Home » What we do » National Cycle Network » Long distance rides » Wales » Carmarthen & Llanelli Loop

Carmarthen & Llanelli Loop

Route 4      Route 47      Celtic Trail Logo

Cymraeg      English

'Lighthouse' by Mike Fairfax, Llanelli Summer in the Swiss Valley, Wales

 

O - i: Dolen Caerfyrddin a Llanelli

Math: Lonydd tawel yn bennaf, rhai rhannau di-draffig

Hyd: 50 milltir

Rhif Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol: Rhan o Lwybr Cenedlaethol 4 a 47

Mynediad: Gorsafoedd Rheilffordd Llanelli a Chaerfyrddin

Mapiau ac Arweinlyfrau: Map beicio Lôn Geltaidd - Gorllewin, (Cyf siop ar-lein Sustrans: NN4C)

Gellid cwblhau Dolen Caerfyrddin a Llanelli mewn diwrnod os ydych yn heini, neu yn arafach dros benwythnos hamddenol (25 milltir y dydd). Mae'r ddolen yn pontio dau lwybr di-draffig hir sy'n cyfarfod ym Mharc Dŵr Sandy yn Llanelli. Gan anelu i'r de o Gaerfyrddin byddwch yn teithio ar hyd cyfres o lonydd tawel i Lanyfferi gyda golygfeydd gwych dros Fae Caerfyrddin. Yn fuan wedi mynd heibio i gastell hardd Cydweli fe ddewch at y llwybr di-draffig cyntaf, gan eich tywys drwy Fforest Pembre ac ar hyd y Parc Arfordirol y Mileniwm Llanelli i Barc Dŵr Sandy.

O'r fan hon ceir ail lwybr di-draffig a adwaenir fel Llwybr Swiss Valley, sy'n dringo'n gyson ar hyd trac hen linell reilffordd, gyda golygfeydd dros Gronfeydd Dŵr Lliedi. Ymunir â'r rhwydwaith lonydd i'ch tywys heibio i Ardd Botaneg Cenedlaethol Cymru. Mae'r cymal olaf yn mynd ar hyd Dyffryn Tywi yn ôl i Gaerfyrddin, gyda'i Chanolfan Treftadaeth a'i Amffitheatr Rufeinig.


From - to: Carmarthen & Llanelli Loop

Type: Mainly quiet lanes, some traffic-free sections

Length: 50 miles

National Cycle Network number: Part of National Routes 4 and 47 

Access: Llanelli and Carmarthen railway stations

Maps and Guides: NN4C Celtic Trail West cycling map from Sustrans

The Carmarthen & Llanelli Loop could be done in a day if you are fit, or more slowly over a leisurely weekend (25 miles per day). The loop links together the two long traffic-free paths that meet at Sandy Water Park in Llanelli. Heading south from Carmarthen a series of quiet lanes take you to Ferryside with fine views out over Carmarthen Bay. Shortly after passing the mighty castle at Kidwelly, the first traffic-free path is joined, taking you through Pembrey Forest and along the spectacular Llanelli Millennium Coastal Park to Sandy Water Park.

From here a second traffic-free path, known as the Swiss Valley Trail, climbs steadily along the course of an old railway line, with views over the Lliedi Reservoirs. The lane network is joined to take you right past the National Botanic Gardens of Wales. The final stage runs down the Tywi Valley back to Carmarthen, with its Heritage Centre and Roman Amphitheatre.

Back to Top