Beth yw’r atgofion sydd gennych o’ch plentyndod sy’n dod â gwên i’ch wyneb? Reidio eich beic, archwilio mannau newydd ac anghyfarwydd a bod allan gyda’ch ffrindiau? Dyma’r tri prif beth yr oedd oedolion heddiw’n mwynhau eu gwneud pan oeddent yn blant, gyda 70% yn cael y rhan fwyaf o’u hanturiaethau yn yr awyr agored.
Cymharwch hyn â phlant heddiw. Ar frig eu rhestr hwythau hefyd mae chwarae ar eu beiciau ac archwilio mannau newydd ac anghyfarwydd. Fodd bynnag, dim ond 29% o blant heddiw sy’n cael anturiaethau yn yr awyr agored, gyda llawer o hyn yn digwydd dan oruchwyliaeth agos oedolion. Mae gweithgareddau megis dringo coed, chwarae concyrs a hyd yn oed chwarae cuddio, i gyd yn cael eu hystyried yn rhy beryglus gan rai rhieni.
Mae hyn hefyd yn wir am deithio o gwmpas yn annibynnol. Yn y 1970au roedd 80% o blant 7 ac 8 oed yn cerdded neu’n beicio i’r ysgol ar eu pen eu hunain. Erbyn heddiw mae 84% o blant 7 i 10 yn mynd i’r ysgol yng nghwmni oedolyn.
Yn Sustrans credwn ei bod yn bryd i hyn newid. Maes allweddol ein gwaith fu gwrthdroi’r gostyngiad mewn lefelau cerdded a beicio i’r ysgol a thu hwnt, a’i gwneud hi’n haws i blant fod allan yn yr awyr agored a bod yn gorfforol egnïol. Rydym wedi cyflawni llawer, ond mae angen i ni wneud mwy, ac rydym angen eich cymorth chi i wneud hynny. Dyna pam ein bod yn lansio ein hymgyrch Plant Awyr Iach.
Rydym am weld cenhedlaeth newydd o blant awyr iach bywiog ac annibynnol sydd â’r hyder, y sgiliau a’r cyfleoedd i deithio o garreg eu drws ar eu pen eu hunain, i wneud eu taith eu hunain i’r ysgol, i chwarae yn yr awyr agored ac i archwilio eu cymdogaeth yn ddiogel ac yn annibynnol - yn union fel yr arferem ni ei wneud.
Cewch ysbrydoliaeth, cyngor, adnoddau a syniadau gwych am weithgareddau ar gyfer rhieni, athrawon ac unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant, neu sy’n gofalu am blant, ar y wefan hon. Cewch wybod hefyd sut i gefnogi’r ymgyrch drwy ddod yn eiriolwr, cofrestru ar gyfer ein hymgyrchoedd gweithredu, a thrwy gynnwys eich teulu a’ch ffrindiau.
Er budd iechyd, hapusrwydd a lles ein plant, ymunwch â ni a chwarae eich rhan.
Gallwch ddarllen mwy ynglŷn â pham bod Sustrans yn credu bod pob plentyn yn haeddu bod yn yr awyr iach yn Pam ei bod yn Bwysig.
Cewch ffeithiau a ffigurau ynglŷn â’r materion ac o’r ymchwil diweddaraf yn Ffeithiau a Ffigurau
Gwybodaeth yn Gymraeg
Mae Sustrans yn gweithio i ddarparu gwybodaeth yn Gymraeg lle bynnag bo hynny’n bosibl, ond ar hyn o bryd ni allwn gynnig gwefan cwbl ddwyieithog. Os ydych angen unrhyw wybodaeth sydd ar y wefan hon yn Gymraeg, cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i’w darparu. E-bostiwch cymraeg@sustrans.org.uk neu ffoniwch 029 2065 0602