Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 23rd MAY 2023

Heol cythryblus-ei-draffig ym Mhenarth yn gweld lansiad Stryd Ysgol newydd

Mae gan Heol Dryden ym Mhenarth hanes o broblemau traffig yn ystod cyfnod hebrwng plant i’r ysgol ac oddi yno, yn effeithio trigolion a diogelwch plant, rhieni, a gwarchodwyr Ysgol Gynradd Fairfield. Cafodd prosiect Stryd Ysgol newydd ei lansio’n ddiweddar ar ôl cydweithrediad rhwng Sustrans Cymru, Cyngor Bro Morgannwg, Ysgol Gynradd Fairfield, a hapddalwyr lleol.

A road outside Fairfield Primary School, with traffic calming measures and a rain garden incorporated into the new physical layout.

Y gwaith cydlunio wedi' gwblhau tu fas i Ysgol Gynradd Fairfield, Penarth. Llun gan: Sustrans.

Cafodd prosiect ‘Stryd Ysgol’ newydd ei lansio’n ddiweddar yn Ysgol Gynradd Fairfield ym Mhenarth, i helpu efo problemau traffig hirsefydlog.

Mae rhieni, gwarchodwyr, a disgyblion wedi dweud sut maent yn teimlo’n fwy diogel a sut maent yn mwynhau’r gwelliannau i’r stryd.

Ystyr ‘Strydoedd Ysgolion’ yw bod y stryd tu fas i ysgol yn cael ei gau yn ystod amserau hebrwng plant i’r ysgol ac oddi yno, tra bod trigolion a phobl sy’n teithio’n llesol yn dal gallu cael mynediad.

Dyma ganlyniad proses cydlunio sydd wedi cynnwys mewnbwn trigolion, cymuned yr ysgol, perchnogion busnes lleol, a Chyngor Bro Morgannwg.

Amcan y gwaith yma oedd gweithio efo’r gymuned leol ac i’w cynnwys nhw mewn proses cynllunio bydd yn wneud strydoedd yn fwy diogel ac annog diwylliant o deithio’n llesol i’r ysgol.

 

Deall yr angen am newid yn y gymuned

Dechreuodd Prosiect Cynllunio Stryd Fairfield ym Mhenarth yn hydref 2020 a gorffennodd yn ddiweddar efo lansiad Stryd Ysgol gyntaf yr ardal.

Roedd problemau ag achosiwyd gan dagfeydd yn ystod amseroedd hebrwng plant i’r ysgol ac oddi yno wedi achosi amgylchedd oedd yn broblematig ac anniogel i gymuned yr ysgol a thrigolion.

Un o’r prif amcanion gan y Cyngor wrth iddynt gomisiynu Sustrans Cymru i helpu oedd bod pobl leol yn gyfrannog o’r broses.

I wir ddeall y problemau a’r hyn roedd pobl eisiau gweld fel datrysiad, cafodd cyfres o sesiynau ymgysylltu cyhoeddus a gweithdai eu cynnal.

Cymerodd disgyblion Ysgol Gynradd Fairfield rhan hefyd, gan gyflawni archwiliad stryd i asesu’r rhwystrau mwyaf i gerdded, olwyno, a seiclo i’r ysgol yn yr ardal.

Gweithiodd cymuned yr ysgol, pobl lleol, a Chyngor Bro Morgannwg i gyd efo'u gilydd ar y prosiect. Llun gan: Sustrans.

Blockquote quotation marks
Mae nawr gennym amgylchedd sy’n lot fwy diogel ac iach ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol. Blockquote quotation marks
Sian Lewis, Pennaeth

"Rydym yn gyffröedig gan weithrediad Stryd Ysgol Fairfield," dwedodd Sian Lewis, Pennaeth Ysgol Gynradd Fairfield.

"Mae nawr gennym amgylchedd sy'n lot fwy diogel ac iach ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol, efo'r trefn newydd a'r gardd law yn wella'r ardal lleol yn sylweddol."

"Mae wedi bod yn gwerthfawr i weithio efo'r cymuned, Sustrans, a'r Awdurdod Leol i sicrhau cwblhad y prosiect yma."

 

Mewnbwn cymunedol yn arwain at ganfod datrysiadau

Cafodd tair ffordd leol eu cydnabod fel mannau cythryblus cyffredin, efo Heol Dryden yn cael ei nodi’n bennaf.

Canfu lefelau uchel o draffig o gwmpas amserau mwyaf prysur yr ysgol, parcio a gyrru peryglus, a theimlad cyffredinol o ddiffyg diogelwch ar gyfer pobl oedd yn teithio i’r ysgol gan gerdded, olwyno, a seiclo fel y problemau mwyaf.

Daeth tri gwelliant awgrymedig o’r holl adborth a derbyniwyd o ddisgyblion, trigolion, gofalwyr, a hapddalwyr.

Gwelliannau i osodiad ffordd Heol Dryden – cynhwysodd hyn creadigaeth gardd law, yn gweithio fel system draeniad naturiol yn ogystal ag ymddwyn fel rhwystr rhwng ceir a cherddwyr.

Cyflwyniad system traffig un-ffordd parhaol, a daeth mewn i rym ym Mai 2023, yn gwella llif cerbydau.

Lansiwyd Stryd Ysgol ar ddechrau mis Mai, yn golygu bod pobl sy’n teithio i’r ysgol yn cael ei annog a’i alluogi i deithio’n llesol.

Mae Strydoedd Ysgolion eisoes wedi’ gyflwyno’n llwyddiannus ar draws y DU dros y blynyddoedd diwethaf, efo effeithiau positif ar ansawdd aer a diogelwch ar ffyrdd.

Blockquote quotation marks
Bydd y gymuned leol yn elwa o ansawdd aer gwell, mwy o deithiau llesol, a phrofiad gwell i drigolion yr ardal – beth sy’ ddim i garu? Blockquote quotation marks
Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru

Newid angenrheidiol yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol

Mae gan Heol Dryden a’r ardal gyfagos hanes hirsefydlog o broblemau efo traffig a thagfeydd, yn effeithio ar drigolion a chymuned yr ysgol mewn modd negyddol.

Roedd angen i’r datrysiad bod rhywbeth hir-dymor a chynaliadwy, bydd yn elwa’r holl gymuned a dangos gwerth Strydoedd Ysgolion.

Rhai o amcanion y prosiect yw i gynyddu cyfranogaeth teithiau llesol gan 25% o fewn blwyddyn i’r brosiect bennu, i leihau’r nifer o geir ar Heol Dryden gan 30% o fewn yr un amser, i leihau allyriadau CO2, ac i greu diwylliant o deithio’n llesol ymhlith cymuned yr ysgol.

“Rydym wir yn falch i fod yn rhan o’r prosiect yma, ac i weld sut mae pobl leol wedi ymrwymo at wneud eu cymuned yn rhywle mwy diogel ac iachach i fyw,” dywedodd Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru.

“Gan arloesi prosiect Stryd Ysgol, bydd Ysgol Gynradd Fairfield a’r gymuned leol yn elwa o ansawdd aer gwell, mwy o deithiau llesol, a phrofiad gwell i drigolion yr ardal – beth sy’ ddim i garu?”

  

Dysgwch fwy am raglen ysgolion Sustrans Cymru, Teithiau Iach.

  

Cefnogwch waith Sustrans i wneud ein cymunedau'n llefydd mwy diogel, hapusach, ac iachach i fyw.

Share this page

Darllenwch am y newyddion diweddaraf o Gymru