Home » What we do » Active Travel » Teithio Byw Cymru / Active Travel Cymru » Prosiectau Teithio Byw Cymru / Active Travel Cymru Projects » Splott Community Solutions

Splott Community Solutions

Cymraeg    English

Biker in CardiffMae Splott Community Solutions yn gweithredu yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Sblot a Thremorfa yng Nghaerdydd. Defnyddiodd y Prosiect £14,500 o arian y Cyngor Chwaraeon i fuddsoddi mewn 25 o feiciau hybrid (yn cynnwys 3 maint iau). Mae'r beiciau ar gael i'w llogi am fenthyciad tymor hir gan aelodau o'r gymuned, a hynny am ddim. Y nod yw galluogi pobl leol i fenthyca beiciau ar gyfer eu defnyddio yn rheolaidd - i fynd i'r gwaith, i'r ysgol, i safleoedd amwynderau lleol neu er mwyn hamdden yn unig.

Caiff y beiciau eu storio mewn cynhwysydd cludiant llongau yng Nghanolfan Chwaraeon St Alban yn Nhremorfa. Mae aelod o staff y ganolfan yn arolygu'r cynllun ac mae ar gael i rannu'r beiciau pan fydd eu hangen.

Caiff y beiciau eu rhoi ar fenthyg am wythnos i ddechrau ond gall hyn gael ei adnewyddu am gyfnod o bythefnos ar ôl hynny.

Materion Diogelwch

Mae mynd i'r afael â'r perygl o ddwyn sy'n gysylltiedig â rhoi beiciau ar fenthyg am ddim wedi bod yn gryn her. Roedd trefnwyr y prosiect yn awyddus i ddatblygu system na fyddai'n galw am flaendal ariannol fel bod y beiciau mor hygyrch â phosibl. Mae'n rhaid felly i ddefnyddwyr y cynllun ddarparu dau fodd o adnabod a rhif cyswllt. Os caiff beic ei ddychwelyd yn hwyr mae'r benthyciwr yn derbyn galwad ffôn, sy'n cael ei dilyn gan lythyr sawl diwrnod wedyn. Mewn achosion lle na chaiff y beic ei ddychwelyd ar ôl hynny caiff y manylion cyswllt eu rhoi i'r heddlu.

Teithiau tywys

Mae'r prosiect hefyd yn anelu at weithio gyda grwpiau lleol ac mae'n cysylltu gyda chynlluniau atgyfeirio meddygon teulu. Mae posibilrwydd i ddarparu gweithgareddau strwythuredig ar gyfer y rhai hynny sy'n newydd neu sy'n dychwelyd at feicio, neu sydd â diddordeb mewn beicio fel rhan o grŵp cymdeithasol.

Hyfforddiant

Mae nifer o wirfoddolwyr wedi mynegi diddordeb mewn derbyn hyfforddiant cynnal a chadw beiciau ac arweinyddiaeth beicio. Gwelodd y prosiect hefyd ddiddordeb ymhlith trigolion mewn derbyn hyfforddiant beicio sylfaenol ac adeiladu hyder, yn enwedig ar gyfer beicio mewn traffig, ac mae trafodaethau yn digwydd gyda Hyfforddi Beicio Cymru.

Cynghorion defnyddiol o'r prosiect hwn


English

Splott Community Solutions operates in the Communities First areas of Splott and Tremorfa in Cardiff. The project used £14,500 of Sports Council funding to invest in 25 hybrid bikes (including 3 junior sizes).

The bikes are available for community members to hire on long term loan, free of charge. The aim is to enable local people to borrow a bike for use on a regular basis, to get to work, school, local amenities, or simply for leisure.

The bikes are stored in a shipping container at St Albans Sports Centre in Tremorfa. A member of staff from the centre oversees the scheme and is on hand to give out the bikes when needed. Bikes are loaned out initially for one-week, but this can be renewed on a two-week basis from then on.

Security issues

Overcoming the potential risk of theft involved in lending bikes for free has been a particular challenge. The project organisers were keen to develop a system that would not require a cash deposit to make the bikes as financially accessible as possible. Users of the scheme therefore must provide two forms of identification and a contact number. If a bike is returned late, the participant receives a phone call, followed by a letter after several days. In the case of a bike not being returned after that, the contact details would be passed to the police.

Guided rides

The project also aims to work with local groups, and is making contacts with GP referral schemes. There is scope to provide structured activities for those who are new or returning to cycling, or interested in cycling as part of a social group.

Training

Several volunteers have expressed an interest in receiving training in bike maintenance and ride leadership. The project has also identified an interest among residents in receiving basic cycling training and confidence building, especially for riding in traffic, and discussions are being held with Cycle Training Wales.

Useful tips from this project

Back to Top