Home » Sustrans near you » Wales

Wales

Go to online mapping

Sustrans Cymru is working with communities, schools, workplaces and policy makers to promote walking, cycling and public transport as realistic alternatives to the car for everyday journeys. 

We are running the UK’s largest programme of personalised travel planning, providing individually tailored travel information to 100,000 households, enabling people to make smarter travel choices. We are working with over 100 schools across the country to encourage children to travel actively - to create a generation of free range kids. We are supporting employers to develop travel plans so that employees can make achievable, life-long changes to their commuting habits, ensuring that walking and cycling become real ways of getting Wales moving.

We work closely with communities, the Welsh Government and Local Authorities to ensure that the people of Wales have access to a network of safe routes, making Wales not only a sustainable and beautiful tourist destination, but also a healthy, happy place to live, work and play.

There are over 1,200 miles of the National Cycle Network in Wales, and we are currently developing a further 100 miles of mainly traffic free routes in the south Wales Valleys. Last year 29 million walking and cycling trips were made on the Network in Wales. 

As well as working with our partners to build routes, we work hard to make them attractive environments. We commission artists to create public artworks, making new routes memorable and meaningful to their natural surroundings. We support our ever growing team of volunteers to help keep the routes in good shape both for people to enjoy and for wildlife to thrive.

In all that we do we strive to capture evidence of the impact of our projects, and we use that work to influence policy and practice. We have been instrumental in persuading the Welsh Government to introduce a new law to secure the development of a network of walking and cycling routes – making Wales the first country in the world to do so.


Mae Sustrans Cymru yn gweithio gyda chymunedau, ysgolion, gweithleoedd a gwneuthurwyr polisi i hyrwyddo cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, fel dewisiadau realistig i'r car ar gyfer siwrneiau bob dydd.

Rydym yn cynnal rhaglen cynllunio teithio personol fwyaf y DU sy'n darparu gwybodaeth wedi ei theilwra'n bersonol i 100,000 o gartrefi, gan alluogi pobl i wneud dewisiadau teithio craffach. Rydym yn gweithio gyda rhagor na 100 o ysgolion ledled y wlad i annog plant i deithio'n egnïol - er mwyn creu cenhedlaeth o blant awyr iach. Rydym yn cefnogi cyflogwyr i ddatblygu cynlluniau teithio fel y gall gweithwyr wneud newidiadau cyraeddadwy, gydol oes i'w harferion cymudo, gan sicrhau y gall cerdded a beicio ddod yn ddulliau real o gael Cymru i symud.

Rydym yn gweithio'n agos â chymunedau, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol i sicrhau bod gan bobl Cymru fynediad at rwydwaith o deithiau diogel, gan wneud Cymru nid dim ond yn gyrchfan ymwelwyr cynaliadwy a hardd, ond hefyd yn lle iach a hapus i fyw, gweithio a chwarae.

Mae dros 1,200 milltir o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru, ac rydym ar hyn o bryd yn datblygu 100 milltir arall o lwybrau di-draffig yng Nghymoedd De Cymru. Llynedd gwnaed 29 miliwn o deithiau cerdded a beicio ar y Rhwydwaith yng Nghymru.

Yn ogystal â gweithio gyda'n partneriaid i adeiladu llwybrau, gweithiwn yn galed i'w gwneud yn amgylchoedd deniadol. Rydym yn comisiynu artistiaid i greu gweithiau celf cyhoeddus, gan wneud llwybrau newydd yn gofiadwy ac ystyrlon yn eu hamgylchoedd naturiol. Cefnogwn ein tîm o wirfoddolwyr sy'n tyfu'n gyson i gadw llwybrau mewn cyflwr da fel y gall pobl eu mwynhau ac er mwyn i fywyd gwyllt ffynnu.

Ym mhopeth a wnawn ymdrechwn i gadw tystiolaeth o effaith ein prosiectau, a defnyddiwn y gwaith hwnnw i ddylanwadu ar bolisi ac arfer. Buom yn allweddol mewn perswadio Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddf newydd i sicrhau datblygiad rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio - gan wneud Cymru y wlad gyntaf yn y byd i wneud hynny.

Back to Top