Her wythnos 4

Gêm trymps Tu Fas Tu Fewn

Gêm gardiau ar thema cerdded a beicio sy’n gyfle i ddylunio dy gymdogaeth dy hun.

Galli gwblhau gweithgareddau’r dasg neu ddefnyddio’r cardiau i chwarae gem gardiau trymps.

Bydd angen:

Awgrym: galli ludo’r papur i ddarn o gardfwrdd i wneud i’r cardiau bara’n hirach.

Gweithgaredd 1

Mae dy gyngor lleol eisiau iti greu cynllun ar gyfer gwneud yr ardal o gwmpas dy gartref di’n gyfeillgar i gerdded/beicio o’i amgylch.

Dewisa bump cerdyn sydd â chyfanswm sgôr cyfeillgar i gerdded/beicio o 40 neu fwy.

Rwyt ti’n darganfod mai dim ond cyfanswm sgôr cost o chwech sydd gennyt i’w wario (££££££). A oes syniadau y bydd angen iti eu newid? A fydd eich cynllun yn well neu’n waeth?

Gweithgaredd 2

Nawr, cer ati i greu cynllun sy’n gyfeillgar i gerdded/beicio ac yn gar-gyfeillgar.

Dewisa bump cerdyn sydd â sgôr o 35 yr un ar gyfer cyfeillgar i gerdded/beicio a char-gyfeillgar.

A yw’r cynllun cystal â’r cynllun cerdded/beicio yn unig yng Ngweithgaredd 1?

Gweithgaredd 3

Y cynllun nesaf yw gwneud dy stryd mor ddiogel â phosibl.

Dylunia gynllun trwy ddewis pedwar cerdyn sydd â sgôr diogelwch o 9 neu 10. Pa un wyt ti am ei ddewis?

Gweithgaredd 4

A oes modd gwneud rhywbeth yn gyflym, yn hawdd AC yn rhad?

Dewisa bedwar cerdyn sydd â chyfanswm sgôr cyflym a hawdd o 25 neu fwy, a’r gost yn gyfanswm o ddim mwy na sgôr cost o bump (£££££).

Gweithgaredd 5

Beth yw’r hwyl gorau y galli di ei gael?

Dewisa bump cerdyn gyda chyfanswm sgôr hwyliog o 35 neu fwy.

Gweithgaredd 6

Gwna dy stryd mor ddeniadol â phosibl.

Pa bump cerdyn fyddet ti’n ei ddewis sydd â chyfanswm sgôr deniadol o 35 neu fwy?

Gweithgaredd 7

Dewisa’r pum cerdyn a fyddai’n gwneud y cynllun gorau i dy gymdogaeth di.

Gofynna i oedolyn ddewis eu cynllun delfrydol.

Beth am gael sgwrs am y gwahaniaethau a pham rwyt ti a’r oedolyn yn teimlo mai eich dewis chi fyddai orau? Pwy all berswadio pwy mai eu cynllun nhw yw’r un gorau?

Gweithgaredd 8

Nawr, rho gynnig ar gêm o gardiau trymps. 

Rhannwch ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #SustransTuFasTuFewn.