Mae cerdded, olwyno, a seiclo’n gweithgareddau a dylai bod yn hygyrch i bawb. Gwyddom gall teithio’n llesol cael effeithiau wirioneddol bositif ar iechyd a lles pobl. Yn y blog yma, rhestrwn 11 o fudiadau a grwpiau ar led Cymru sy’n gwneud hyn yn bosib.
Does dim ots ble yng Nghymru rydych chi’n byw, mae ‘na grwpiau cerdded, olwyno, a seiclo hygyrch a chynhwysol yn agos. Llun gan: Anthony Pease\Sustrans
Credwn dylai cerdded, olwyno, a seiclo – yn aml yn cael ei gyfeirio at gan Sustrans fel teithio llesol – bod yn hygyrch ac yn hawdd i’w wneud ar gyfer pawb.
Gwyddom fod rhai pobl yn perthyn i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd teithio llesol.
Yma, dymunon gyflwyno 11 mudiadau a grwpiau gwahanol o wahanol rannau o Gymru sy’n cefnogi pobl gan gynnig gweithgareddau neu wasanaethau cerdded, olwyno, a seiclo hygyrch a chynhwysol.
SpokesPerson, Caerdydd
Cwmni buddiannau cymunedol wedi’ leoli yn ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd yw SpokesPerson, a sefydlwyd i wneud seiclo’n fwy hygyrch i bobl ar y cyrion.
Maent yn cynnal amrediad o weithgareddau, yn cynnwys trwsiadau a gwasanaethu beiciau, yn ogystal â dosbarthiadau a theithiau tywys yn benodol ar gyfer cymunedau ar y cyrion yng Nghaerdydd.
Wheel Together, Aberystwyth
Wheel Together yw grŵp seiclo cynhwysol yn Aberystwyth sy’n cynnig teithiau ar gyfer grwpiau bach.
Mae ganddynt nifer o feiciau addasedig ar gael i bobl sydd eisiau mynd allan ac archwilio’u hardal leol.
Grŵp Wheel Together allan ar un o’i deithiau tywys yng Ngheredigion. Llun gan: Wheel Together
Cyngor Sir Ddinbych a PKS Watersports, Y Rhyl
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi partneru ag adwerthwr chwaraeon lleol, PKS Watersports, i gynnig cadair olwyn sy’n galluogi pobl â thrafferthion symudedd i deithio ar hyd traethau’r Rhyl.
Gall pobl archebu’r gadair olwyn ar gyfer y traeth trwy Swyddfa Harbwr Y Rhyl yn ogystal ag yn uniongyrchol trwy PKS Watersports.
Conwy Freewheelers Adapted Cycling Club, Bae Colwyn
Wedi’ sefydlu yn 2017, mae Conwy Freewheelers Cycling Club yn grŵp seiclo wedi’ leoli ym Mae Colwyn sy’n cynnig teithiau grŵp ar gyfer pobl ag anableddau.
Efo amrediad o feiciau addasedig a threiciau ar gael, mae’r grŵp yn cynnal sesiynau wedi’u harwain gan wirfoddolwyr ar y trac ym Mharc Eirias sy’n rhoi’r cyfle i bobl profi seiclo mewn amgylchedd diogel.
Pŵer Seiclo, Dolgellau
Mae Clwb Beicio Addasol Pŵer Seiclo yn grŵp wedi’ drefnu gan y gymuned sy’n cynnig teithiau ar gyfer seiclwyr o bob gallu yng Ngwynedd.
Mae Pŵer Seiclo’n cynnig teithiau grŵp aml yn Nolgellau yn ogystal â Phlas Menai yng Nghaernarfon, yn sicrhau bod gan bobl ar draws Gwynedd y cyfle i gael mynediad at y cyfle yma.
Mae Pŵer Seiclo yn Nolgellau’n galluogi pobl i brofi seiclo mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Llun gan: Clwb Beicio Addasol Pŵer Seiclo
PIWS Traeth Lligwy, Bae Lligwy
PIWS yw cwmni buddiannau cymunedol yn Ogledd Cymru sy’n credu mewn ac yn ffafrio gwneud mynediad yn haws i bawb.
Rhan o’r gwasanaethau maent yn cynnig i’r gymuned yw cael cadeiriau olwyn sy’n gallu teithio ar draethau Traeth Lligwy ar Ynys Môn, diolch i gyllid Adferiad Gwyrdd gan Lywodraeth Cymru.
Cerdded Bannau Brycheiniog, Merthyr Tudful
Mae’r grŵp cerdded yma, wedi’ leoli yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant ym Mharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog, yn cynnal sesiynau cerdded wedi’ anelu at wahanol lefelau o allu.
Ynghyd â hyn, mae Cerdded Bannau Brycheiniog yn cynnal sesiynau trafodaeth, codi arian am elusennau lleol, a chynnig hyfforddiant yn yr awyr agored ar gyfer arweinwyr teithiau cerdded er mwyn ceisio cynyddu cyfranogiad ymhlith grwpiau cymunedol lleol.
Mae Cerdded Bannau Brycheiniog yn annog pobl o bob gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerdded. Llun gan: Janine Price\Cerdded Bannau Brycheiniog
Taith Cerdded Dydd Mercher Ponthafren, Y Drenewydd
Ym Mhowys, mae Ponthafren yn sefydliad corfforedig elusennol sy’n cynnal dau ganolfan llesiant, addysg, ac adferiad, efo’r nod o ddod â phobl at ei gilydd a gwaredu’r gwarthnod sy’n gallu dod ag iechyd meddyliol.
Ar Ddyddiau Mercher, maent yn gweithredu grŵp cerdded wythnosol o gwmpas Y Drenewydd sy’n rhoi’r cyfle i bobl i rannau profiadau a chael amser yn yr awyr agored.
BikeAbility Wales, Dynfant
BikeAbility Wales yw’r elusen seiclo gynhwysol sy’n cynnig nifer o wasanaethau gwahanol gan gynnwys hyfforddiant seiclo, sesiynau cynnal a chadw beiciau, llogi beiciau addasedig, a theithiau grŵp.
Maent yn gwasanaethu pob math o grwpiau gwahanol, galluoedd, ac oedrannau efo’r nod o wneud seiclo mor hygyrch ag sy’n bosib i gymaint o bobl ag sy’n bosib.
The Intersensory Club, Y Barri
Mae’r Intersensory Club yn rhedeg sesiynau ar brynhawniau Mercher a Gwener sy’n cynnig gwahanol feiciau, treiciau, a thandemau addasedig ar gyfer pobl ag anableddau gwahanol.
Nod y clwb yw i wneud offer a chyfleusterau arbenigol, addasedig ar gael i’r bobl sydd eu hangen ym Mro Morgannwg.
Pŵer Pedal Wrecsam, Wrecsam
Yn cael ei weithredu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun yn Wrecsam, mae Pŵer Pedal Wrecsam yn galluogi pobl ag anghenion symudedd gwahanol y cyfle i brofi seiclo mewn man diogel.
Mae gan yr elusen fflyd o feiciau arbenigol ac addasedig, yn ogystal â mynediad at drac di-draffig i bobl cael defnyddio.