o le dan do.

Cyfarwyddiadau

1. Ysgrifenna bob un o’r sgiliau isod ar ddarnau gwahanol o bapur:

  • Dod i stop gan ddefnyddio dy frêc
  • Hwylio, gyda’r ddwy droed ar dy sgwter, mor bell ag y galli di
  • Sgwtera mewn patrwm igam ogam
  • Sgwtera gyda dy goes arall
  • Sgwtera ar dy eistedd, yn dal dy goesau i fyny
  • Sgwtera wrth gydbwyso rhywbeth fflat ar dy ben/ar dy helmed
  • Dod i stop mor sydyn ag y galli di – drwy neidio oddi ar y sgwter a’r ddwy droed gyda’i gilydd ar un ochr i’r sgwter
  • Ceisio tynnu un llaw oddi ar y cyrn, hyd yn oed am eiliad, yna’r llaw arall.

2. Plyga’r papurau fesul un a’u rhoi yn y bowlen.

3. Dewisa un darn o bapur ar y tro a rhoi cynnig ar y sgil honno.

Os rwyt ti’n dysgu sgil newydd am y tro cyntaf, cymer bwyll a chymer dy amser.

Her sgwtera

Beth am herio rhywun yn y tŷ i Gystadleuaeth Sgwtera? Galli roi pwynt i bob sgil yn dibynnu pa mor anodd yw’r sgil honno. E.e. Stopio = 1 pwynt, Sbonc = 10 pwynt. 

Tybed sawl pwynt all pob un ohonoch ei sgorio?

Yn ôl i’r brig

Diwrnod 3: Beiciau a phobl o bedwar ban byd

Mae beiciau wedi siapio a newid ein byd ers mwy na 200 mlynedd.

Rhoddodd beiciau’r rhyddid inni deithio ymhellach, gwisgo’n wahanol a nawr, gall beicio ein helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Rho dy het dditectif am dy ben ac ateb y cwestiynau isod i fod yn Bencampwr Beic Sustrans

Bydd angen

  • Pin ysgrifennu a phapur
  • Mynediad i’r we er mwyn ymchwilio dy atebion

Cyfarwyddiadau

Dyma dy gwestiynau Pencampwr Beicio.

Bydd angen iti ddefnyddio’r we i ddod o hyd i’r atebion felly cofia wneud yn siŵr dy fod yn cael caniatâd.

1. Sawl beic sy’n cael eu defnyddio rownd y byd?

a) 12 miliwn

b) 1-2 biliwn

c) 5 biliwn

2. Ym mha wlad mae’r nifer fwyaf o feicwyr fesul pen o’r boblogaeth(fesul person)?

3. Sut mae dweud “Beic” mewn iaith arall?

Galli ddefnyddio geiriadur neu feddalwedd cyfieithu ar-lein i dy helpu. Galli wrando ar y geiriau trwy glicio’r eicon corn sain ac ymarfer eu dweud ar lafar.

Iaith

Cyfieithiad

  Cymraeg

  Beic

 Saesneg

 

  Swahili

 

  Sbaeneg

 

  Ffrangeg

 

  Iseldireg

 

  Tsieinëeg

 

4. Dyfeisiwyd y ‘dandy horse’ dros 200 mlynedd yn ôl (1817) yn yr Almaen, ac ystyrir mai hwn oedd y “beic” llwyddiannus cyntaf.

Pa wahaniaethau sydd rhwng y dandy horse a beic cyfoes?

5. Dyluniwyd y beic Brompton yn 1975 gan ddyfeisiwr Prydeinig.

Beth sy’n gwneud beiciau Brompton yn wahanol i feiciau eraill?

6. Pwy sy’n dal y Guinness World Record am feicio rownd y byd mewn 79 diwrnod (gyda chefnogaeth) a 125 diwrnod (heb gefnogaeth)?

7. Mae defnyddio beiciau i fynd o A i B yn beth cyffredin.

Alli di ddod o hyd i bump peth gwahanol y gellir eu defnyddio i’w gwneud o gwmpas y byd?

8. Gwranda ar y gân Bicycle Race gan Queen.

Sawl gwaith mae’r gân yn dweud ‘bike’ a ‘bicycle’?

Ewch i’r atebion

Yn ôl i’r brig

Diwrnod 4: Gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn datblygu’r ymennydd i gyd. Mae’n ein helpu i ddeall ein hemosiynau a’n teimladau.

Bydd angen

  • Jar gyda chaead sy’n cau’n sownd
  • Llwch llachar
  • Glud crefft clir PVA
  • Lliw bwyd
  • Labeli gludiog
  • Pinnau ysgrifennu.

Gweithgaredd 1: Ystumiau a theimladau

Gall gwneud ystumiau hwyliog wneud inni deimlo’n gryf, yn ddewr ac yn hapus.

Dewisa fan distaw a chyfarwydd a rho gynnig ar ystum o’r rhestr ganlynol:

  1. Ystum Superman: gan sefyll gyda’r traed ychydig yn lletach na’r cluniau, gwneud dwrn gyda phob llaw, a’r breichiau’n ymestyn i’r awyr, gwna dy gorff mor dal â phosib.
  2. Ystum Wonder Woman: gan sefyll yn dal gyda’r coesau’n lletach na’r cluniau a’r dwylo neu’r dyrnau ar y cluniau.

Sut roeddech chi’n teimlo wrth wneud yr ystumiau hyn? Mae’n syndod sut gall gwneud ystum fel un o’r rhain ambell waith wneud ichi deimlo.

Gweithgaredd 2: Synhwyrau Spidey

Synhwyrau Spidey yw’r synhwyrau arogli, gweld, clywed, blas a chyffyrddiad y mae Spiderman yn eu defnyddio i gadw golwg ar y byd o’i amgylch.

Wrth fynd am dro heddiw, gofynna i’r teulu ddefnyddio eu synhwyrau Spidey. Gofynna iddyn nhw ddefnyddio pob un o’u synhwyrau i sylwi ar beth sydd o’u cwmpas.

Ar ôl bod am dro, beth am drafod beth wnaethoch chi sylwi arno nad ydych chi’n arfer sylwi arno?

Mae hwn yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar sylfaenol iawn ac mae’n annog pobl i sylwi ac i fod yn chwilfrydig, sgiliau gwych i unrhyw un eu hymarfer.

Gweithgaredd 3: Jar llwch llachar

Cyfarwyddiadau

  1. Addurna’r tu allan i’r jar gyda labeli gludiog, gan wneud yn siŵr y galli weld drwyddo o hyd
  2. Llenwa ¾ y jar â dŵr
  3. Ychwanega’r glud, y llwch llachar a’r lliw bwyd, rho’r caead arno a’i ysgwyd yn dda!
  4. Galli ysgwyd y jar pan fyddi’n teimlo’n bryderus neu’n ypset, ac wedyn aros yn llonydd tra bydd y llwch llachar yn setlo.

Meddylia am sut mae dy feddyliau’n debyg i’r llwch llachar.

Pan fo’r llwch llachar yn setlo i waelod y jar, mae’r meddwl yn setlo hefyd.

Amser meddylgar

Ym mha ffyrdd fydd yr ymarferion hyn yn dy helpu i fod yn fwy ymwybodol pan fyddi’n cerdded, beicio neu’n sgwtera?

Yn ôl i’r brig

Diwrnod 5: Beth yw lobïo?

Lobïo yw’r enw ar geisio perswadio llywodraethau i wneud penderfyniadau neu gefnogi rhywbeth. Gall bob math o unigolion wneud hyn, ar eu pennau eu hunain neu mewn grwpiau.

Bydd angen

  • Cyfrifiadur (a mynediad at y we)
  • Pin ysgrifennu a phapur.

Cyfarwyddiadau

Mae prif weinidog y Deyrnas Unedig wedi gofyn yn ddiweddar i’r awdurdodau lleol sy’n edrych ar ôl ein cymdogaethau i’w gwneud yn hawdd i bobl gerdded a beicio tra’r ydym yn ceisio cadw pellter rhyngom ni a phobl eraill.

Dyma rai esiamplau o bethau sy’n cael eu hannog:

  • Cau strydoedd i geir
  • Gwneud llwybrau troed yn lletach
  • Gosod lonydd beicio dros dro
  • Arafu ceir.

1. Meddylia am beth fyddai’r help mwyaf i bobl deithio’n ddiogel yn dy gymdogaeth di neu o gwmpas dy ysgol.

2. Rho dy god post yn y wefan on: www.writetothem.com (gofynna i oedolyn os nad wyt ti’n gwybod beth yw dy god post).

Mae hwn yn rhoi rhestr iti o’r bobl sy’n dy gynrychioli yn y llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynghorwyr sy’n edrych ar ôl dy fuddion yn dy ardal leol ac sy’n gyfrifol am wasanaethau lleol
  • Dy Aelod Seneddol (y person sy’n dy gynrychioli yn Nhŷ’r Cyffredin yn Llundain)
  • Dy Aelod o’r Senedd yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu’r Alban.

3. Dewisa gynrychiolydd i ysgrifennu atynt a’u hannog i wneud y newid hwnnw. Cofia gynnwys pwy wyt ti, beth rwyt ti ei eisiau, a pham rwyt ti eisiau hynny. Galli ddefnyddio’r wefan neu bapur a phensil.

Galli weld y newidiadau sy’n digwydd eisoes ar fap Space to Move Sustrans.

Atebion

  1. b) 1-2 biliwn.
  2. Yr Iseldiroedd.

  Language

  Translation

Welsh

Beic

  English

  Cycle

  Swahili

  baiskeli

  Spanish

  una bicicleta

  French

  un velo

  Dutch

  een fiets

  Chinese

  Yi liang zicngche

  1. Nid oedd pedalau ar y dandy horse, roedd wedi’i wneud o bren, a dim ond mewn parc gydag arwyneb llyfn neu ar lwybr yr ardd y gellid ei ddefnyddio. Y beic go iawn cyntaf gyda phedalau oedd y boneshaker yn 1865.
  2. Mae beiciau Brompton yn plygu’n fach i’ch galluogi i’w cario ar y trên.
  3. Mark Beaumont (gyda chefnogaeth) a Jenny Graham (heb gefnogaeth).
  4. Hamddena; iechyd a ffitrwydd; teganau; heddlu; danfon post; mynd â bwyd i’r farchnad ac oddi yno; gwasanaeth cludo; chwaraeon ac adloniant.
  5. 41

Cwestiynau