Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 9th MAY 2023

Ysgolion Cymreig yn cael cydnabyddiaeth fel rhan o ddathliadau 10 mlynedd y Ddeddf Teithio Llesol

Nid yw teithio llesol ond yn bwysig wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd a lleihau llygredd aer. Mae'n hefyd yn wych ar gyfer ein hiechyd a lles corfforol. Fel rhan o'r dathliadau ar gyfer y 10fed pen blwydd o'r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru), mae Sustrans Cymru yn cydnabod ymdrechion ysgolion sydd wedi hyrwyddo a chefnogi teithio llesol ymhlith eu cymunedau.

Tad a meibion yn seiclo i'r ysgol yn Llangollen, Gogledd Cymru. Llun gan: G. Thomas.

Mae ein rhaglen Teithiau Iach yng Nghymru wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn helpu plant ar draws y wlad i gerdded, olwyno, sgwtera, a seiclo i'r ysgol yn ddiogel, yn hawdd, ac yn hyderus.


Mae ysgolion sy'n derbyn cymorth Teithiau Iach yn weld cynyddiad sylweddol yn y nifer o bobl ifanc a theuluoedd sy'n deithio i'r ysgol yn llesol.


Fel rhan o ddathliadau Sustrans Cymru o'r 10fed pen blwydd y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru), dymunwn cydnabod ymdrechion anhygoel ysgolion ar draws Cymru oll a'r hyn maent wedi'u wneud wrth cefnogi cenhedlau'r dyfodol i deithio'n llesol.

Disgyblion yn mwynhau wedi iddynt deithio'n llesol i'r ysgol. Llun gan: G. Thomas.

Gogledd Orllewin Cymru

Ysgol: Ysgol Gynradd Llanfairpwll

Cydnabyddiaeth Arbennig: Pencampwr Teithiau Iach Ymroddedig; dod â theithio llesol i’r ystafell ddosbarth

Mae Ysgol Gynradd Llanfairpwll, Ynys Môn, yn Ysgol Teithiau Iach newydd a ymunodd â’r rhaglen ym Medi 2022.

Hoffai Sustrans rhoi cydnabyddiaeth arbennig i’r pencampwr teithiau iach ymroddedig, Mr Eilir Evans, sy’n dysgu Blynyddoedd 3 a 4.

Mae Mr Evans wedi bod yn frwdfrydig ac ymroddgar i’r Rhaglen Teithiau Iach o’r ddechrau.

Datblygodd Mr Evans uned gwaith tair-wythnos i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn seiliedig ar deithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd.

Gan ymgorffori teithio llesol mewn i’r cwricwlwm, mae Mr Evans wedi sicrhau bod themâu teithio llesol, aer glân, diogelwch ar y ffyrdd, ac iechyd a llesiant wedi’i fewnblannu mewn addysg disgyblion.

Yn ogystal â dysgu yn yr ystafell ddosbarth, mae disgyblion Ysgol Gynradd Llanfairpwll wedi cymryd rhan mewn Wythnos Seiclo i’r Ysgol, sesiwn cynnal a chadw Dr Bike, sesiwn Blingiwch eich Beic y Nadolig, a digwyddiad Byddwch yn Amlwg Byddwch yn Ddiogel ers mis Medi.

Cymerodd yr ysgol rhan yn ymgyrch Stroliwch a Roliwch Sustrans yn fwy diweddar; her cerdded, olwyno, sgwtera, a seiclo rhwng-ysgol mwyaf y DU.

Cofnododd disgyblion cyfanswm o 2,086 o deithiau llesol i’r ysgol yn ystod yr her 10-ddiwrnod.

Edrychwn ymlaen at gydweithio efo Mr Evans yn y dyfodol i gynyddu’n bellach ymwybyddiaeth o fanteision teithio llesol efo disgyblion yn Llanfairpwll.

Dysgu sgiliau cynnal a chadw beiciau i ddisgyblion fel rhan o sesiwn Dr Bike. Llun gan: G. Thomas.

Gogledd Ddwyrain Cymru

Ysgol: Ysgol Arbennig Gymunedol Tir Morfa

Cydnabyddiaeth Arbennig: Cynnwys pawb a lleihau llygredd aer

Ymunodd Ysgol Tir Morfa, Y Rhyl, ein Rhaglen Teithiau Iach nol yn 2018.

Mae Sustrans eisiau rhoi cydnabyddiaeth arbennig i Ysgol Tir Morfa am gynnwys pawb mewn teithio llesol.

Credwn dylai pob disgybl cael y cyfle i gerdded, olwyno, sgwtera, neu seiclo, ac mae Ysgol Tir Morfa yn arddangos cynhwysiad teithio llesol.

Am blant a phobl ifanc efo anableddau, gall newid sut maent yn teithio i’r ysgol bod fach yn fwy heriol.

Er hyn, does dim byd yn atal dosbarth Pencampwr Teithiau Iach Fran Hoare rhag bod yn llesol.

Yn ystod haf 2022, cafodd trac amlddefnydd ei adeiladu ar safle Ffordd Derwen. Mae hyn yn galluogi’r fflyd o feiciau addasedig, sgwteri, a chadeiriau olwyn i gael eu defnyddio i helpu’r disgyblion tyfu mewn hyder mewn amgylchedd diogel.

Cawson nhw wared â’r minibws ar ddechrau’r pandemig, efo disgyblion ac athrawon yn dewis i deithio’n llesol yn lle, ar wibdeithiau.

Cofnododd Tir Morfa gostyngiad o 96% mewn allyriadau CO2 cyffredinol gan leihau teithiau minibws, gan gynnwys teithiau i’r ysgol ac o’r ysgol.

Yn olaf, wedi’i ysbrydoli ar ôl gweld beic wedi’i adael wrth godi sbwriel, mae’r ysgol wedi dechrau ei brosiect “ReCycles” er mwyn i ddisgyblion dysgu am gynnal a chadw beiciau.

Mae disgyblion o’r safle Ôl-16 wedi cyflawni eu cymhwyster cynnal a chadw beiciau lefel 1 City and Guilds, gan ddatblygu’r sgiliau i alluogi teithio llesol i eraill yn y dyfodol.

Mae'r rhaglen Teithiau Iach wedi helpu plant ar led Cymru i fwynhau manteision teithio llesol. Llun gan: G. Thomas.

Canolbarth a Gorllewin Cymru

Ysgol: Ysgol Glannau Gwaun

Cydnabyddiaeth Arbennig: Wedi’i ymrwymo tuag at bawb a meddwl creadigol

Ymunodd Ysgol Glannau Gwaun, Sir Benfro, â’r Rhaglen Teithiau Iach yn Hydref 2020 ac maent wedi gweithio efo ni dros y 3 flwyddyn ddiwethaf.

Hoffai Sustrans rhoi cydnabyddiaeth arbennig i’r ysgol am fod mor ymroddedig at sicrhau bod pawb yn cael ei gynnwys ac am feddwl creadigol.

Mae Pencampwr Teithiau Iach a Dirprwy Bennaeth, Mrs Osborne, yn ymroddedig at sicrhau gall pob un disgybl cymryd rhan mewn cerdded, olwyno, sgwtera, a seiclo.

Un o egwyddorion hanfodol Sustrans yw cynnwys pawb yn ein gwaith, ac mae Ysgol Glannau Gwaun yn esiampl berffaith o sut mae hyn wedi’i weithredu.

Efo cefnogaeth gan Sustrans, prynodd Mrs Osborne fflyd o sgwteri a helmedau ar gyfer disgyblion yr ysgol.

Nid yw rhai teuluoedd yn gallu fforddio prynu sgwteri a beiciau newydd ar gyfer eu plant, felly mae fflyd o offer yn galluogi pawb i gael ei gynnwys yn y gweithdai sgiliau sy’n cael eu rhedeg gan Sustrans ac i deithio’n llesol i’r ysgol.

Mae Ysgol Glannau Gwaun wedi cymryd rhan mewn ymgyrch Stroliwch a Roliwch Sustrans yn flynyddol ers 2020.

Yn ystod Stroliwch a Roliwch 2023, sgôr cyfartalog dyddiol sylweddol Ysgol Glannau Gwaun oedd 52%, yn golygu teithiodd dros hanner y disgyblion yn llesol i’r ysgol yn ystod yr her.

Plant ysgol yn mwynhau ar ôl iddynt deithio i'r ysgol ar feic a sgwteri. Llun gan: Jonathan Bewley.

De Ganolog Cymru

Ysgol: Ysgol Gynradd Tre Uchaf

Cydnabyddiaeth Arbennig: Pencampwr yn mynd y filltir ‘llesol’ ychwanegol

Mae Ysgol Gynradd Tre Uchaf, Abertawe, wedi bod yn rhan o’r Rhaglen Teithiau Iach ers Mai 2021, ac wedi bod yn gweithio â ni dros y tair blynedd diwethaf.

Mae Sustrans eisiau rhoi cydnabyddiaeth arbennig i bencampwr Ysgol Gynradd Tre Uchaf ac athro Blwyddyn 6, Mr Morgan Civil, am fynd y filltir ‘llesol’ ychwanegol.

Mae Mr Civil wedi adeiladu gweithle a stordy beiciau a sgwteri ar safle’r ysgol, i ddisgyblion cael datblygu eu sgiliau beiciau mecaneg.

Mae Mr Civil hefyd yn gweithredu clwb beiciau ac yn arwain bws cerdded yr ysgol.

Mae’r clwb beiciau wedi bod yn brysur yn datblygu eu sgiliau seiclo yn ogystal â’u sgiliau cynnal a chadw beiciau efo sesiynau trwsio tyllau.

Mae’r criw beiciau’n defnyddio eu sgiliau i gefnogi'r Swyddog Teithiau Iach lleol, Roger, efo digwyddiadau Dr Bike.

O ganlyniad i gefnogaeth ac ymroddiad ei bencampwr, Mr Civil, mae sesiynau teithio llesol megis ffyrdd mwy diogel i’r ysgol, yn ogystal â gweithdai cyson ar sgiliau seiclo a sgwtera wedi cael eu cynnal.

Yn fwy diweddar, cymerodd yr ysgol rhan mewn Stroliwch a Roliwch; yr her cerdded, olwyno, sgwtera, a seiclo rhwng-ysgol mwyaf y DU.

Cofnododd disgyblion cyfanswm o 953 o deithiau llesol i’r ysgol yn ystod yr her 10-ddiwrnod.

Gorffennodd Tre Uchaf y gystadleuaeth Stroliwch a Roliwch efo’i Fws Cerdded Dydd Gwener wythnos, er gwaethaf y gwynt a’r glaw.

Disgyblion yn mwynhau sesiwn sgiliau sgwteri. Llun gan: Sustrans.

De Ddwyrain Cymru

Ysgol: Ysgol Gynradd Fochriw

Cydnabyddiaeth Arbennig: Agwedd holl gymuned yr ysgol at deithio llesol

Mae Ysgol Gynradd Fochriw, Caerffili, wedi bod yn ysgol Teithiau Iach ymroddgar ar y Rhaglen ers Medi 2021.

Hoffai Sustrans rhoi cydnabyddiaeth arbennig i Ysgol Gynradd Fochriw am y ffordd maent wedi mynd ati i annog a chynyddu teithio llesol fel cymuned ysgol.

Mae’r Pennaeth, Mrs S Pascoe, wedi bod yn hynod o gefnogol wrth alluogi teithio llesol ar draws yr holl ysgol.

Mae criw disgyblion Teithiau Iach wedi bod yn brysur yn hyrwyddo teithio llesol i weddill yr ysgol hefyd, yn ogystal â chymuned ehangach yr ysgol, efo gwasanaethau a phosteri.

Mae disgyblion yn Fochriw hefyd wedi cymryd rhan mewn Wythnos Seiclo i’r Ysgol, sesiwn cynnal a chadw Dr Bike, gweithdy sgiliau sgwtera, a gwers am ffyrdd mwy diogel.

Hefyd, mae rhieni wedi bod yn allweddol wrth annog yr holl gymuned ysgol i gerdded, olwyno, sgwtera, a seiclo. Er i’r ysgol cael ei leoli ar ben bryn, mae’r ysgol wedi cymryd rhan mewn ymgyrch Stroliwch a Roliwch Sustrans dros y 4 blynedd diwethaf.

Yn ystod Stroliwch a Roliwch 2023, sgôr cyfartalog dyddiol Fochriw oedd y ffigwr sylweddol o 66.67% - golygir hyn teithiodd llawer mwy nag hanner o ddisgyblion yr ysgol yn llesol yn ystod yr her.

Llwyddodd Fochriw i gael ei Wobr Ysgol Teithio Llesol efydd ym Mehefin 2022, ac ar hyn o bryd maent yn gweithio’n galed tuag at y wobr arian.

Share this page

Darllenwch am y newyddion diweddaraf o Gymru.