Cwmaman: Beic y Pentref - The Village Bike
Nod Beic y Pentref yw gwneud beicio yn hygyrch i'r gymuned leol yng Nhwm Cynon, ger Aberdâr. Sicrhaodd y prosiect ariannu gan Gyngor Chwaraeon Cymru ar gyfer dau feic mynydd a dau feic ‘hybrid' (addas ar gyfer beicio ar draciau neu ar y ffordd), y bydd yn cynnal reidiau trefnedig yn ogystal â chyfleuster llogi i'r cyhoedd.
Lleolir Beic y Pentref yn Sefydliad Cwmaman, sy'n gartref i 40 o gymdeithasau cymunedol. Targedir y prosiect i ddechrau ar y rheini sy'n defnyddio'r cyfleusterau campfa a ffitrwydd ar y safle. Mae cydlynydd y prosiect, Lee Davies, yn feiciwr mynydd brwd a hefyd yn arweinydd teithiau beic cymwys.
"Mae'r rheini sydd eisoes yn defnyddio'r gampfa i wella eu ffitrwydd mewn sefyllfa dda i elwa o roi cynnig ar feicio. Mae rhai o'r merched sy'n selogion wedi rhoi cynnig ar y beiciau, ond maent yn aros tan fisoedd y gwanwyn a'r haf i wneud gwir ddefnydd o'r beiciau fel dewis arall i'r felin draed!''
Lee Davies
Lleoliad da ar gyfer beicio
Mae'r ganolfan mewn lleoliad da ar gyfer beicio, gyda llwybr di-draffig yn mynd i Aberdâr (tua 3 milltir) ac i Barc Gwledig Cwm Dâr, sydd ag amrywiaeth o deithiau cylchol gwastad. Mae Beic y Pentref hefyd yn trefnu reidiau beic mynydd ar gyfer grwpiau o bobl ifanc ar hyd y nifer o lwybrau fforest yn agos i'r dref.
Rhwystrau
Fe gymerodd lawer o amser i sefydlu'r prosiect ond roedd yn werth ei wneud. Mae angen cynnal a chadw'r beiciau, felly gall olygu cydbwyso blaenoriaethau ar gyfer rhywun sy'n cynnal prosiect beiciau fel rhan o'u cyfrifoldebau ehangach. Dyna pam fod cymaint o brosiectau'n dibynnu'n drwm ar wirfoddolwyr.
"Un o'r prif rwystrau yw gwneud yn siwr bod rhywun wrth law i ddosbarthu'r beiciau, a gall hyn fod yn broblem pan fo cymaint yn digwydd yn y gampfa, er enghraifft pan fyddaf yn brysur yn cynnal sesiwn yn y gampfa."
Lee Davies
Mae Beic y Pentref yn gobeithio ehangu yn ystod 2008, gyda hyrwyddiadau newydd wedi eu trefnu, ac adeiladu ar lwyddiannau blaenorol.
The Village Bike aims to make cycling accessible to the local community in the Cynon Valley, near Aberdare. The project obtained funding from the Sports Council for Wales for ten mountain bikes and two 'hybrids' (suitable for tracks or road cycling), and will run organised bike rides as well as a public hire facility.
The Village Bike is based at the Cwmaman Institute, which is the base for 40 community societies. The project will be targeted initially at those who use the onsite gym and fitness facilities. The project's coordinator, Lee Davies, is a keen mountain biker, as well as a qualified ride leader.
"People who are already using the gym to improve their fitness are in a good position to benefit from trying cycling. A few of the ladies who are regulars have tried the bikes out, but we are waiting for the spring and summer months to really promote the bikes as an alternative to the treadmill!''
Lee Davies
Good location for cycling
The centre is well situated for biking, with a traffic-free cycle path leading to Aberdare (around 3 miles) and into the Dare Valley Country Park, which has a variety of flat circular routes. The Village Bike also organises mountain bike rides for groups of young people on the many forest trails located close to the town.
Hurdles
Setting up the project was time-consuming but rewarding. The bikes need maintenance, so it can be a case of balancing priorities for someone who runs a bike project as part of their wider responsibilities. This is why many such projects rely heavily on volunteers.
"One of the main hurdles is making sure there is someone on hand to issue the bikes, which can be a problem when there is so much going on at the centre, for example when I am busy running sessions in the gym."
Lee Davies
The Village Bike project looks set to expand in 2008, with new promotions planned, and previous successes to build on.
