Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 11th SEPTEMBER 2019

Mae Treial Stryd Sustrans wedi trawsnewid stryd ysgol yng Nghasnewydd

Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd i gynnal treial stryd yn Ysgol Gynradd St David’s R. C.

Mae Treial Stryd yn broses a arweinir gan y gymuned sy'n gweithio'n agos gyda disgyblion, staff, rhieni a thrigolion lleol i ddatblygu syniadau ar gyfer gwella diogelwch ar y ffyrdd o amgylch yr ysgol. Mae hefyd yn darparu atebion i'w gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Treialodd y digwyddiad rai atebion i'r problemau mwyaf a nodwyd trwy weithdai gyda'r gymuned.

Dywedodd Patrick Williams, Rheolwr Dylunio Cydweithredol Sustrans Cymru:

“Mae'r digwyddiad treial stryd yma yn ymwneud â gwella diogelwch plant o amgylch yr ysgol a'i gwneud yn amgylchedd iachach, glanach a mwy egnïol.

"Un o'r prif broblemau a nodwyd gan y gymuned yw tagfeydd; yn aml mae dros 100 o geir yn teithio o flaen yr ysgol ar amseroedd codi a gollwng.

"Mae parcio ar y palmant hefyd yn broblem fawr ac yn aml mae'n arwain at rieni a phlant yn gorfod cerdded ar y ffordd. Mae cynllun gwael y ffordd hefyd yn golygu nad oes unrhyw bwyntiau croesi o amgylch yr ysgol.”

Yn ystod y treial stryd, gweithredwyd syniadau’r gymuned i frwydro yn erbyn y materion hyn. Roedd hyn yn cynnwys creu dwy ardal a fyddai’n cynyddu arwyneb palmant o amgylch yr ysgol a chreu croesfan newydd dros dro y tu allan i’r ysgol.

Crëwyd yr ardaloedd hyn trwy ddefnyddio rhwystrau dros dro, potiau blodau a phaent sialc i ddangos sut y gallai'r ardal edrych pe bai nifer y ceri yn cael ei leihau'n sylweddol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox:

“Rydym yn croesawu’r prosiect hwn i helpu i leihau tagfeydd y tu allan i Ysgol Gynradd St David’s RC trwy greu a gwella llwybrau cerdded a beicio i’r ysgol a chyflwyno man gollwng ym Mharc Tredegar fel y gall rhieni adael eu ceir a cherdded eu plant i’r ysgol.

“Mae'n wych bod y disgyblion, rhieni, staff a thrigolion lleol wedi chwarae eu rhan wrth helpu i ddod o hyd i atebion ac ar yr un pryd helpu i hyrwyddo ein strategaeth Teithio Gweithredol.”

Dywedodd Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a fynychodd y digwyddiad:

“Mae'r her o gael rhieni i ymddwyn yn wahanol o amgylch ysgolion yn dod lawr i arfer. Y broblem gyda'r mwyafrif o gynlluniau gan gynghorau yw nad ydyn nhw'n cynnwys siarad â thrigolion a rhieni yn y broses i ddeall yr hyn y bydd yn ei gymryd i gael pobl i feddwl a gweithredu'n wahanol.

Blockquote quotation marks
Y peth gwych am y digwyddiad hwn yw ei fod yn rhyngweithiol ac yn hyblyg. Rydyn ni'n gwybod mai un o'r prif rwystrau i gael pobl i deithio'n wahanol yw eu canfyddiad o ardal, p'un a yw'n ddiogel ai peidio ac a yw'n braf i gerdded a beicio. Mae ffocws y prosiect hwn yn ymwneud â newid canfyddiad pobl o sut mae'r ardal yn gweithio a sut rydyn ni'n uniaethu ag ef. Blockquote quotation marks
Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

"Mae defnyddio'r potiau blodau, newid y llinellau gweld i'w gwneud hi'n anoddach gyrru'n gyflym a'i gwneud hi'n fwy dymunol i gerdded a beicio yn hanfodol i newid y ddeinameg feddyliol honno.

"Hoffwn weld sut y gallwn gynnwys y math hwn o ymgysylltu gyda phob prosiect, mae hwn yn ymyrraeth ddiddorol a chyffrous iawn i geisio sicrhau llwyddiant yr agenda.”

 

Rhagor o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru

Share this page