Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi bod yn eiriol dros drafnidiaeth gyhoeddus a cerdded,olwynio a beicio oherwydd y manteision amgylcheddol ac iechyd. Yn ddiweddar, trefnwyd dau ddigwyddiad ganddynt ledled Cymru i annog disgyblion i rannu eu profiadau a’u barn ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. Ymunodd cydweithwyr Sustrans o bob rhan o Ogledd a De Cymru â’r digwyddiadau i gynnal gweithdy ac annog pobl ifanc ac athrawon i wneud addewid teithio cynaliadwy.
Hayley Keohane o Sustrans Cymru yn gofyn i ddisgyblion ac athrawon ym Mhontypridd i wneud addewid teithio cynaliadwy.
Mae Pwyllgor Hinsawdd ac Amgylchedd Senedd Ieuenctid Cymru yn ystyried teithio cynaliadwy fel blaenoriaeth, ac maent am i bobl ifanc ledled Cymru rannu eu profiadau a’u barn.
Mae’r Arolwg #FfyrddGwyrdd yn grymuso plant a phobl ifanc o dan 25 oed sy’n byw yng Nghymru i ddweud eu dweud ar deithio cynaliadwy.
Mae hyn yn cynnwys sut maent yn teithio i'w man dysgu, pa rwystrau allai eu hatal rhag teithio'n gynaliadwy, a pha mor hygyrch yw gwasanaethau.
Casglu safbwyntiau pobl ifanc ledled Cymru
Gwahoddodd Senedd Ieuenctid Cymru Sustrans i ymuno â nhw ar gyfer y ddau ddigwyddiad trafnidiaeth cyffrous yng Ngogledd a De Cymru.
Dechreuodd yr wythnos gyda'r digwyddiad cyntaf ym Mlaenau Ffestiniog a gorffennodd gyda'r ail ddigwyddiad ym Mhontypridd.
Roedd y digwyddiadau’n cynnwys:
- Cyflwyniadau croeso gan Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru
- Siaradwyr gwadd o Trafnidiaeth Cymru
- Grwpiau ffocws yn holi disgyblion am eu harferion teithio
- Gweithdai gyda Sustrans
- Gweithgareddau mapio trafnidiaeth gynaliadwy
- Stondinau gwybodaeth gyda phartneriaid
- Cyfle i gwblhau'r Arolwg #FfyrddGwyrdd
- Areithiau disgyblion ar rwystrau trafnidiaeth
Mynegodd areithiau gan ddisgyblion o Ysgol Llanhari ac Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn y digwyddiad yn Ne Cymru eu pryderon am gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ac yn benodol mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg
Hannah Meulman ac Anna Lloyd o Sustrans Cymru yn ymgysylltu â disgyblion ym Mlaenau Ffestiniog.
Soniodd Hannah Meulman, Swyddog Teithiau Iach Gogledd Ddwyrain Cymru, am bwysigrwydd llais pobl ifanc sy’n byw mewn cymunedau gwledig.
“Dyma pam ei bod mor bwysig clywed lleisiau’r bobl ifanc o’r cymunedau hyn ar eu syniadau ar gyfer teithio cynaliadwy yn y dyfodol.”
Bu disgyblion o ddeg ysgol uwchradd o bob rhan o gymoedd De Cymru hefyd yn cymryd rhan mewn ymweliad â phencadlys Trafnidiaeth Cymru.
Mae Sustrans yn credu bod ymgysylltu â disgyblion a phobl ifanc o bob rhan o Gymru am deithio llesol yn golygu y gallant ddatblygu’n unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Disgyblion yn dangos ymrwymiad gydag addewidion teithio cynaliadwy
Addewidion teithio cynaliadwy gan ddisgyblion ac athrawon ym Mhontypridd.
Fel rhan o weithdai Sustrans, gofynnwyd i ddisgyblion ac athrawon wneud addewid trafnidiaeth gynaliadwy fel unigolyn ac fel ysgol.
Crëwyd llawer o addewidion gan ddisgyblion ledled Cymru tuag at ddefnyddio dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
Roedd addewidion unigol yn amrywio o rannu lifft i ymarfer pêl-droed, cerdded y deg munud olaf i'r ysgol, dal y bws i'r dref, a beicio mwy ym myd natur.
Addawodd ysgolion ar draws y digwyddiadau hyrwyddo ac annog teithio llesol i'r ysgol, cynyddu'r storfa feiciau, a threfnu gweithgareddau fel clwb cerdded.
Cynnwys pawb yn y sgwrs am deithio llesol
Mynychwyd y digwyddiad gan ysgolion anghenion dysgu ychwanegol, megis Ysgol y Deri ym Mhenarth.
Mae cynnwys disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn trafodaethau am gludiant cyhoeddus a mynediad teithio llesol a’r rhwystrau yn hollbwysig, ac yn rhan allweddol o’r gwaith y mae Sustrans yn ei wneud.
Mae’n hybu cynhwysiant ac yn sicrhau bod lleisiau a safbwyntiau pob unigolyn yn cael eu clywed a’u hystyried.
Trwy gynnwys y disgyblion hyn, gallwn gael mewnwelediad gwerthfawr i'w profiadau, heriau ac anghenion unigryw o ran cael mynediad at opsiynau trafnidiaeth.
Gall eu mewnbwn daflu goleuni ar rwystrau corfforol, synhwyraidd, gwybyddol neu gyfathrebu a allai fod yn rhwystr i drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol.
Drwy gydnabod a mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn, gallwn weithio tuag at greu system drafnidiaeth gynaliadwy fwy cynhwysol a hygyrch i bawb.
Mae cynnwys pob disgybl mewn trafodaethau yn meithrin ymdeimlad o rymuso a pherchnogaeth.
Mae’n caniatáu i genhedlaeth y dyfodol gyfrannu’n weithredol at brosesau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu bywydau a’u lles.
Gwaith Sustrans Cymru gydag ysgolion
Y tîm Teithiau Llesol yn barod i ymgysylltu â phobl ifanc ynghylch teithio llesol i’r ysgol.
Mae Sustrans wastad yn edrych ymlaen at ymgysylltu a gweithio gydag ystod eang o ysgolion ledled Cymru, gan ymgysylltu ac annog teithiau llesol i’r ysgol.
Yng Nghymru, mae Sustrans yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru drwy’r Rhaglen Teithiau Iach a ariennir gan Lywodraeth Cymru a gyda’n prosiect Cynllun Teithio Llesol Ysgolion.
Mae ein Rhaglen Teithiau Iach yn ei gwneud hi’n haws i blant gerdded, olwynio, sgwtera a beicio.
Yn seiliedig ar ddata a gasglwyd drwy arolygon teithio, gallwn weld yr effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen Teithiau Iach yn ei chael ar lefelau teithio llesol ar y daith i’r ysgol.
Mae data o 2021-22 yn dangos ar gyfer ysgolion ar y rhaglen:
- bod teithio llesol wedi cynyddu 24.6%
- bod defnydd ceir wedi gostwng 29.9%