Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd - Ffeithiau a Ffigurau / Physical Activity and Health - Facts and Figures

| Cymraeg | English |
Diffiniad
Diffinnir gweithgarwch corfforol fel “unrhyw rym a roir gan gyhyr sgerbydol sy'n arwain at ddefnyddio mwy o ynni nag ar lefel gorffwys” ac mae'n cynnwys “ yr holl ystod o symudiad dynol, o chwaraeon cystadleuol ac ymarfer corff i hobïau egnïol, cerdded a beicio neu weithgareddau bywyd bob dydd”(1)
Targedau
Y Swm Dyddiol a Argymhellir (RDA) o weithgarwch corfforol ar gyfer oedolion yw 30 munud bum niwrnod yr wythnos neu fwy. Ar gyfer plant mae'n un awr. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gosod targed o 30 munud o weithgarwch corfforol cymedrol, bum gwaith yr wythnos, ar gyfer holl boblogaeth Cymru erbyn 2025. Mae hyn yn gynnydd o o leiaf un pwynt canran y flwyddyn yng ngweithgarwch corfforol oedolion yn gyffredinol (3).
Mae adroddiad gan Brif Swyddog Meddygol Lloegr yn nodi na ellir cyflawni targed o 30 munud o weithgarwch dwysedd cymedrol megis cerdded cyflym 5 niwrnod yr wythnos, heb helpu pobl i blethu gweithgarwch i mewn i'w bywydau bob dydd.. Mae ei adroddiad 2004 ar weithgaredd corfforol yn dweud, “i'r rhan fwyaf o bobl, y ffurfiau rhwyddaf a mwyaf derbyniol o weithgarwch corfforol yw'r rheini y gellir eu plethu i fywyd pob dydd. Mae enghreifftiau'n cynnwys cerdded neu feicio yn hytrach na gyrru.”(1)
Mae'r Prif Swyddog Meddygol hefyd yn nodi bod “manteision gweithgarwch corfforol i'w cael o weithgareddau y gellir eu plethu i fywyd pob dydd megis cerdded cyflym rheolaidd, defnyddio grisiau a beicio. Does dim rhaid i weithgarwch corfforol fod yn egnïol er mwyn rhoi amddiffyniad”(1).
Yn ôl Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon, Dringo'n Uwch, mae'r gweithgarwch corfforol hwn “yn gallu cael ei dorri i lawr yn ystod y dydd, oherwydd mae gweithgarwch corfforol cymedrol, hyd yn oed o'i gronni fesul cyfnod byr, yn gallu bod o les i'r iechyd.”(3)
Lefelau presennol
Mae lefelau gweithgarwch corfforol yng Nghymru gyda'r isaf yn y DU. Dim ond 30% o oedolion sy'n cwrdd â'r lefelau o weithgarwch a argymhellir – 38% o ddynion a 24% o fenywod. Ar ben hynny, mae'r cyfraddau hyn sy'n cymryd rhan yn gostwng wrth i bobl fynd yn hŷn (20)
Graddfa'r broblem segurdod corfforol
Segurdod corfforol sy'n gyfrifol am amcangyfrif o 3% o'r holl faich clefydau mewn gwledydd datblygedig (7).
Yng Nghymru, mae segurdod corfforol yn nhermau cynnyrch a gollwyd ac absenoldeb oherwydd afiechyd, yn ogystal â chostau uniongyrchol gofal iechyd ar gyfer afiechyd y gellid ei lwyr osgoi, yn dod yn £500 miliwn y flwyddyn o leiaf, sy'n cyfateb i tua £200 gan bob person yng Nghymru – bob blwyddyn(6).
“Yn geidwadol, gallai cynnydd o ddeg y cant mewn gweithgarwch corfforol law yn llaw â gwell deiet rwystro 300 o farwolaethau cyn pryd bob blwyddyn ac arbed mwy na £25 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gyda manteision economaidd ehangach o fwy na £100 miliwn y flwyddyn(22)
“Bydd cynyddu lefelau gweithgarwch yn cyfrannu tuag at rwystro a rheoli dros 20 o gyflyrau a chlefydau yn cynnwys clefyd coronaidd y galon, diabetes, canser, iechyd meddwl positif a rheoli pwysau.”(8)
Gall gweithgarwch corfforol cymedrol rheolaidd, yn cynnwys cerdded a seiclo, helpu i rwystro a lleihau'r perygl o:
Clefyd cardiofascwlaidd
Canser
Gordewdra
Diabetes
Strôc
Problemau Iechyd Meddwl
Pwysedd Gwaed Uchel
Iechyd Cyhyrsgerbydol – esgyrn brau (osteoporosis) ac osteoarthritis
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am i'r sector iechyd ganolbwyntio mwy o sylw ac adnoddau ar atal afiechyd yn hytrach na gwella afiechyd (23)
- Mae tua 39% o bobl yn marw o Glefyd Cardiofascwlaidd – y prif fathau yw Clefyd Coronaidd y Galon (hanner marwolaethau Clefyd Cardiofascwlaidd) a Strôc (tua chwarter)(9)
- Clefyd Coronaidd y Galon ei hun yw achos mwyaf cyffredin marwolaeth yn y DU. Mae un o bob pedwar dyn ac un o bob chwe menyw yn marw o'r clefyd.
- Yn y DU, bydd rhywun yn cael trawiad ar y galon bob dwy funud - 270,000 o bobl bob blwyddyn(10)
- Mae Clefyd Coronaidd y Galon (CHD) yn gyfrifol am dros 117,000 o farwolaethau'r flwyddyn yn y DU - mae un o bob pum dyn ac un o bob chwe menyw yn marw o'r clefyd (10)
- “Amcangyfrifir bod Clefyd Coronaidd y Galon yn costio £7,055 miliwn y flwyddyn i economi'r DU”(9)
- Mae tua 1.2 miliwn o bobl sy'n byw yn y DU wedi cael trawiad ar y galon (9)
- Mae tua 2.68 miliwn o bobl sy'n byw yn y DU wedi cael Clefyd Coronaidd y Galon (angina neu drawiad ar y galon)(9)
- Mae pobl ddisymud a'r rheini nad ydynt yn ffit mewn bron ddwywaith cymaint o berygl o farw o Glefyd Coronaidd y Galon o gymharu â phobl fwy gweithgar a ffit (1)
- Clefyd Cardiofascwlaidd yw un o'r prif achosion marwolaeth cyn pryd yn y DU, yn gyfrifol am 35% o farwolaethau cyn pryd mewn dynion, a 27% mewn menywod, ac yn gyfrifol am 67,000 o farwolaethau cyn pryd yn 2002(9)
- “Clefyd Cardiofascwlaidd, yn cynnwys clefyd y galon a strôc, a chanser yw prif achosion marwolaeth yn Lloegr, gyda'i gilydd maent yn cyfrif am bron 60% o farwolaethau cyn pryd”(8)
- “Mae pobl ddisymud a'r rheini nad ydynt yn ffit mewn bron ddwywaith cymaint o berygl o farw o glefyd coronaidd y galon”(8).
- "Mae pobl sy'n gorfforol weithgar yn tueddu i fod mewn llai o berygl o gael canser …po uchaf y lefel o weithgarwch corfforol neu ffitrwydd, isaf yn y byd yw'r perygl cyffredinol o ganser. Ymddengys mai gweithgarwch dwysedd cymedrol i weithgarwch dwys sydd fwyaf llesol. Mae amlder yn ffactor hefyd: mae gweithgarwch corfforol mwy aml wedi'i gysylltu â mwy o leihad o ran peryglon.”(1)
- Mae pobl ddisymud mewn 3.6% mwy o berygl o gael canser y colon (5)
- “gall gweithgarwch corfforol gael effaith anuniongyrchol trwy ei rôl yn atal gordewdra sydd, yn UDA, wedi'i amcangyfrif i fod yn gyfrifol am 10% o ganser o bob achos”(1)
- Canser a chlefyd cardiofascwlaidd sy'n gyfrifol am tua 60% o farwolaethau y gellid eu rhwystro(8)
- Yn Lloegr, mae gordewdra yn costio £1/2 biliwn y flwyddyn i'r GIG, a mwy na £2 filiwn y flwyddyn i'r economi ehangach (11)
- “Mae'n debygol, i lawer o bobl, bod angen 45-60 munud o weithgarwch corfforol dwysedd cymedrol y dydd er mwyn atal gordewdra”(8)
- Yng Nghymru, ymatebodd 37% o oedolion i Arolwg Iechyd Cymru gan ddweud eu bod yn rhy drwm, gyda 17% pellach yn cael eu cyfrif yn ordew (20)
- Mae cyfran fwy o ddynion nag o fenywod Cymru yn rhy drwm (ond nid yn ordew) (20)
- Mae gordewdra'n “dyblu'r perygl o farwolaeth o bob achos, clefyd coronaidd y galon, strôc a math 2 diabetes, ac yn cynyddu'r perygl o rai canserau, problemau cyhyrsgerbydol a cholli defnydd, ac y mae iddo ganlyniadau seicolegol negyddol”(1)
- “Ymddengys bod gweithgarwch corfforol y gellir ei blethu i fywyd pob dydd – megis cerdded a beicio– mor effeithiol ar gyfer colli pwysau â rhaglenni ymarfer corff dan oruchwyliaeth”(1)
- Mae nifer achosion gordewdra wedi cynyddu rhwng 1994 a 2003 o 13.8% hyd at 22.9% (dynion) ac o 17.3% hyd at 23.4% (menywod)(5)
- Nifer achosion gordewdra a phwyso gormod yn y DU yw'r wythfed uchaf yn y byd i ddynion (allan o 40 o wledydd) a'r unfed ar ddeg uchaf ar gyfer menywod (41 o wledydd)(9)
- Yn Lloegr gall costau gordewdra a bod yn rhy drwm gyrraedd £6.6–£7.4 biliwn y flwyddyn yn ôl amcangyfrifon diweddar(8)
- “ar gyfartaledd mae gordewdra'n gostwng disgwyliad oes gan naw mlynedd”(12)
- “Os na weithredwn ni, amcangyfrifir y bydd traean o ferched ac un rhan o bump o fechgyn yn ordew erbyn 2020. Dydy tri bachgen allan o ddeg a phedair merch allan o ddeg ddim yn cyflawni'r un awr y dydd a argymhellir o weithgarwch corfforol dwyster cymedrol o leiaf.”(12)
- Mae mwy na 50 y cant o oedolion yng Nghymru yn pwyso gormod ac mae 17 y cant yn ordew(21)
- Mae nifer achosion gordewdra wedi dyblu yng Nghymru mewn tua deng mlynedd(21)
Mae diabetes mellitus yn gyflwr lle mae'r maint y glwcos (siwgr) yn y gwaed yn rhy uchel oherwydd nad yw'r corff yn gallu ei ddefnyddio'n iawn. Mae dau fath o ddiabetes, Math 1 (yn ddibynnol ar insiwlin) sy'n cyfrif am 5% i 10% o'r diagnosisau a Math 2 (heb fod yn ddibynnol ar insiwlin) sy'n llawer mwy cyffredin ac yn cyfrif am 90% i 95% o achosion. Mae cyswllt agos rhwng Math 2 a gordewdra.
- “Mae gan bobl â diabetes siawns uwch o ddatblygu rhai problemau iechyd difrifol arbennig, yn cynnwys clefyd y galon, strôc, pwysedd gwaed uchel, problemau cylchrediad y gwaed, niwed i'r nerfau, a niwed i'r arennau a'r llygaid. Mae'r perygl yn arbennig o uchel i bobl â diabetes sydd hefyd yn rhy drwm, sy'n smygu neu'n ddisymud.” Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn helpu i leihau'r perygl o ddatblygu unrhyw un o'r cymhlethdodau hyn (13)
- “Mae 33-50% llai o berygl i bobl sy'n gorfforol weithgar ddatblygu diabetes Math 2 o gymharu â phobl ddisymud”(1)
- Nododd 5% o oedolion yng Nghymru eu bod yn cael eu trin ar gyfer diabetes(20)
- Mae nifer yr achosion o ddiabetes a ganfuwyd wedi cynyddu ers 1991, 65% ar gyfer dynion a 25% ar gyfer menywod(9)
- “Mae diabetes Math 2 chwe gwaith yn fwy cyffredin mewn pobl o dras De Asiaidd a hyd at dair gwaith yn fwy cyffredin yn y rheini o dras Affricanaidd - Caribïaidd ”(12).
Strôc yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio effeithiau ymyrryd â'r cyflenwad gwaed i ran leoledig o'r ymennydd. Os bydd rhan o'r ymennydd yn cael ei amddifadu o waed, bydd celloedd yr ymennydd yn cael niwed neu'n marw. Mae hyn yn achosi nifer o wahanol effeithiau, yn dibynnu ar ba ran o'r ymennydd sydd wedi'i effeithio a maint y niwed i feinwe'r ymennydd.
- “Mae'r rhan fwyaf o astudiaethau'n nodi bod llai o'r rheini sy'n gwneud gweithgarwch rheolaidd i ysgafn i gymedrol yn dioddef strôc o gymharu â'r rheini sy'n ddisymud, ac mae rhai data'n awgrymu nad yw gweithgarwch egnïol yn rhoi unrhyw fudd ychwanegol”(1)
- Mae tua 100,000 o bobl y flwyddyn yn Lloegr a Chymru yn cael eu strôc gyntaf - un bob pum munud(14)
- Mae naw allan o 10 strôc yn effeithio ar bobl dros 55 oed(14)
- Mae 10,000 strôc y flwyddyn yn digwydd mewn pobl dan 55 oed(14)
- Mae rhyw 300,000 o bobl yn byw gydag anableddau a achoswyd gan strôc(14)
Mae ffeithiau a ffigurau pellach ar gael oddi wrth Y Gymdeithas Strôc(15)
Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn gwella'ch hwyliau, yn helpu i leddfu iselder, ac yn cynyddu teimladau o les. Darganfu arolwg a gynhaliwyd gan yr elusen Mind bod 83% o bobl â phroblemau iechyd meddwl yn dibynnu ar weithgarwch corfforol i helpu i godi eu hwyliau.
- “Bydd 1 person allan o bob 4 yn profi rhyw fath o broblem iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn”(16)
- “Bydd un o bob pedwar ohonom yn profi problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywyd. Bob blwyddyn mae mwy na 250,000 o bobl yn cael eu derbyn i ysbytai seiciatryddol”(17)
- “Mae gweithgarwch corfforol yn effeithiol wrth drin iselder clinigol ac yn gallu bod mor llwyddiannus â seicotherapi neu foddion, yn arbennig yn y tymor hir ”(1)
- “Gellir ystyried gweithgarwch corfforol o ran ei effeithiau therapiwtig ar iechyd meddwl, a hefyd o ran ei effaith ar iechyd meddwl yn y boblogaeth gyffredinol”(1)
- Mae gweithgarwch corfforol yn gallu helpu i leihau ymatebion ffisiolegol i straen, i wella cwsg, lleihau pryder(1)
- Ymddengys mai mathau rhythmig aerobig o ymarfer corff – yn cynnwys cerdded sionc a beicio, sydd fwyaf cyson effeithio(1)
- “Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn lleihau'r perygl o iselder ac mae iddo fanteision positif ar gyfer iechyd meddwl yn cynnwys lleihau pryder, a gwella hwyliau a hunan-barch”(8).
Pwysedd gwaed yw pwysedd y gwaed yn ein rhydwelïau. Po uchaf yw eich pwysedd gwaed mwya'n y byd yw'r perygl i chi ddatblygu rhydwelïau wedi culhau a all arwain i broblemau gyda'r galon a strôc. Mae ymarfer corff yn help i ostwng pwysedd gwaed.
- Mae tua 10 miliwn o bobl â phwysedd gwaed uchel yn y DU – tuag un person allan o bump(18)
- Mae o leiaf hanner y bobl sydd dros 75 oed â phwysedd gwaed uchel(19)
- Mae cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn helpu i ostwng pwysedd gwaed(19)
- “Gellir rhwystro a thrin pwysedd gwaed uchel (hypertension) gyda gweithgarwch corfforol”(1)
- “Gwelir gostyngiad ym mhwysedd gwaed y rhai sy'n rhy drwm a'r rhai sydd o bwysau normal”(1)
- Y canran o'r holl oedolion y nodwyd eu bod yn derbyn triniaeth ar gyfer pwysedd gwaed uchel oedd 18%. Mae hynny'n 16% o wrywod ac 20% o fenywod a'r cyfradd mwyaf ohonynt dros 65 oed (20).
Iechyd cyhyrsgerbydol – esgyrn brau (osteoporosis) ac osteoarthritis
Colli meinweoedd esgyrnog, gyda'r canlyniad bod yr esgyrn yn wan ac yn frau ac yn debygol o dorri. Mae hyn yn fwyaf cyffredin mewn hen bobl, yn arbennig menywod, ond gall hefyd fod o ganlyniad i anaf, haint neu therapi steroid hirdymor.
- “Mae gweithgarwch corfforol yn gallu cynyddu dwysedd yr esgyrn yn y glasoed, ei gynnal mewn oedolion ifanc, ac arafu ei ddirywiad yn yr henoed”(1)
- Mae gweithgarwch corfforol yn gallu rhwystro hyd at 25% o gwympiadau trwy reoli cynhyrchiad a chylchrediad hormonau, gan wella cydbwysedd a datblygu nerth cyhyrau(1)
- Gellir cysylltu gweithgarwch corfforol dyddiol cymedrol, yn arbennig cerdded, â llai o berygl o gael osteoarthritis yn nes ymlaen, yn arbennig mewn menywod(1)
- Mae cynyddu lefelau gweithgarwch yn cael effeithiau llesol ar iechyd cyhyrsgerbydol, gan ostwng y perygl o esgyrn brau, poen cefn ac osteoarthritis(8).
Cyfeiriadau
1. Department of Health (2004) At least five a week - evidence on the impact of physical activity and its relationship to health - a report from the Chief Medical Officer
2. Strategy Unit (2002) Game Plan: a strategy for delivering Government's sport and physical activity objectives
3. Dringo'n Uwch, Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Ionawr 2003
4. Physical Activity Task Force (2003) Let's Make Scotland More Active - A Strategy for Physical Activity, Scottish Executive
5. National Centre for Social Research et al (2004) Health Survey for England 2003
6. Llywodraeth Cynulliad Cymru (2005) Dringo'n Uwch – Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
7. World Health Organisation (2002) The World Health Report 2002 – Reducing Risks, Promoting Healthy Life
8. Department of Health (2005) Choosing Activity: a physical activity action plan
9. British Heart Foundation (2004) 2004 Coronary Heart Disease Statistics
10. British Heart Foundation (2004) Coronary Heart Disease Statistics: Factsheet
11. National Audit Office (2001) Tackling Obesity in England
12.Department of Health (2005) Delivering Choosing Health: making healthier choices easier
13. http://www.diabetes.org.uk/diabetes/reduce.htm
14. http://www.webhealth.co.uk/a_to_z_of_health/stroke.asp
15. http://www.stroke.org.uk/media_centre/facts_and_figures/index.html
16. http://www.mentalhealth.org.uk/page.cfm?pagecode=PMMHST
17. http://www.mind.org.uk/About+Mind/
18. http://www.netdoctor.co.uk/diseases/facts/hypertension.htm
19. http://www.bpassoc.org.uk/information/what_is/what_is.htm
20. Arolwg Iechyd Cymru: Hydref 2003–Mawrth 2004 (canlyniadau dros dro); 18 Tachwedd 2004; Cyfarwyddiaeth Ystadegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21. Kingdom A, Roberts C and Tudor-Smith C. (1998) Lifestyle changes in Wales: results for Health in Wales Survey 1985-96. Adroddiad Technegol 27 Hybu Iechyd Cymru. Caerdydd: Hybu Iechyd Cymru
22. Dringo'n Uwch: Strategaeth Ymgynghori Chwaraeon a Hamdden Egnïol yng Nghymru Gorffennaf 2003 Llywodraeth Cynulliad Cymru
23. Dringo'n Uwch, Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Ionawr 2005